This job advert has expired

Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Talaith y De Ddwyrain (Cyfnod 6 mis)

Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Talaith y De Ddwyrain (Cyfnod 6 mis)

Overview:

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin.  Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel.  Bydd disgwyl i’r person fod yn gynghorydd  cyswllt i glwstwr o ddarpariaethau a’u pwyllgorau . Yn ychwanegol i hynny bydd disgwyl i’r person gefnogi gwaith yr holl ddarpariaethau yn yr ardal i gynnal a chodi ansawdd a safon. 

Cyfweliadau: 6.3.2025 yn swyddfa Mudiad Meithrin Caerdydd.

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: Mudiad Meithrin
Salary: MM22 – MM25, £28,312- £31,414
Closing Date: 28/02/2025
Closing Time: 23:30:00
Contact Name: Ann Angell, Rheolwr Talaith y De Ddwyrain
Phone: 01970 639639
Location: Location details can be found in the description
Description:

Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
•    Ymweld a Chylchoedd Meithrin bob hanner tymor i gefnogi a chynghori a chefnogi’n ychwanegol trwy ffon, e bost  a chyfarfodydd rhithiol ac wyneb i wyneb.
•    Ymweld a Meithrinfeydd Dydd a Chylchoedd Ti a Fi unwaith y tymor.

Datblygu Darpariaethau
•    Adnabod cyfleoedd i  ehangu gwasanaethau Cylchoedd Meithrin ac i godi a chynyddu safon darpariaethau Mudiad Meithrin
•    Cydweithio ag Athrawon Ymgynghorol/ Cyswllt i gynorthwyo darpariaethau i weithredu egwyddorion y Dysgu  Sylfaen, y Cwricwlwm newydd ac ymateb i ofynion Estyn 
•    Cynghori a chefnogi darpariaethau i baratoi a mabwysiadau  fframwaith CDGPC gan adnabod cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau.
•    Cydweithio gyda’r cylchoedd a phartneriaid i sicrhau ansawdd a safon uchel o fewn y ddarpariaeth a gofynion AGC, Estyn, yr Awdurdodau Lleol,  Dechrau’n Deg a CDGPC 
•    Anwytho pwyllgorau ac Arweinyddion newydd yn drylwyr i gydymffurfio a gofynion deddfwriaethol a rheoleiddio.
•    Annog, arwain a chynghori Cylchoedd Meithrin i ymgeisio am gynllun ansawdd Mudiad Meithrin sef Safonau Serennog Arian/Aur
•    Hyrwyddo cyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol
•    Cydweithio a’r cylchoedd Ti a Fi lleol i annog dilyniant i’r Cylch Meithrin ac ymlaen at addysg Gymraeg
•    Adnabod cyfleoedd i sefydlu Cylchoedd Ti a Fi newydd. 
•    Annog y cylchoedd i fuddsoddi amser i ddatblygu Cylchoedd Ti a Fi i ddenu rheini at addysg Gymraeg.
•    Annog Cylchoedd Ti a Fi i gofrestru ar gyfer gynllun archredu ansawdd Mudiad Meithrin sef Cylch ti a Fi Serennog. 

Cefnogaeth Fusnes
Cynnig cefnogaeth fusnes ac arweiniad i bwyllgorau gwirfoddol ar y canlynol gan dynnu ar arbenigeddau canolog ac adnoddau Mudiad Meithrin
•    Materion ariannol e.e.  rhagolygon llif arian, rhifau torri’n hafal, ceisiadau grant, cwblhau cyfrifon a sicrhau gweithdrefnau ariannol fydd yn arwain at gynaliadwyedd. 
•    Cynlluniau busnes e.e cynnig arweiniad wrth eu datblygu
•    Materion elusennol e.e gofynion SCE ac adrodd i’r Comisiwn Elusennau.
•    Materion rheoli AGC e.e sicrhau bod pwyllgorau a staff yn cwrdd â safonau yr Arolygaeth
•    Rheoli Perfformiad e.e cefnogi pwyllgorau i reoli perfformiad staff a’r cylch i sicrhau rhediad esmwyth o fewn y cylch.
•    Bod yn bwynt cyswllt i Berson Cofrestredig/  Unigolion cyfrifol y darpariaethau gan eu cyfeirio at y gefnogaeth a chyngor cywir â rhannu arfer da.

Gweithio mewn partneriaeth
•    Mynychu cyfarfodydd sirol megis is grwpiau CSGA, grwpiau ansawdd gan eirioli dros ein haelodau wrth gynllunio’n lleol.
•    Cydweithio gyda staff, pwyllgorau ac Awdurdodau Lleol i weithredu polisïau cenedlaethol ar lawr gwlad e.e Ehangu cynllun Dechrau’n Deg, Y Cynnig Gofal Plant, CDGPC, Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, a Chynllun Sefydlu a Symud Mudiad Meithrin.
•    Gweithredu’n unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin
•    Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e. sioeau, digwyddiadau i deuluoedd, eisteddfodau yn ôl yr angen
•    Cydweithio a’r adran Farchnata i gynnal gwyliau Dewin a Doti .

Rhannu arbenigedd
•    darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a thaleithiol. 
•    eirioli a hyrwyddo darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant o fewn y gymuned ac mewn cyfarfodydd amrywiol.
•    Hyrwyddo gwasanaethau Mudiad Meithrin e.e Academi, gwasanaeth cyfieithu, marchnata.
•    Mynychu cyfarfodydd tîm  a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn 
•    Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 
•    Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

Additional job information can be found below

Use the documents below to apply for the job advert

Use the contact information above to contact us for more information

Downloads / Forms and useful documents:

Swydd Ddisgrifiad

Ffurflen Gais

Buddion Staff

Ffurflen Monitro

Polisi Diogleu Plant

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *

APPLY NOW

More

SEE ALL

Cydlynydd prosiectau

Swyddog Datblygu

Human Resources and Training Administrator