This job advert has expired
Asesydd Lefel 3 neu Asesydd dan hyfforddiant
Asesydd Lefel 3 neu Asesydd dan hyfforddiant
Overview:
Rydym yn chwilio am aseswyr cymwys i gyflwyno hyfforddiant ac i asesu dysgwyr yn unol â’r Safonau Cenedlaethol, a Fframwaith Prentisiaethau (os yn berthnasol). Bydd disgwyl i’r person llwyddiannus ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu. Rydym yn chwilio am berson sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg ac sy’n frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol o’r radd uchaf.
Description:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Prif Swyddog Cam wrth Gam am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
· Cyflwyno’r cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant o fewn amser penodedig
· Dylai’r aseswyr fod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal.
· Mae’n gyfrifoldeb ar yr aseswyr i drefnu ymweliadau, arwain trafodaethau ac i gyfathrebu’n broffesiynol gyda’r dysgwyr, arweinyddion y Cylch, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad.
· Cynnal sesiwn anwytho gyda’r dysgwr ar ddechrau’r cwrs
· Cynnal cyfarfodydd cynnydd yn rheolaidd gyda’r dysgwr ac arweinydd/athro/ rheolwr y lleoliad
· Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan gymryd i ystyriaeth anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith.
· Sicrhau bod dysgwyr yn deall diben, gofynion a phrosesau asesiad.
· Defnyddio dulliau asesu dilys, teg dibynadwy a diogel.
· Nodi a chasglu tystiolaeth sy'n ddilys, cywir a digonol.
· Gwneud penderfyniadau asesu yn erbyn meini prawf penodol.
· Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith yn unol ag ymrwymiad cytundeb Cynllun Prentisiaethau Mudiad Meithrin (os yn berthnasol), wrth ymweld ag o bell.
· Sicrhau bod gwaith portffolio pob ymgeisydd yn cael ei gwblhau yn brydlon
· Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol sy’n cadarnhau cyflawniad ac yn nodi unrhyw ofynion ychwanegol.
· Cynnal cofnodion gofynnol o’r broses asesu, ei ddeilliannau a chynnydd y dysgwr.
· Gweithio gydag eraill i sicrhau y safonir arfer a deilliannau eraill.
· Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser.
· Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni.
· Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith.
· Mynychu 2 weithdy'r mis yn ystod y chwe mis cyntaf o’r cwrs
· Cyflwyno yn y gweithdai yn ôl yr angen.
· Paratoi’r dysgwr ar gyfer y 4 prawf
· Cwblhau dogfennau sy’n berthnasol i’r Fframwaith Brentisiaethau yn fisol yn unol ag ymrwymiad cytundeb Cynllun Prentisiaethau Mudiad Meithrin (os yn berthnasol)
· Mynychu Cyfarfodydd Safoni unwaith bob tymor.
· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
· Mynychu Seremoni Wobrwyo flynyddol.
· Cynorthwyo yn ôl yr angen i recriwtio dysgwyr mewn ardal benodedig.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
Downloads / Forms and useful documents:
Swydd Disgrifiad Lefel 3
Swydd Disgrifiad dan hyfforddiant
Ffurflen gais
Ffurflen Monitro
Buddion Staff
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Asesydd Lefel 3 neu Asesydd dan hyfforddiant
Contact Asesydd Lefel 3 neu Asesydd dan hyfforddiant