Ymgynghorydd Pobl a Datblygu Sefydliadol (sy’n siarad Cymraeg)
Ymgynghorydd Pobl a Datblygu Sefydliadol (sy’n siarad Cymraeg)
Trosolwg:
Mae’n amser gwych i ymuno â ni yn Estyn. Rydym yn cefnogi ysgolion a darparwyr eraill yn weithredol trwy ddiwygiadau cyffrous ym myd addysg yng Nghymru. Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr ledled Cymru ac, yn Estyn, maent wrth wraidd popeth a wnawn.
We are re-directing you
* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *
Disgrifiad:
Ymgynghorydd Pobl a Datblygu Sefydliadol (sy’n siarad Cymraeg)
Mae’n amser gwych i ymuno â ni yn Estyn. Rydym yn cefnogi ysgolion a darparwyr eraill yn weithredol trwy ddiwygiadau cyffrous ym myd addysg yng Nghymru. Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr ledled Cymru ac, yn Estyn, maent wrth wraidd popeth a wnawn.
Rydym yn chwilio am Ymgynghorydd Pobl a Datblygu Sefydliadol sy’n siarad Cymraeg, sydd â phrofiad o weithio mewn rôl adnoddau dynol gyffredinol. Byddwch yn chwarae rôl bwysig yn ein swyddogaeth Pobl – gan roi cyngor, cefnogi rheolwyr, datblygu polisi, rheoli gweithgareddau recriwtio a chefnogi dysgu a datblygu.
Am bwy rydym ni’n chwilio
Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo i ddarparu sawl maes allweddol, gan gynnwys recriwtio, dysgu a datblygu, polisi a chysylltiadau â chyflogeion, ymgysylltu, ac amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
• Datblygu polisïau a gweithdrefnau Pobl a sicrhau y cânt eu rhoi ar waith yn effeithiol
• Darparu gweithgareddau recriwtio ac ymsefydlu effeithiol
• Cydlynu’r gwaith o ddarparu a gwerthuso gweithgareddau dysgu a datblygu
• Cyswllt / pwynt cyfeirio ar gyfer ymholiadau Pobl a datblygu sefydliadol
• Cynnig cyngor a chefnogaeth ar ystod o faterion Pobl, gan gynnwys presenoldeb a rheoli perfformiad, materion disgyblu a datrys anghydfodau
• Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu Pobl a mentrau
• Cadw cofnodion yn unol â gofynion polisi, archwilio a chyfreithiol (gan gynnwys llywodraethu gwybodaeth a chydymffurfio â GDPR) a sicrhau y caiff gwybodaeth ei phrosesu i’r gyflogres mewn modd amserol
• Casglu a dadansoddi gwybodaeth reoli ar gyfer adroddiadau (misol/chwarterol/blynyddol)
• Cynorthwyo i gyflwyno’r Arolwg Pobl blynyddol
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a all fod yn ofynnol yn rhesymol gan reolwyr
Meini prawf penodol y swydd
Mae’n hanfodol:
• y gallwch weithio trwy gyfrwng y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig)
• bod gennych brofiad o weithio mewn rôl gyffredinol ym maes Pobl/Adnoddau Dynol
• bod gennych wybodaeth eang am gyfraith cyflogaeth ac arfer Adnoddau Dynol
• eich bod yn llawn cymhelliant a bod gennych brofiad o reoli llwyth gwaith amrywiol a blaenoriaethau cystadleuol i fodloni terfynau amser
• bod gennych fedrau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd rhagorol
• eich bod yn defnyddio systemau TG yn hyderus
• bod gennych fedrau rhyngbersonol da, eich bod yn hawdd mynd atoch ac yn gallu meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol ag ystod eang o bobl ar bob lefel ac yn allanol
• eich bod yn gallu ymdrin â materion cyfrinachol mewn modd sensitif
• bod gennych yr hyder i wneud penderfyniadau effeithiol, teg ac wedi’u seilio ar dystiolaeth
• eich bod yn canolbwyntio ar fanylion ac yn gallu gweithio’n gywir
Mae’n ddymunol bod gennych gymhwyster lefel 3 CIPD.
Hyd: Parhaol
Cyflog: £29,657 - £33,748
Dyddiad cau: 10:00yb ar 17 Gorffennaf 2025
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *