This job advert has expired
Cydlynydd Marchnata a chyfathrebu
Cydlynydd Marchnata a chyfathrebu
Overview:
Mae’r swydd hon yn gyffrous ac yn galw am unigolyn hyblyg, brwdfrydig a hyderus sy’n gallu meistroli nifer o elfennau amrywiol sydd ynghlwm â gwaith Mentrau Iaith Cymru. Mae Marchnata yn elfen greiddiol o’r gwaith.
Description:
Mae’r swydd hon yn gyffrous ac yn galw am unigolyn hyblyg, brwdfrydig a hyderus sy’n gallu meistroli nifer o elfennau amrywiol sydd ynghlwm â gwaith Mentrau Iaith Cymru. Mae Marchnata yn elfen greiddiol o’r gwaith.
Bydd gofyn gallu teithio i amryw o leoliadau ledled Cymru yn ôl y galw.
Amdanom ni
Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) wedi bod yn gweithredu fel corff canolog i gefnogi gwaith y rhwydwaith o Fentrau Iaith lleol ers 1999 trwy amryw o weithgareddau. Ein prif nod yw darparu cyfleoedd i rwydweithio, roi llais i’r rhwydwaith, datblygu prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol sy’n caniatáu i’r rhwydwaith weithio ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol, a chynnig cefnogaeth ac arweiniad i’r Mentrau Iaith ar faterion amrywiol, gan gynnwys polisi mewnol, staffio, ymchwil a chyfleoedd datblygu yn y maes cynllunio iaith.
Rydym yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn chwarae rôl bwysig o fewn y 3ydd sector.
Prif Bwrpas y Swydd
Gweithio fel rhan o dîm bychan sy'n cefnogi gwaith y Mentrau Iaith ledled Cymru. Cydlynu cefnogaeth i’r rhwydwaith o Fentrau Iaith a chydlynu prosiectau sy’n ychwanegu gwerth i waith y Mentrau wrth iddynt gryfhau’r Gymraeg yn y gymuned. Bydd y swydd yn canolbwyntio ar weithredu rhaglen marchnata a chyfathrebu ar gyfer y rhwydwaith o Fentrau Iaith.
Prif Ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Arwain ar lunio Cynllun Marchnata a chyfathrebu ar gyfer y rhwydwaith o Fentrau Iaith gan gydlynu mewnbwn gan y Bwrdd Cyfarwyddwyr, staff MIC a staff y Mentrau.
Gweithredu Cynllun Marchnata blynyddol fydd yn cynnwys elfennau o hyrwyddo’r rhwydwaith a gwaith y Mentrau, a chydlynu ymgyrchoedd marchnata cenedlaethol
Hwyluso llif cyfathrebu rhwng MIC a’r rhwydwaith o Fentrau Iaith, gan gynnwys cydlynu’r Bwletin misol
Cadw gwybodaeth a delwedd gyfredol am waith MIC a’r rhwydwaith ar wefan Mentrau Iaith Cymru
Rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Mentrau Iaith Cymru
Cynorthwyo a chefnogi’r Mentrau wrth iddynt farchnata eu gwaith
Cynorthwyo’r rhwydwaith i uchafu cyrhaeddiad eu gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol
Datblygu partneriaethau i hyrwyddo’r Gymraeg
Cydgynllunio a chydlynu ymgyrchoedd marchnata a chenedlaethol yn unol â’r Cynllun blynyddol
Mewnbynnu i geisiadau ariannol posib
Dyletswyddau a chyfrifoldebau cyffredinol
Cefnogi gwaith swyddogion eraill MIC i gyflawni gweithgareddau a phrosiectau amrywiol
Cyfrannu i adroddiadau ar y gwaith a gyflawnwyd a’i effaith er mwyn adrodd i Fwrdd Cyfarwyddwyr MIC a Llywodraeth Cymru
Mynychu digwyddiadau MIC
Mynychu cyrsiau hyfforddiant a chyfarfodydd perthnasol
Ymgymryd ag unrhyw dasgau a gofynion eraill rhesymol
Sgiliau / Profiad hanfodol
Profiad o weithio yn y maes marchnata a chyfathrebu
Yn drefnus ac effeithiol, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol o safon uchel
Y gallu i drefnu gwaith heb gyfarwyddyd uniongyrchol gan ddatblygu syniadau a chynlluniau newydd o dan arweiniad
Sgiliau cyfrifiadurol da
Yn rhugl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) - ar lafar ac ysgrifenedig
Y gallu i gydweithio ag eraill ac ennyn diddordeb a brwdfrydedd
Dealltwriaeth o waith MIC, Mentrau Iaith a phartneriaid sy’n ymwneud â’r maes hyrwyddo’r Gymraeg
Sgiliau / profiad dymunol
Hyfforddiant neu brofiad o gyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol
Hyfforddiant neu brofiad o reoli gwefannau
Hyfforddiant neu brofiad mewn dylunio digidol
Hyfforddiant neu brofiad o gasglu, coladu a chyflwyno data
Profiad a dealltwriaeth o waith y trydydd sector yng Nghymru
Profiad o gynllunio prosiectau a llunio ceisiadau grant
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
Additional job information can be found below
Use the documents below to apply for the job advert
Use the contact information above to contact us for more information
Downloads / Forms and useful documents:
Disgrifiad Swydd Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu
Ffurflen Gais
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Cydlynydd Marchnata a chyfathrebu
Contact Cydlynydd Marchnata a chyfathrebu