Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Ymgynghorydd Talent
Ymgynghorydd Talent
Trosolwg:
Ymunwch â sefydliad sy’n cael effaith gadarnhaol ar y ‘brain drain’ yng Nghymru.
Darogan Talent yw Hyb Graddedigion Cymru. Rydym yn cysyltu cyflogwyr yng Nghymru gyda myfyrwyr a graddedigion dawnus - a nawr rydym yn edrych i ehangu'n tim a sefydlu swyddfa yng Ngogledd Cymru. Yn ganolog i’r cynlluniau hyn mae recriwtio Ymgynghorydd Talent yng Ngogledd Cymru!
Disgrifiad:
Ymunwch â sefydliad sy’n cael effaith gadarnhaol ar y ‘brain drain’ yng Nghymru.
Amdanom ni
Darogan Talent yw Hyb Graddedigion Cymru. Rydym yn cefnogi sefydliadau yng Nghymru i gael mynediad at dalent wych tra’n canolbwyntio hefyd ar anghenion a gofynioin myfyrwyr a graddedigion. Rydym yn gwneud hyn trwy ein:
- Bwrdd swyddi, yn hysbysebu ystod o gyfleoedd yng Nghymru
- Ardal aelodau, sy'n galluogi myfyrwyr a graddedigion i gysylltu â'i gilydd a chyflogwyr
- Digwyddiadau (ar-lein ac yn bersonol) sy'n hyrwyddo cyfleoedd yng Nghymru yn uniongyrchol i fyfyrwyr a graddedigion
- Cefnogaeth ymchwil, ymgynghori a recriwtio
Am y rôl
Rydym yn chwilio am Ymgynghorydd Talent i arwain ar ddatblygu busnes a recriwtio ar draws Gogledd Cymru. Bydd tasgau o ddydd i ddydd yn debygol o gynnwys:
- Gweithredu strategaeth datblygu busnes Darogan
- Galw, e-bostio, a gwerthu i ddarpar gleientiaid
- Cyfarfod â darpar gleientiaid yn rhithwir ac wyneb yn wyneb
- Marchnata e-bost a chyfryngau cymdeithasol gan gynnwys LinkedIn
- Gweinyddu'r broses werthu trwy CRM y cwmni
- Mynychu digwyddiadau rhwydweithio diwydiant a busnes
- Rheoli cyfrifon cleientiaid presennol
- Meithrin perthnasoedd â phrifysgolion lleol, fforymau diwydiant, a sefydliadau trydydd parti
- Ymgysylltu â myfyrwyr a graddedigion mewn ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau Darogan
- Cysylltu talent gyda chleientiaid presennol a darpar gleientiaid
Fel busnes newydd, mae hwn yn gyfle cyffrous i fanteisio ar ‘ddesg newydd’ gydag arweiniadau cynnes, yn ogystal â chleientiaid presennol lle byddwch yn gweithredu fel eu Rheolwr Cyfrif. Fel busnes newydd, rydym hefyd yn chwilio am rywun a fydd yn rhoi cynnig ar amrywiaeth o dasgau ac sy'n angerddol am y gwaith yr ydym yn ei wneud.
Yn ddelfrydol byddai gennych:
- O leiaf blwyddyn o brofiad yn y maes recriwtio
- Profiad o ddatblygu busnes / gwerthu
- Hyfedredd gyda Microsoft Office
- Profiad o ddefnyddio systemau CRM / ATS
- Trwydded Yrru y DU Lawn
- Sgiliau Cymraeg (rhugl)
A bonws mawr os oes gennych chi hefyd:
- Gwybodaeth ardderchog am y dirwedd sgiliau a thalent yng Ngogledd Cymru
- Profiad recriwtio graddedigion
- Os ydych yn bodloni rhai o'r meini prawf uchod, byddwn wrth ein boddau clywed gennych!
Pam gweithio i ni
Rydyn ni eisiau ymarfer yr hyn rydyn ni’n ei bregethu a chreu cyfleoedd cyflogaeth gwych yng Nghymru. Byddwn yn eich gwerthfawrogi ac yn rhoi eich lles yn gyntaf. Bydd gennych lawer o ryddid yn eich gwaith a gallwch fwynhau'r ffaith eich bod yn cael effaith enfawr ar Darogan Talent ac effaith gymdeithasol gadarnhaol yng Nghymru.
Byddwch hefyd yn derbyn y buddion canlynol:
- £25,000 - £30,000 o gyflog (yn ddibynol ar brofiad) ynghyd â chomisiwn
- 4.5 diwrnod gwaith yr wythnos neu bythefnos 9 diwrnod, yn dibynnu ar eich dewis (mae hyn yn cynnwys hanner diwrnod yr wythnos tuag at eich dysgu a’ch datblygiad)
- 25 diwrnod o wyliau (ac eithrio gwyliau banc)
- Cynllun bonws
- Gweithio o bell / hybrid
Bydd y rôl hon wedi’i lleoli ar Ynys Môn, wrth i ni sefydlu ein swyddfa yng Ngogledd Cymru yno. I ddechrau, bydd angen gweithio o adref, ond bydd y rôl hon yn un hybrid yn y pen draw lle bydd disgwyl mynd i'n swyddfa ar Ynys Môn o leiaf unwaith yr wythnos.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV (yn Gymraeg neu Saesneg) at ein Sylfaenydd, Owain James (owain.james@darogantalent.cymru), gyda llythyr eglurhaol yn Gymraeg yn egluro eich rhesymau dros wneud cais, pam fod gennych ddiddordeb mewn gweithio i Darogan Talent, a pham rydych chi'n credu eich bod chi'n ffit da. Mae croeso i chi gysylltu i ofyn unrhyw gwestiynau am y rôl neu i drefnu sgwrs anffurfiol!
Dyddiad cau: 9am Dydd Llun, 21 Hydref 2024
Mae hon yn swydd barhaol gyda Darogan Talent, wedi ei hariannu’n rhannol gan Llwyddo’n Lleol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Ymgynghorydd Talent
Cysylltiad Ymgynghorydd Talent