Ymchwilydd Heno/Prynhawn Da

Ymchwilydd Heno/Prynhawn Da

Trosolwg:

Mae swydd ymchwilydd yn gam cyntaf a phwysig o fewn gadwyn cynhyrchu cynnwys. Dyma swydd sy’n gyflwyniad i’r broses gynhyrchu aml-blatform ac yn sylfaen dda ar gyfer unrhyw un sydd ag uchelgais i ddatblygu gyrfa  yn y maes.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Enw'r Cyflogwr: Tinopolis
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad Cau: 02/05/2025 (5 diwrnod)
Amser Cau: 17:30:00
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
Lleoliad: Tinopolis, Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd, Cymru, LL55 1SQ
Disgrifiad:

Ymchwilydd

Heno/Prynhawn Da

Tinopolis - Caernarfon

Mae swydd ymchwilydd yn gam cyntaf a phwysig o fewn gadwyn cynhyrchu cynnwys. Dyma swydd sy’n gyflwyniad i’r broses gynhyrchu aml-blatform ac yn sylfaen dda ar gyfer unrhyw un sydd ag uchelgais i ddatblygu gyrfa  yn y maes.

Fel aelod o dîm o ymchwilwyr, fe fyddwch yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau i ddod o hyd i eitemau aml blatform, ar gyfer Prynhawn Da a Heno. Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Tîm Cynhyrchu, fe fyddwch yn gyfrifol am drefnu lleoliad, cyfranwyr, criw ffilmio a llunio nodiadau ar gyfer y cyflwynydd/gohebydd ynghyd ag unrhyw fater arall sydd angen ei drefnu. Swyddfeydd Tinopolis yn Galeri. Caernarfon yw’r prif weithle ond fe fydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i deithio ar hyd a lled y Gogledd i ymchwilio a ffilmio cynnwys.

Mae Prynhawn Da a Heno yn rhaglenni byw dyddiol, felly byddwch yn gweithio dan bwysedd amser yn aml er mwyn sicrhau fod eitemau’n cyrraedd y sgrin deledu a llwyfannau eraill mewn pryd. Mae Heno yn darlledu’n fyw o 7:00yh tan 7:30yh ac mae disgwyl i un ymchwilydd weithio tan ddiwedd y darllediad bob nos. Ar adegau gall eitemau hwyr olygu fod angen gweithio hyd at amser darlledu’r rhaglen.

Ymhen amser gall fod cyfle i ymddangos ar sgrin fel cyfrannwr neu ohebydd, neu efallai gweithio gyda golygydd er mwyn paratoi eitem - ond eich prif waith fydd dod o hyd i eitemau ar gyfer y rhaglenni.

Mae Tinopolis hefyd yn cynhyrchu nifer o raglenni eraill (Pawb a’i Farn, Sgwrs dan y lloer, Carol yr ŵyl ac

yn y blaen) ac o dro i dro fe fyddwch hefyd yn ymuno â thimoedd y rhaglenni hyn.

Lleoliad: Tinopolis, Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ

Cyflog:  Yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad Cau: 2 Mai 2025

Manylion pellach

Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn:  Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Gwener Mai 2 2025 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Tinopolis, Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Adnoddau Dynol

Swyddog Ti a Fi Teithiol Rhyl, Rhuddlan a Dyserth

Gweithiwr Achos Atal Cwympiadau