This job advert has expired
Arweinydd Academi Amaeth: Rhaglen Hŷn (hunangyflogedig)
Arweinydd Academi Amaeth: Rhaglen Hŷn (hunangyflogedig)
Overview:
Mae rhaglen Cyswllt Ffermio yn cefnogi’r sector amaeth yng Nghymru i addasu a ffynnu. Mae yn cynnwys rhaglen integredig o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth sy’n meithrin arloesedd ynghyd a gwasanaeth cynghori sydd wedi eu llunio i ddarparu gwell cynaliadwyedd, mwy o gystadleuaeth a pherfformiad amgylcheddol gwell.
Description:
Yr Academi Amaeth
Yr Academi Amaeth yw rhaglen datblygu personol blaengar Cyswllt Ffermio, sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwledig, arloeswyr ac entrepreneuriaid yng Nghymru. Mae’n darparu rhaglen lawn o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad dros 3 sesiwn preswyl dwys, ac mae 2 elfen benodol i’r rhaglen:
● Rhaglen Busnes ac Arloesedd - wedi’i anelu at gefnogi ac ysbrydoli’r genhedlaeth o arloeswyr ym meysydd ffermio a choedwigaeth yng Nghymru
● Rhaglen yr Ifanc - wedi’i anelu at gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 19 mlwydd oed sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y diwydiant bwyd, amaeth neu reoli tir
Mae Rhaglen Hŷn (Busnes ac Arloesedd), sydd wedi’i ariannu’n llawn, yn anelu at:
● Wella dealltwriaeth aelodau o faterion a meddylfryd sy'n effeithio ar lwyddiant eu busnes
● Gwella ymwybyddiaeth aelodau o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu eu busnes yn y dyfodol
● Cefnogi datblygiad personol trwy weithdai a seminarau
● Cynnig cyfle i gwrdd ag arbenigwyr ac arweinwyr busnes yn y diwydiantCreu amgylchedd i wella sgiliau rheoli busnes
● Hybu rhwydweithio effeithiol ymysg y busnesau amaethyddol mwyaf blaengar yng Nghymru
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, entrepreneuraidd ac egnïol i drefnu, hwyluso ac arwain Academi Amaeth 2025. Mae’r sesiynau preswyl fel arfer yn cael eu cynnal ym mis Medi, Hydref a Tachwedd.
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
Downloads / Forms and useful documents:
Manyleb Swydd Academi Amaeth
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Arweinydd Academi Amaeth: Rhaglen Hŷn (hunangyflogedig)
Contact Arweinydd Academi Amaeth: Rhaglen Hŷn (hunangyflogedig)