This job advert has expired
Aelodau Bwrdd Annibynnol
Aelodau Bwrdd Annibynnol
Overview:
Mae Mentrau Iaith Cymru yn mynd trwy’r broses o chwilio am aelodau bwrdd annibynnol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd yn frwd dros gynyddu defnydd y Gymraeg yn eu cymunedau, er mwyn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion y Mentrau Iaith yn effeithiol.
Description:
Mae 5 lle ar Fwrdd Cyfarwyddwyr newydd Mentrau Iaith Cymru. Rydym yn awyddus bod un o’r aelodau yn berson ifanc 19 – 25 oed, ac rydym yn arbennig yn awyddus i recriwtio unigolion sydd â phrofiad neu arbenigedd mewn:
Cydraddoldeb a chynhwysiant
Cysylltiadau cyhoeddus a marchnata
Cynllunio ieithyddol a chymunedol
Denu nawdd
Bydd y Bwrdd yn cwrdd 4 gwaith y flwyddyn a bydd aelodau’r bwrdd yn cynorthwyo’r cyfarwyddwyr gweithredol i roi cyfeiriad strategol i waith Mentrau Iaith Cymru ac i eirioli dros y mudiad wrth iddyn nhw gefnogi gwaith y 22 Menter iaith ar draws Cymru.
Mae ffurflen gais ar gael ar wefan Mentrau Iaith Cymru https://mentrauiaith.cymru/mentrau-iaith-cymru-yn-chwilio-am-aelodau-bwrdd-annibynnol/
Dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr yw 18 Hydref am hanner dydd
Am ragor o fanylion cysylltwch â post@mentrauiaith.cymru
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
Use the contact information above to contact us for more information
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Aelodau Bwrdd Annibynnol
Contact Aelodau Bwrdd Annibynnol