Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Uwch Weithiwr Achos Tai
Uwch Weithiwr Achos Tai
Trosolwg:
Diolch i haelioni ein cyllidwyr rydym yn dymuno tyfu ein tîm cyfreithiol. Bydd y deiliad swydd newydd yn darparu cyngor a gwaith achos tai arbenigol o dan oruchwyliaeth ein Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol. Wedi’i lleoli yn ein swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno, bydd y rôl yn cynnwys teithio rheolaidd i’n clinigau allgymorth yn y gymuned yng Ngogledd Cymru, yn enwedig yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Disgrifiad:
Teitl y Swydd: Uwch Weithiwr Achos Tai
(Paragyfreithiwr profiadol neu ymgyfreithiwr sifil cymwys)
Contract: Parhaol. Llawn amser.
Yn Atebol i: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Cyflog: £27,000 - £35,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad.
Lleoliad: Swyddfa yng Nghyffordd Llandudno, gyda gwaith allgymorth ar draws Gwynedd ac Ynys Môn.
Cefndir y swydd
Diolch i haelioni ein cyllidwyr rydym yn dymuno tyfu ein tîm cyfreithiol. Bydd y deiliad swydd newydd yn darparu cyngor a gwaith achos tai arbenigol o dan oruchwyliaeth ein Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol. Wedi’i lleoli yn ein swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno, bydd y rôl yn cynnwys teithio rheolaidd i’n clinigau allgymorth yn y gymuned yng Ngogledd Cymru, yn enwedig yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan baragyfreithwyr sydd â phrofiad o ddeddfwriaeth tai perthnasol yng Nghymru a chyfreithwyr cymwys sydd â phrofiad o ymgyfreitha sifil â chymorth cyfreithiol. O fewn yr ystod cyflog, disgwyliwn i baragyfreithiwr gael ei benodi o fewn hanner isaf yr ystod cyflog (£27k-£31k), a chyfreithiwr cymwys gael ei benodi o fewn yr hanner uchaf (£31k to £35k).
Mae buddion eraill yn cynnwys 35 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), pensiwn cwmni ac ymrwymiad i fuddsoddi yn eich datblygiad proffesiynol. Mae llesiant yn un o werthoedd craidd Cyfraith Gymunedol y Gogledd, ac rydym yn cydnabod ein bod i gyd yn ffynnu pan gaiff ein hanghenion eu bodloni. Mae gan bob aelod o staff fynediad at ddisgowntiau, cyngor cyfreithiol ac ariannol yn rhad ac am ddim, a chymorth iechyd a llesiant drwy ein rhaglen gymorth gynhwysfawr i weithwyr.
Cefndir Cyfraith Gymunedol y Gogledd
Ein gweledigaeth yw bod gan bawb yng Ngogledd Cymru fynediad at y gwasanaethau a’r arbenigedd sydd eu hangen arnynt i gynnal eu hawliau, brwydro yn erbyn anghydraddoldeb a herio anghyfiawnder.
Mae Cyfraith Gymunedol y Gogledd yn elusen annibynnol, nid er elw, sy’n ymroddedig i drechu tlodi, hyrwyddo cydraddoldeb, a helpu pawb i greu cymdeithas sy’n fwy teg a chyfiawn. Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim yn y gymuned ynghylch materion sy’n effeithio ar fywydau bob dydd pobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru, gan ddefnyddio'r gyfraith fel dull o greu newid cymdeithasol, a rhannu gwybodaeth a sgiliau ar draws y sectorau cyfreithiol ac elusennol.
Ers agor ein drysau yn 2023 rydym wedi darparu cyngor cyfreithiol arbenigol i bobl mewn angen na fyddai ganddynt fynediad at gyfiawnder fel arall. Rydym wedi ffurfio partneriaethau cydweithio arloesol gyda sefydliadau llawr gwlad sy’n cefnogi unigolion, a gydag elusennau cenedlaethol sy’n herio cyrff cyhoeddus.
Rydym wedi sefydlu proffil cenedlaethol ar draws Cymru a’r DU, gan hyrwyddo hawliau cyfreithiol
pobl yng Ngogledd Cymru sydd ar ymylon cymdeithas oherwydd tlodi, gwahaniaethau, neu anfantais. Mae contract cymorth cyfreithiol a ddyfarnwyd yn ddiweddar ar gyfer tai a chyllid Llywodraeth Cymru yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i herio anghyfiawnder ac anghydraddoldeb ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Dyletswyddau
1. Cynorthwyo ein tîm cyfreithiol â gwaith achos, a rhoi cyngor a chymorth priodol i’n cleientiaid, gan reoli eich llwyth gwaith eich hun a gwneud ceisiadau am gyllid cyhoeddus yn ôl yr angen.
2. Cysylltu â landlordiaid a chynrychiolwyr partïon eraill, cyfreithwyr, asiantaethau eraill a grwpiau yn ôl yr angen.
3. Sicrhau bod yr holl waith achos, cyngor, a chymorth yn cydymffurfio â gofynion prosesau ac achrediadau'r sefydliad a, lle’u hariennir yn gyhoeddus, yn cydymffurfio â gofynion yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol.
4. Cysodi tystiolaeth a gweithio mewn partneriaeth ag eraill sy’n cynnig cyngor yn lleol ac yn rhanbarthol i ddylanwadu ar ddatblygiad polisi a deddfwriaeth mewn perthynas â thai a cham-drin domestig.
5. Ymgymryd â gwaith allgymorth, gan gynnwys cysylltu â chymunedau lleol, rhoi sgyrsiau a chyflwyniadau i grwpiau, ac ymweld â lleoliadau yn y gymuned fel sy’n briodol. Gweithio o leoliadau amrywiol fel sy’n rhesymol ofynnol.
6. Llywio a chymryd rhan mewn gwaith addysg gyfreithiol gyhoeddus, i hyrwyddo Cyfraith Gymunedol y Gogledd a diwylliant o barchu hawliau yng Ngogledd Cymru.
7. Ymgysylltu’n weithredol â grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol, gan gyfuno ein profiad, sgiliau a gwybodaeth ag eraill, a rhannu dysg lle bynnag y bo modd.
8. Paratoi adroddiadau ar eich gwaith eich hun er sylw Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, cyllidwyr a rhanddeiliaid eraill, yn ôl yr angen.
9. Cyfrannu’n weithredol tuag at gyfarfodydd mewnol, gan gynnwys dysgu rhaeadrol.
10. Mynychu cyrsiau hyfforddiant priodol a chynnal darllenyddiaeth o gyhoeddiadau perthnasol i gynnal a datblygu arbenigedd proffesiynol.
11. Cefnogi eich llesiant eich hun ynghyd â llesiant y tîm ac annog amgylchedd gwaith cadarnhaol.
12. Teithio i leoliadau eraill er dibenion rhoi cyngor, eirioli neu ar gyfer hyfforddiant.
13. Ymgymryd â chyfran o'r gwaith gweinyddol gan gynnwys y gwaith a nodir yng Nghanllaw Ansawdd y sefydliad.
14. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill o'r fath yn ôl yr angen.
Manyleb Person
Hanfodol
• Profiad o waith achos cymhleth, cynghori a chefnogi cleientiaid drwy’r system gyfreithiol.
• Yn meddu ar y gallu i reoli llwyth achosion prysur, gweithio dan bwysau a bodloni terfynau amser.
• Profiad o brosesau cymorth cyfreithiol, cwrdd â thargedau ariannol a gofynion cofnodi amser gan ddefnyddio systemau rheoli achosion.
• Sgiliau trefnu, blaenoriaethu a rheoli amser da.
• Sgiliau gwrando ardderchog ynghyd â chyfathrebu ar lafar, ac yn ysgrifenedig.
• Yn meddu ar y gallu i gyfathrebu’n effeithiol o fewn grŵp cleientiaid y sefydliad.
• Profiad o weithio mewn tîm ac aml-asiantaeth.
• Wedi ymrwymo i rannu dysg, sgiliau a gwybodaeth.
• Dealltwriaeth ac ymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a’i berthnasedd i gyngor cyfreithiol.
• Ymrwymiad cryf i weledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd Cyfraith Gymunedol y Gogledd.
• Sgiliau TG rhagorol.
Dymunol
• Profiad o ddarparu cyngor ar dai neu ymarfer cyfraith tai yng Nghymru.
• Profiad o ymgyfreitha sifil, cynrychioli cleientiaid yn y llys.
• Dealltwriaeth gadarn o Reolau Ymddygiad Proffesiynol SRA, Safonau SQM a Rheolau Cyfrifon Cyfreithiwr a’r gallu i’w cymhwyso yn ôl yr angen.
• Profiad o filio cymorth cyfreithiol (gan gynnwys gwaith ardystiedig), a dealltwriaeth o optimeiddio incwm cymorth cyfreithiol.
• Gallu siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
I wneud cais
Anfonwch e-bost at recruitment@nwcl.cymru, gyda theitl y swydd yn y llinell destun, ac atodi:
• CV cyfredol
• Llythyr eglurhaol yn egluro sut mae eich sgiliau, nodweddion a phrofiad yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Disgrifiad Swydd
• Ffurflen Monitro Cydraddoldeb wedi’i chwblhau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos - dydd Sul yr 11eg o Fai 2025.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb yng Nghyffordd Llandudno ddydd Iau'r 15fed o Fai 2025.
Rydym yn cydnabod gwerth safbwyntiau amrywiol yn ein gwaith ac yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir, cymuned, hunaniaeth a phrofiad, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad personol o’r anghydraddoldebau a’r anghyfiawnderau rydym yn ceisio mynd i’r afael â hwy.
Os bydd angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch fel rhan o’r broses recriwtio, gadewch i ni wybod drwy e-bostio recruitment@nwcl.cymru.
Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â Katherine Adams ar 01492 484802.
Edrychwn ymlaen at eich ymateb.
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Uwch Weithiwr Achos Tai
Cysylltiad Uwch Weithiwr Achos Tai