Uwch Swyddog Cyfathrebu (Dwyieithog)
Uwch Swyddog Cyfathrebu (Dwyieithog)
Trosolwg:
Llawn Amser - Cytundeb Cyfnod Penodol am 12 mis.
We are re-directing you
* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *
Disgrifiad:
Gwyliau a chynllun pensiwn rhagorol ar gael
Fel sefydliad sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant, mae'r Brifysgol yn anelu at arwain y sector o ran ei hymgysylltiad effeithiol â diwydiant ac yn anelu at gefnogi’r economi ranbarthol yn gadarn. Mae swydd yr Uwch Swyddog Cyfathrebu (Dwyieithog) yn un bwysig, gan weithio yn y Tîm Menter er mwyn rheoli gwaith hyrwyddo a chyfathrebu ystod eang o brosiectau, gwasanaethau, mentrau a chyrsiau.
Bydd yr Uwch Swyddog Cyfathrebu (Dwyieithog) yn gweithio’n uniongyrchol ag aelodau eraill o’r tîm er mwyn hyrwyddo’n bennaf drwy blatfformau Cyfryngau Cymdeithasol, megis Instagram, LinkedIn, a Facebook. Bydd yn gyfrifol am ddiweddaru tudalennau gwe’r tîm Menter ar wefan y brifysgol, gan sicrhau bod gwybodaeth glir a chyfredol ar gael i’n rhanddeiliaid allanol.
Bydd yn rheoli aelodau tîm, lle bo’n briodol, ac yn gweithio’n agos â thîm Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus y brifysgol er mwyn eu darparu â straeon at ddibenion cyhoeddusrwydd.
Mae’r swydd hon wedi’i lleoli ar brif gampws y brifysgol yn Wrecsam, ond mae'n hyblyg er mwyn galluogi rhywfaint o weithio hybrid. Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, mae angen ichi fod yn hollol ddwyieithog oherwydd bydd angen ichi gyfathrebu a chynhyrchu cynnwys ysgrifenedig yn Gymraeg a Saesneg.
Gwnewch gais yn uniongyrchol drwy wefan y brifysgol, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Laura Gough drwy e-bost: laura.gough@wrexham.ac.uk
Nodwch, bydd angen ichi gwblhau prawf yn ystod y cyfweliad ar gyfer y swydd hon.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Fideo:
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Uwch Swyddog Cyfathrebu (Dwyieithog)
Cysylltiad Uwch Swyddog Cyfathrebu (Dwyieithog)