Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Ymchwilydd

Ymchwilydd

Trosolwg:

Diben y swydd:
Darparu cynnwys, gwybodaeth a dadansoddiadau o ansawdd uchel i Aelodau Grŵp Senedd Plaid Cymru i gyflawni eu hanghenion ymchwil gwleidyddol, oddi fewn i’r Senedd a’r tu allan ohoni, yn unol â chyfarwyddyd yr Uwch Ymchwilydd.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Rhun ap Iorwerth AS, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru
Cyflog: £27,722 - £40,321
Dyddiad Cau: 07/05/2025
Amser Cau: 12:00:00
Enw Cyswllt: Francess Ifan
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd, Caerdydd, Caerdydd, Cymru, CF99 1SN
Disgrifiad:

Prif ddyletswyddau: 

- Darparu cyngor, dadansoddiad a gwybodaeth ymchwil wleidyddol amserol o ansawdd da ar ystod o bynciau, meysydd deddfwriaethol a pholisi. Casglu, deall, dadansoddi, cyflwyno a chyfleu’r wybodaeth a’r ystadegau sydd eu hangen.
- Datblygu a chynnal gwybodaeth am feysydd pwnc penodol y cytunwyd arnynt yn rhagweithiol, fel eich bod yn gallu rhagweld a diwallu anghenion gwybodaeth yr Aelodau. Mae hynny’n cynnwys bod yn ymwybodol o’r ffynonellau gwybodaeth diweddaraf sydd ar gael o fewn y meysydd pwnc yr ydych yn ymwneud â hwy, a dilyn rhaglenni polisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn agos o fewn y meysydd pwnc hyn.
- Darparu nodiadau briffio a gwybodaeth i gynorthwyo'r Aelodau gyda pharatoadau ar gyfer cyfarfodydd mewnol ac allanol, digwyddiadau cyhoeddus, ac ymddangosiadau yn y cyfryngau.
- Datganiadau drafft o ran sefyllfa polisi, ac ymatebion drafft i ohebiaeth berthnasol o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt, i gynorthwyo'r Aelodau i ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

- Profiad perthnasol mewn amgylchedd ymchwil neu wybodaeth.
- Profiad o weithio'n uniongyrchol â phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur.
- Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn.

Cymhwysterau hanfodol: 

- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gyfatebol mewn pwnc perthnasol.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Francess.Ifan@senedd.cymru 

Talwyd am y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefnyddio arian cyhoeddus.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Manyleb y person a'r swydd / Job and Person Specification

Ffurflen gais / Application Form

Buddion gweithio i Aelod / Benefits of working for a Member

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Cyfrifydd Rannol-Gymwysedig neu Chyfrifydd Dan Hyfforddiant

Uwch Swyddog Cadwraeth

Rheolwr Paneli Defnyddwyr (2 swydd)