This job advert has expired

Arweinydd Clwb Carco - Garth Olwg / Llwyncelyn / Aberdar (3 swydd ar gael)

Arweinydd Clwb Carco - Garth Olwg / Llwyncelyn / Aberdar (3 swydd ar gael)

Overview:

Mae 3 swydd ar gael yn 3 o Glybiau Carco'r Fenter. 

Mae'r Clybiau yn rhedeg ar ddiwedd diwrnod ysgol, dydd Llun i Iau yn ystod tymor ysgol yn unig. Lleolir y Clybiau yn yr ysgolion.

Mae'r Gwasanaeth yma yn bwysig iawn i deuluoedd lleol, yn cynnig y cyfle i blant gael defnyddio'r Gymraeg tu allan i oriau ysgol. 

Mae posibilrwydd o waith ychwanegol e.e. Cynlluniau Chwarae Gwyliau a digwyddiadau penwythnos. 

Ceir mwy o fanylion yn y swydd ddisgrifiad sydd wedi atodi. 

Am sgwrs bellach cysylltwch gyda Lisa@menteriaith.cymru 

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Employers Name: Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Salary: £15.19 yr awr - 3 awr yr wythnos
Closing Date: 20/06/2025
Closing Time: 17:00:00
Contact Name: Osian Llyr Rowlands
Phone: 07980302285
Location: Location details can be found in the description
Description:

Disgrifiad Swydd Arweinydd / Person a Gofal Clwb Carco

Mae 3 swydd ar gaell yn y Clybiau Carco isod – dydd Llun i Iau (tymor ysgol yn unig)

Garth Olwg – 3 – 6pm

Llwyncelyn – 3 – 5.30pm

Aberdar – 3 – 6pm

Cyflog – £15.19 yr awr

1. Bydd yr Arweinydd yn gymwys gyda cymhwyster Gofal Plant Lefel 3 a chymwyster Gwaith Chwarae lefel 3 neu gymhwyster uwch.

2. Bod yn ymwybodol a dilyn fframwaith Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant.

3. Bydd yr Arweinydd yn gyfrifol am rhediad y clwb yn ddyddiol ac i barhau safon uchel o ofal y clwb. Dilyn y canllawiau a’r gweithdrefnu diolgelu fel yr amgyhellir gan yr awdurdod sy’n cofrestru.

4. Ymateb i reolaeth Dirprwy Reolwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf sef, Lisa Lloyd.

5. Darparu gofal llawn i'r plant mewn amgylchedd diogel. Sicrhau bod asesiad risg yn cael eu cynnal.

6. Gweithio yn unol â'r polisi y cytunwyd arno ac o fewn y fframwaith cyfle cyfartal Menter Iaith RhCT.

7. Cwblhau gwaith gweinyddol dyddiol y clwb, sicrhau bod digon o’r ffurflenni angenrheidiol ac eu cadw yn drefnus. Sicrhau bod y ffurflenni yn mynd i’r swyddfa yn dymhorol.

8. Sicrhau eich bod wedi cwblhau ffurflen ar gyfer pob plentyn sy'n mynychu'r clwb yn y ffeil a bod yr holl wybodaeth bwysig / angenrheidiol yn cael ei rhannu gydag aelodau eraill o'r staff, ac yn cael eu cadw dan glo pob amser.

9. Bod yn ymwybodol o unrhyw anghenion arbennig y plant gan gynnwys algerddau a chyflyrau meddygol.

10. Trefnu staff o ddydd i ddydd ar gyfer eich clwb o ran niferoedd a chymwysterau, rheoli gwaith eich cynorthwyydd a chynnal rhestr o staff wrth gefn.

11. Sicrhau eich bod chi a'ch dirprwy / cynorthwyydd yn cyrraedd yr ysgol cyn i'r clwb ddechrau ac yn barod i ddechrau gweithio yn brydlon.

12. Sicrhau bod pob plentyn ar ddiwedd y clwb yn cael eu casglu gan riant neu warchodwr ac eu bod yn llofnodi’r ffurflen gasglu. Sicrhau bod dau aelod o staff yn aros yn y clwb nes bod y plentyn olaf wedi cael ei gasglu yn ddyddiol.

13. Sicrhau niferoedd y plant sy’n bresennol o flaen llaw er mwyn cynnal y gymhareb staff i blant.

14. Cysylltu â'r Rheolwr Plant neu'r Prif Weithredwr er mwyn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau staff neu salwch staff cyn gynted a sydd bosib.

15. Parodwyd i dderbyn hyfforddiant ac i fynychu cyrsiau sy'n angenrheidiol ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn yn gyson.

16. Sicrhau bod pob aelod o staff yn mynychu cyrsiau sydd yn angenrheidiol ar gyfer Gofal Plant. Arsylwi a gwerthuso pob aelod o staff yn dymorhol.

17. Sicrhau bod gennych flwch cyflawn cymorth cyntaf, blanced dân a deunyddiau iechyd a diogelwch eraill yn y Clwb. Cynnal dril tân yn y clwb pob tymor.

18. Rhoi triniaeth cymorth cyntaf pan fo angen, sicrhau bod pob aelod o staff yn mynychu cwrs cymorth cyntaf i blant.

19. Paratoi, trefnu a chadw at raglen wythnosol o weithgareddau sy'n cynnig y cyfle i chwarae mewn amgylchedd diogel a chreadigol yn y Gymraeg, ac i hyrwyddo’r Iaith ar pob cyfle.

20. Paratoi a sicrhau bod yr offer a’r deunydd priodol yn ddigonnol, yn lân ac yn briodol i bob plentyn yn y clwb. Paratoi gweithgareddau chwarae a fydd yn ateb eu hangenion chwarae unigol.

21. Cysylltu i drafod archebu nwyddau ac offer newydd i’r clwb gyda’r Rheolwr pan fod angen.

22. Datblygu perthynas agos gyda'r rhieni, yr ysgol a sefydliadau perthnasol eraill sy'n gysylltiedig â gofal plant / chwarae gan gynnwys AGC.

23. Annog cefnogaeth a chydweithrediad rhieni a'u plant i’r Clwb Carco.

24. Mynychu cyfarfodydd Gwasanaethau Plant, a chyfarfodydd Is-bwyllgor yn ôl y gofyn.

25. Trafod a gweithredu cynlluniau i godi niferoedd plant sy’n mynychu’r Clybiau yn cynnwys ymrwymiad i fynychu unrhyw wyliau neu dathliadau sy’n cael eu cynnal gan y Fenter.

26. Unrhyw ddyletswyddau perthynol eraill yn ôl y galw.

Additional Information:

Additional job information can be found below

Use the contact information above to contact us for more information

Downloads / Forms and useful documents:

Disgrifiad Swydd Arweinydd Clwb Carco

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *

More

SEE ALL

Swyddog Cymorth Rhanbarthol x 4

Resourcing Officer

Swyddog Datblygu