Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Ymddiriedolwyr

Ymddiriedolwyr

Trosolwg:

Ydych chi'n angerddol ac yn uchelgeisiol dros y celfyddydau yng Nghymru? Mae Theatr Cymru yn chwilio am hyd at 6 aelod newydd i’w Bwrdd Ymddiriedolwyr.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Theatr Cymru
Cyflog: Gwirfoddol
Dyddiad Cau: 23/01/2025
Amser Cau: 14:00:00
Enw Cyswllt: Angharad Jones Leefe
Ffôn: 07903 842554
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Ydych chi'n angerddol ac yn uchelgeisiol dros y celfyddydau yng Nghymru? Mae Theatr Cymru (gynt yn Theatr Genedlaethol Cymru) yn chwilio am hyd at 6 aelod newydd i’w Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Mae bod yn un o Ymddiriedolwyr Theatr Cymru yn rhoi cyfle gwerthfawr i gyfrannu at ddiwylliant Cymru, i fod yn rhan o fyd y celfyddydau, a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau. Mae bod yn Ymddiriedolwr yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at ffyniant y cwmni a theatr Gymraeg yn y dyfodol.

Mae’r cyfle hwn yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau, sydd ag uchelgais, ac sy’n frwdfrydig. Yn ogystal, ry’n ni’n chwilio am rai Ymddiriedolwyr sydd ag arbenigedd neu brofiad yn y meysydd canlynol:

Cyllid a rheolaeth ariannol
Theatr, fel ffurf artistig (yn cynnwys gweithwyr llawrydd)
Llywodraethiant 
Adnoddau Dynol 
Marchnata a Chyfathrebu
Mae croesawu amrywiaeth o bobl a chymunedau i’r cwmni yn hynod bwysig i ni. Felly, bydden ni’n arbennig o awyddus i dderbyn cais gan unrhyw un sy’n uniaethu gydag un neu ragor o’r grwpiau canlynol: menywod; pobl ifanc (dan 30 oed); pobl o’r Mwyafrif Byd-Eang; a phobl anabl. 

Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein Bwrdd mor gynhwysol a chynrychioliadol â phosib. Os ydych yn ystyried bod rhwystrau yn eich atal rhag mynegi diddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr, cysylltwch â ni i drafod.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â ni:

angharad.leefe@theatr.com
07903 842554

Diddordeb? Ewch i wefan Theatr Cymru i ddarllen y manylion llawn ac i lenwi ffurflen mynegi diddordeb.

Dyddiad Cau: 23 Ionawr 2025, 2pm.

Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 10 Chwefror 2025.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Pecyn Ymddiriedolwyr Theatr Cymru

Fideo:

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Tiwtor Cymraeg Gweithlu Addysg

Gweithiwr Cymunedol (Rhan Amser) wedi ei leoli yn Ne Wrecsam

Tiwtor / Asesydd Gwaith Ieuenctid (NEU Diwtor / Asesydd Gwaith Ieuenctid o dan hyfforddiant)