Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Uwch Swyddog Cyfathrebu Digidol

Uwch Swyddog Cyfathrebu Digidol

Trosolwg:

Bydd Uwch Swyddog Cyfathrebu Digidol yn gweithio gyda’r Tîm Cyfathrebu i ddatblygu, cyflawni a gwerthuso gweithgareddau cyfathrebu digidol sy’n cefnogi amcanion strategaeth gyfathrebu IGDC, ac sy’n hysbysu ac ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid yn effeithiol am waith IGDC.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Cyflog: Gradd 6 £37,898
Dyddiad Cau: 16/06/2025
Amser Cau: 00:00:00
Enw Cyswllt: DHCW Recruitment
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Bydd Uwch Swyddog Cyfathrebu Digidol yn gweithio gyda’r Tîm Cyfathrebu i ddatblygu, cyflawni a gwerthuso gweithgareddau cyfathrebu digidol sy’n cefnogi amcanion strategaeth gyfathrebu IGDC, ac sy’n hysbysu ac ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid yn effeithiol am waith IGDC. 

Fel Uwch Swyddog Cyfathrebu Digidol, byddwch yn:  

• Gweithio o fewn Tîm Cyfathrebu IGDC ac yn arwain ar waith cyfathrebu mewnol ac allanol, datblygu cynnwys, cyfryngau cymdeithasol, digwyddiadau a rheoli gwefan.  

• Fedrus wrth ysgrifennu copi deniadol ar gyfer pob sianel gyfathrebu ddigidol ac yn deall gwerth datblygu cynnwys o ansawdd uchel trwy ddefnyddio fideo, sain, ffotograffiaeth ac animeiddio. Mae creadigrwydd a’r gallu i gyfleu negeseuon mewn ffordd glir a deniadol yn hanfodol.  

• Chwarae rhan ganolog wrth helpu IGDC i egluro ei waith a’i effaith, gan ddatblygu negeseuon allweddol a chynnwys deniadol trwy amrywiaeth o fformatau digidol, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a fideo, i gyrraedd ein rhanddeiliaid a’n cynulleidfaoedd targed. Bydd gennych y wybodaeth a’r profiad i wybod beth yw’r dull gorau i fodloni eu briff a’u hamcanion.  

Prif ddyletswyddau'r swydd

• Gweithio ar draws yr ystod lawn o sianeli cyfathrebu i sicrhau bod gwybodaeth a chyfathrebu prosiect yn cael eu cyflwyno’n effeithiol. Mae’r rôl yn un eang ac yn cwmpasu’r gwaith o gydlynu cyfathrebu’n amserol drwy amrywiaeth o sianeli digidol i sicrhau mynediad rhwydd, eglurder a chysondeb. Byddwch yn gweithio’n agos gyda Dylunwyr Cynnwys IGDC i sicrhau bod ein hymagwedd at gyfathrebu digidol ar draws sianeli yn gyson ac yn defnyddio dull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.  

• Meddu ar y gallu i ddatblygu a gweithredu strategaethau digidol sy’n cyd-fynd â nodau sefydliadol ac sy’n ysgogi ymgysylltu. Mae gwaith IGDC yn ymestyn ar draws GIG Cymru gyfan, gan ei gwneud yn ofynnol i ni gyfathrebu ac ymgysylltu ar draws sawl sefydliad gwahanol. Fel sefydliad digidol, mae ein gwaith cyfathrebu digidol yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflwyno ein negeseuon allweddol.  

Gweithio i'n sefydliad

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn gorff cenedlaethol arbenigol ac yn rhan o GIG Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn GIG Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddarparu gwasanaethau digidol a data cenedlaethol sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae gwasanaethau iechyd a gofal modern yn dibynnu ar offer digidol, data a gwybodaeth da. Mae IGDC yn rhedeg neu’n gweithio gyda mwy na 100 o wasanaethau ac yn darparu rhaglenni trawsnewid digidol cenedlaethol mawr i gefnogi hyn. Yn ogystal, mae IGDC yn darparu cyngor arbenigol mewn perthynas â seiberddiogelwch a llywodraethu gwybodaeth. Rydym yn rhoi’r offer digidol i staff rheng flaen sy’n eu helpu i ddarparu gofal mwy diogel a mwy effeithlon. Rydym hefyd yn rhoi offer digidol i gleifion a’r cyhoedd i reoli eu hiechyd a’u llesiant eu hunain yn well, gan rymuso pobl i fyw bywydau iachach. Rydym yn rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gan weithio i’r safonau uchaf i ddarparu ansawdd ac i wneud digidol yn rym er gwell ym maes iechyd a gofal. 

Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Defnyddio eich gwybodaeth arbenigol am y maes cyfathrebu digidol i’ch galluogi i ddeall y tueddiadau diweddaraf mewn cyfathrebu digidol, cefnogi’r gwaith o gyflawni strategaeth cyfathrebu digidol, a chynghori a chynnig newidiadau i ddull IGDC o ymdrin â pholisïau cyfathrebu digidol, er mwyn darparu gwasanaethau cyfathrebu digidol modern a blaengar ar gyfer ein sefydliad. Byddwch yn cymryd agwedd ragweithiol at aros ar y blaen i dueddiadau a thechnolegau digidol, gan chwilio’n gyson am ffyrdd o wella profiad y defnyddiwr. 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Job Description

Swydd disgrifiad

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Cyhoeddi

Uwch Swyddog Gwybodaeth a Dadansoddi

Swyddog Gweinyddol