Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Ymddiriedolwyr ac Aelodau Bwrdd Gweithredol
Ymddiriedolwyr ac Aelodau Bwrdd Gweithredol
Trosolwg:
Mae Porthi Dre yn chwilio am Ymddiriedolwyr ac Aelodau Bwrdd Gweithredol i ymuno â’u tîm a rhannu eu hamser, sgiliau a phrofiad i gefnogi eu gwaith hanfodol yn y gymuned. Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig sydd â pharodrwydd i gyfrannu at lywodraethu da, gwneud penderfyniadau strategol, a chynorthwyo gyda’u cenhadaeth i atal tlodi ac unigrwydd yng Nghaernarfon a thu hwnt.
Disgrifiad:
RÔL YMDDIRIEDOLWYR
Rydym yn edrych am ymddiriedolwyr sydd â’r rhinweddau a’r sgiliau canlynol:
- Ymrwymiad ac angerdd at atal tlodi ac unigrwydd i bawb yng Nghaernarfon a thu hwnt
- Canolbwyntio ar gydymffurfio â chyfraith elusennau, diogelu asedau'r elusen, a sicrhau aliniad â’r pwrpas elusennol
- Parodrwydd i neilltuo’r amser a’r ymdrech angenrheidiol
- Y gallu i wneud penderfyniadau da, yn annibynnol
- Y gallu i feddwl yn greadigol
- Parodrwydd i fynegi barn
- Deall a derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol elusen a sefydliadau tebyg
- Y gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm
- Cydymffurfio gyda Egwyddorion Nolan
- Heb ei (g)wahardd rhag bod yn ymddiriedolwr elusen
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un, ond mae gennym ddiddordeb penodol mewn unigolion sydd ag arbenigedd neu brofiad yn y meysydd canlynol:
- Arweinyddiaeth sefydliadol / prosiectau mawr
- Cyfreithiol a chyllid
- Ceisiadau grant
- Elusennau neu waith cymdeithasol sy’n gweithio gydag unigolion o bob cefndir, pob gallu, abledd ac oed (yn cynnwys - gweithwyr llawrydd)
- Llywodraethiant
- Sicrhau cydymffurfiaeth gyda chanllawiau iechyd, diogelwch a risg
- Adnoddau dynol
- Marchnata a chyfathrebu
- Arall / perthnasol
- Cymraeg yn hanfodol.
RÔL AELOD BWRDD GWEITHREDOL
PORTHI DRE
Rydym yn edrych am Aelodau Bwrdd sydd â’r rhinweddau a’r sgiliau canlynol:
- Ymrwymiad ac angerdd at atal tlodi ac unigrwydd i bawb yng Nghaernarfon a thu hwnt
- Cyfrannu at wneud penderfyniadau strategol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys hwyluso trafodaethau adeiladol
- Ymrwymiad cryf i egwyddorion llywodraethu da ac atebolrwydd
- Sgiliau datrys problemau a meddwl yn feirniadol i fynd i’r afael â heriau gweithredol a chynllunio ar gyfer y dyfodol
- Cydweithio efo ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, y staff a rhanddeiliaid i sicrhau ffocws i gefnogi’r staff a chyflawni amcanion yr elusen
- Y gallu i weithredu'n annibynnol gyda barn gytbwys wrth asesu risgiau a chyfleoedd i’r sefydliad
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un, ond mae gennym ddiddordeb penodol mewn unigolion sydd ag arbenigedd neu brofiad yn y meysydd canlynol:
- Gweithio ar lefel llywodraethu a rheoli mewn elusen neu gorff cyhoeddus yn ddymunol
- Dealltwriaeth o heriau Adnoddau Dynol
- Profiad neu arbenigedd mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol: cyllid ac archwilio, codi arian, strategaeth fusnes, datblygu - gwasanaethau cymdeithasol, neu reoli risgiau
- Gwaith partneriaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Datblygu strategaethau cynaliadwy a sicrhau bod yr elusen yn gallu addasu i newid yn yr hinsawdd economaidd a chymdeithasol
- Cymraeg yn hanfodol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Pecyn Gwybodaeth
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *