Ymddiriedolwyr

Ymddiriedolwyr

Trosolwg:

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg ac fe’i chynhelir yn ystod wythnos gyntaf Awst bob blwyddyn. 

Mae'r ŵyl yn teithio o le i le, gan ymweld â gogledd a de Cymru bob yn ail, a denu tua 175,000 o ymwelwyr a thros 250 o stondinau. 

Mae'r ŵyl wedi datblygu ac esblygu dros y blynyddoedd diwethaf, ac er bod y cystadlaethau yn parhau i fod yn ganolbwynt canolog ar gyfer yr wythnos, gan ddenu dros 6,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn, mae'r Maes wedi tyfu i fod yn ŵyl fywiog gyda channoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer y teulu cyfan. 

Disgrifiwyd yr Eisteddfod fel prosiect adfywio teithiol blaenaf Cymru, ac wythnos yr Eisteddfod yw uchafbwynt prosiect cymunedol sy’n para dwy flynedd, gan ddod â phobl o bob oedran a chefndir o gymunedau gwahanol ledled Cymru ynghyd bob blwyddyn. 

Gyda chymysgedd o waith all-ymestyn, prosiectau addysg gydol oes a chyfleoedd gwirfoddoli, mae'r prosiect cymunedol yn llywio’r paratoadau ar gyfer yr ŵyl, gan roi cyfle i bobl leol wneud eu marc ar ein gŵyl genedlaethol. 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Enw'r Cyflogwr: Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cyflog: Di-dal ond telir cyfraniad tuag at gostau teithio a llety
Dyddiad Cau: 18/07/2025 (4 diwrnod)
Amser Cau: 12:00:00
Enw Cyswllt: Betsan Moses
Lleoliad: Cyfarfodydd ar-lein ac ambell gyfarfod wyneb-yn-wyneb
Disgrifiad:

Ar gyfer cam nesaf ein taith, rydym angen recriwtio nifer o Ymddiriedolwyr Elusen newydd, i weithredu fel Cyfarwyddwyr Anweithredol ac ymuno â’r Bwrdd Rheoli.

Mae arnom angen unigolion â sgiliau a phrofiad perthnasol mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys adnoddau dynol, marchnata, amrywiaeth a chynhwysiant, rheoli digwyddiadau, rhyngwladol, ac mae angen i bob un sy’n ymgeisio deimlo’n angerddol dros waith yr Eisteddfod.

Fel aelod o'r Bwrdd byddwch yn cyfrannu at lywodraethu'r sefydliad yn dda ac yn gweithio'n effeithiol gydag aelodau presennol ein Bwrdd, y Tîm Gweithredol ac amrywiol bartneriaid creadigol i'n helpu i wireddu ein gweledigaeth artistig a chynllunio strategaeth glir i’r dyfodol. 

Os credwch mai chi yw'r unigolyn honno/hwnnw/hynny, a'ch bod yn rhannu ein gwerthoedd, ein delfrydau a'n dyheadau, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

Bydd yn ofynnol i chi fedru cyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg, ac rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir a chymuned. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan fenywod ac unigolion o blith cymunedau du a lleiafrifol ethnig a grwpiau eraill a dangynrychiolir. 

Mae manylion ymgeisio yn y ddogfen.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Rôl Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod Genedlaethol

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

Mwy

GWELD POPETH

Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli

Prif Gogydd / Goruchwyliwr Gegin

Ymgynghorydd Pobl a Datblygu Sefydliadol (sy’n siarad Cymraeg)