This job advert has expired

Athro Dosbarth Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon

Athro Dosbarth Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon

Overview:

Athro Dosbarth

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi athro/athrawes egnïol i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon ym mis Medi 2025. Dyma gyfle i fod yn rhan o ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a sefydlwyd ym mis Medi 2011. Daw’r 211 o ddisgyblion, y mwyafrif ohonynt, o gartrefi di Gymraeg, o wahanol gefndiroedd ac o wahanol ardaloedd ar draws y ddinas. Mae Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon wedi ei lleoli yng Ngogledd dinas Casnewydd, ond 12 milltir o Gaerdydd.

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: Cyngor Dinas Casnewydd
Salary: M2 - UPS3 £32,433 - £49,944
Closing Date: 04/04/2025
Closing Time: 11:30:00
Contact Name: Lona Jones-Campbell
Phone: 01633850804
Location: Location details can be found in the description
Description:

Athro Dosbarth

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi athro/athrawes egnïol i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon ym mis Medi 2025. Dyma gyfle i fod yn rhan o ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a sefydlwyd ym mis Medi 2011. Daw’r 211 o ddisgyblion, y mwyafrif ohonynt, o gartrefi di Gymraeg, o wahanol gefndiroedd ac o wahanol ardaloedd ar draws y ddinas. Mae Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon wedi ei lleoli yng Ngogledd dinas Casnewydd, ond 12 milltir o Gaerdydd.

Gwahoddir ceisiadau am y swydd hon oddi wrth athrawon brwdfrydig ac ymroddgar sydd yn barod i gyfrannu i fywyd allgyrsiol yr ysgol. Croesawir ceisiadau gan Athrawon Newydd Gymhwyso ac athrawon profiadol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyd-weithio’n agos gyda’r holl staff i ddarparu amgylchedd a phrofiadau cyffrous i’r plant o fewn naill ai dosbarthiadau Cam Cynnydd 2 neu Cam Cynnydd 3.

Cyfeiriodd Adroddiad ESTYN diweddaraf ym mis Hydref 2023 at yr ysgol yn “gymuned hapus a chyfeillgar, gyda’r ymdeimlad o fod yn rhan o un teulu mawr yn treiddio trwy bob elfen o waith a bywyd yr ysgol”. “Mae Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon yn gymuned hapus, gynhwysol a gofalgar sy’n rhoi pwyslais cryf ar ddathlu Cymreictod a pharchu eraill.”

Ysgol i Esgor Gobeithion

Am fwy o wybodaeth amdanom gweler ein gwefan a ffoniwch yr Ysgol (01633) 850804 os hoffech ddod am ymweliad neu sgwrs gyda’r Pennaeth, Mrs Lona Jones-Campbell.

Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adfer Troseddwyr (1974) ac yn ddibynnol ar wiriad gan y
Gwasanaeth Datgelu a Rhwystro.

MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON

Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.

Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

Additional job information can be found below

Use the contact information above to contact us for more information

Downloads / Forms and useful documents:

Disgrifiad swydd Athro Dosbarth

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *

APPLY NOW

More

SEE ALL

Uwch Swyddog Adnoddau Dynol

Digital Advisor

Cynllun Yfory (Cyngor Gwynedd Graduate Scheme) x8