Ar drywydd Enwau Lleoedd
Publisher: Y Lolfa
Author: Gwynedd O. Pierce
Cyfrol a gyhoeddir i ddathlu pen blwydd yr Athro Gwynedd O. Pierce yn 100 oed yn 2021. Ceir ynddi 13 erthygl Gymraeg, a 7 erthygl Saesneg, gan ystod eang o bobl. Mae testunau'r erthyglau yn cynnwys enwau lleiniau pysgota ger Caernarfon, enwau strydoedd y dref honno ac enwau penrhynnau yng Nghernyw; o enwau strydoedd Caerdydd i bwysigrwydd enwau lleoedd yng ngherddi'r Oesoedd Canol.