Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Cyfieithydd Cymraeg
Cyfieithydd Cymraeg
Trosolwg:
Mae’r Brifysgol yn awyddus i benodi Cyfieithydd Cymraeg llawn-amser, parhaol i ymuno â’r Uned Gymraeg. Mae’r Uned Gymraeg yn gyfrifol am arwain, datblygu a monitro cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg, ac am roi arweiniad ar ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ehangach yn y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd hon yn chwarae rhan allweddol wrth gryfhau gwasanaeth cyfieithu Cymraeg y Brifysgol, gan weithio gyda chydweithwyr ar bob lefel ar draws y sefydliad.
Disgrifiad:
Cyfieithydd Cymraeg
Gradd a chyflog: £28,879 - £33,232 y flwyddyn
Oriau Gwaith: 37 awr
Hyd cytundeb: Parhaol
Dyddiad Cau: 07/03/2025
Mae’r Brifysgol yn awyddus i benodi Cyfieithydd Cymraeg llawn-amser, parhaol i ymuno â’r Uned Gymraeg. Mae’r Uned Gymraeg yn gyfrifol am arwain, datblygu a monitro cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg, ac am roi arweiniad ar ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ehangach yn y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd hon yn chwarae rhan allweddol wrth gryfhau gwasanaeth cyfieithu Cymraeg y Brifysgol, gan weithio gyda chydweithwyr ar bob lefel ar draws y sefydliad.
Mae hyn ar gyfer 1 swydd lawn-amser, barhaol (1FTE).
Wedi'i lleoli ym Mhontypridd, gyda rhywfaint o weithio gartref, bydd y rôl hon yn eich galluogi i ddefnyddio'ch sgiliau cyfieithu, trefnu a rhyngbersonol.
Fel rhan o dîm cyfieithu bach, prif ddiben y rôl yw darparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg i’r Brifysgol, sydd o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n ymatebol. Byddwch yn llawn cymhelliant ac yn gallu gweithio dan bwysau i gynhyrchu cyfieithiadau o safon uchel, a hynny mewn modd amserol. Yn ogystal â sgiliau cyfieithu rhagorol, dylai fod gennych brofiad o ymateb i geisiadau cyfieithu, a rheoli eich llwyth gwaith yn effeithiol. Bydd cynnwys a natur y gwaith yn amrywiol, gan adlewyrchu'r amrywiaeth eang o gyfadrannau academaidd ac adrannau gwasanaethau proffesiynol o fewn y Brifysgol. O Ebrill 2025, bydd yr Uned Gymraeg yn gyfrifol am Switsfwrdd y Brifysgol, a byddwch yn rhan o dîm sy’n ateb galwadau (ar rota), gan gynnig gwasanaeth dwyieithog ansawdd uchel i’r rhai sy’n cysylltu â phrif llinell ffôn y Brifysgol.
Mae sgiliau cyfieithu ar y pryd yn ddymunol, ond ddim yn hanfodol.
Mae'r swydd hon yn llawn amser ac yn barhaol.
Mae'r Brifysgol ar hyn o bryd yn gweithredu model gweithio hybrid. Fodd bynnag, byddai disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio ar y campws am ran o'r wythnos.
Am sgwrs anffurfiol am swydd hon, cysylltwch â Sara Maynard, Swyddog Iaith a Rheolwr yr Uned Gyfieithu: sara.maynard@southwales.ac.uk
Os ydych chi'n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich swydd gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu fe’ch cyflogir gan PSS Ltd ar hyn o bryd), cewch eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy'n darparu gwasanaethau i'r Brifysgol a'r Colegau. Os ydych chi'n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, byddwch chi'n parhau i gael eich cyflogi gan Brifysgol De Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *