Warden Cymunedol
Warden Cymunedol
Trosolwg:
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan ac mi'r ydym angen Warden Cymunedol ar gyfer ein tîm Dwyfor!
We are re-directing you
* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *
Disgrifiad:
Warden Cymunedol
£23,378 - £25,640 y flwyddyn / 37 awr yr wythnos / Ardal Dwyfor/ Parhaol
Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Byddwch yn cefnogi dull Adra o greu cymdogaethau effeithiol a chynaliadwy - lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynyddu balchder ar Stadau, ac yn cynorthwyo i ddarparu Gwasanaeth Tenantiaeth effeithiol, effeithlon a sensitif i denantiaid a chwsmeriaid sy'n cefnogi ac annog pobl i gynnal tenantiaethau cynaliadwy a chadarnhaol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Dyddiad Cau: 12pm 02/06/22
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Warden Cymunedol
Cysylltiad Warden Cymunedol