This job advert has expired

Cydlynydd Cyfathrebu

Cydlynydd Cyfathrebu

Overview:

Cynorthwyo gyda darpariaeth dydd-i-ddydd Gwasanaeth Cyfathrebu Traffig Cymru Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â'r Cyhoedd, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: Cyngor Gwynedd
Salary: £24,294 - £25,979 y flwyddyn
Closing Date: 26/09/2024
Closing Time: 10:00:00
Contact Name: Adran Adnoddau Dynol
Location: Location details can be found in the description
Description:

Pwrpas y swydd

• Cynorthwyo gyda darpariaeth dydd-i-ddydd Gwasanaeth Cyfathrebu Traffig Cymru Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â'r Cyhoedd, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

• Darparu cymorth gweinyddol i wasanaethau ACGChC a Llywodraeth Cymru pan fo llwythi gwaith yn caniatâu.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

• Diogelwch adeilad rhwng 7.00am a 7.00pm

• Rheoli OGP (Offer Gwarchod Personol) a ddarparwyd i staff CRhTGC (Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru).

Prif ddyletswyddau

Swyddogaeth Traffig Cymru

Traffig Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â'r cyhoedd y gofynnwyd i'r Asiant ei ddarparu ledled Cymru. Traffig Cymru yw'r cyswllt rhwng y cyhoedd a Chanolfannau Rheoli Traffig Llywodraeth Cymru yng Nghonwy (Gogledd Cymru) a Choryton (De Cymru). Mae LlC yn ymgeisio i wella'r gwasanaeth trwy ehangu'r dulliau o gyflwyno gwybodaeth er mwyn cael effaith arwyddocaol o gadarnhaol ar reoli'r rhwydwaith ffyrdd yn effeithiol.

Mae cyfrifoldebau'r swyddogaeth yn cynnwys:

• Bod y cyswllt cyntaf ar gyfer y Gwasanaeth yn Gymraeg a Saesneg

• Ateb ac ymateb i ymholiadau a chwynion gan y cyhoedd a budd-ddeiliaid eraill y gwasanaeth mewn modd proffesiynol, yn ogystal â thrwy e-bost, er mwyn darparu amrywiaeth eang o ymatebion, gan gynnwys: statws y rhwydwaith, cyngor ar waith ffordd, cyngor ar lwybrau a gwybodaeth am gyrchnodau

• Ymateb i bob e-bost a dderbynnir

•Darparu swyddogaethau cyfryngau cymdeithasol yn unol â phrosesau cytunedig gan gynnwys:

• Rhannu gwybodaeth ddwyieithog gyda’r cyhoedd sy’n teithio trwy ddefnyddio gwefan Traffig Cymru a thrwy Twitter, gan gynnwys delweddau, gwybodaeth am ddigwyddiadau, gwaith a gynlluniwyd a digwyddiadau mawr yn ogystal â gweithgareddau'r Asiantau.

• Casglu gwybodaeth sy’n ymwneud â thraffig a’r rhwydwaith o amryw o ffynonellau gan gynnwys darparwyr gwasanaeth, Staff Gweithredol a Gwaith Stryd ACGCC, Llywodraeth Cymru a sefydliadau sector preifat, e.e. Google, TomTom a Roadworks.org

• Cynorthwyo gyda rhoi gwybodaeth ar wefan a system Traffig Cymru.

• Cydlynu gyda'r Awdurdodau Heddlu perthnasol, gweithredwyr ystafell reoli a staff rheoli'r rhwydwaith yng Ngogledd a De Cymru

• Cofnodi pob ymholiad ac ymateb yng nghronfa ddata Rheoli Ymholiadau'r Cyhoedd Llywodraeth Cymru

Swyddogaeth Ymateb i Ddigwyddiad

• Cwblhau gwyriadau dyddiol ar wahanol lwyfannau i sicrhau na rhagwelir unrhyw broblemau.

• Monitro cyfryngau gan gynnwys y wasg, we a lwyfannau chymdeithasol

• Cynorthwyo i sicrhau diogelwch yr adeiladu gan gynnwys cyfarch ymwelwyr, cardiau diogelwch, anwytho staff ar gyfer y safle a gwiriadau adeilad.

• Unrhyw dasg arall sy'n gymesur â'r rôl a neilltuwyd gan y Swyddog Cyfathrebu neu'r Tīm Rheoli Asiant.

Rôl ymateb i argyfwng

• Gweithredu fel cofnodwr (os bydd angen) yn ystod digwyddiadau pwysig gan gofnodi gweithredoedd allweddol a wnaed yn unol â gweithdrefnau ymateb i argyfwng yr Asiant.

Cydymffurfiaeth Statudol

• Cynorthwyo'r Asiant i gydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data, y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a gofynion deddfwriaethol eraill sy'n gysylltiedig â gweinyddu.

Swyddogaeth Weinyddol

• Cefnogi y Swyddog Cyfathrebu mewn cynorthwyo a datblygu gwiethdrefnau, casglu gwybodaeth ystadegol a dyletswyddau gweinyddol i gefnogi y Gwasanaeth Traffig Cymru.

• Darparu cefnogaeth weinyddol i gyfarfodydd gan gynnwys sefydlu yr ystafelloedd cyfarfodydd a chymryd cofnodion

• Cydlynu archebu ystafelloedd cyfarfodydd, llogi cerbydau.

• Cymorth gweinyddol i weddill staff yr ACGChC pan yn caniatau.

GOFYNION ERAILL

Darparu cyflenwad dros dro o Gydlynwyr Cyfathrebu Gwasanaeth Traffig Cymru yn ystod cyfnodau o absenoldeb neu yn ystod digwyddiadau a digwyddiadau annisgwyl pwysig. Bydd hyn yn gofyn am weithio y tu hwnt i oriau craidd gan gynnwys ar benwythnosau yn achlysurol.

Wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod, cysylltu, fel y bo’n briodol, â swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a budd-ddeiliaid eraill.

Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.

Cydweithio gydag a chysylltu â staff o Gyfadran yr Amgylchedd, o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac o Awdurdodau Partner er mwyn sicrhau fod yr Asiantaeth a’r Gyfadran yn cael eu rheoli'n effeithiol.

Cynorthwyo aelodau staff eraill yr Asiant i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.

Canfod a chadw'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â:

• safonau, datblygiadau technegol a chyfrifiaduron

• arfer gorau cyfredol o ran materion gweinyddu

Dyletswyddau rheoli, gweinyddol, technegol a phroffesiynol eraill sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.

Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.

Amgylchiadau arbennig

• Mae gofyn bod yn hyblyg gan weithio oriau ychwanegol yn sgil salwch staff, gwyliau staff er mwyn sicrhau cyflenwad i wasanaeth Traffig Cymru rhwng 7am a 7pm. (Telir goramser am hyn). Bydd y rôl yn gofyn i'r ymgeisydd weithio shifftiau 12 awr ar sail 4 diwrnod ymlaen a 4 diwrnod i ffwrdd er mwyn sicrhau cyflenwad i wasanaeth Traffig Cymru rhwng 7am a 7pm. Dyma fydd yn digwydd mewn wythnos arferol, ond gyda hyblygrwydd pan fydd gwyliau blynyddol ac absenoldeb salwch.

• Gofyn gweithio oriau ychwanegol yn ystod digwyddiadau nag rhagwelwyd e.e. tywydd garw neu ddigwyddiadau traffig ar y ffordd.

• Gofyn gweithio ambell shifft penwythnos pan fydd digwyddiadau pwysig wedi'u rhaglennu neu eu rhagweld e.e. digwyddiadau chwaraeon pwysig, cyngherddau pop ac ati, a bydd goramser yn daladwy.

• Cydlynu gyda'r Swyddog Cyfathrebu/Rheolwr Cyfathrebu a Datblygiad Staff parthed gwyliau/salwch er mwyn sicrhau bod lefel cyflenwad y staff gweinyddol y swyddfa'n cael ei gynnal.

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW

More

SEE ALL

Aelodau Bwrdd Annibynnol

Swyddog Llywodraethiant

Rheolwr Prosiect y Banc Bwyd