Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Uwch Newyddiadurwr Digidol (Swydd llawn amser)

Uwch Newyddiadurwr Digidol (Swydd llawn amser)

Trosolwg:

Mae S4C yn darparu gwasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a'r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa iau na'r hyn sy'n gwylio Newyddion S4C ar deledu, er mwyn iddyn nhw fedru cael newyddion amrywiol yn y Gymraeg, ar ffurf fideo a thestun, pryd bynnag a lle bynnag maen nhw eisiau.

Dyma gyfle i fod yn rhan o wasanaeth arloesol fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i'r dyfodol.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: S4C
Cyflog: £35,000 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 12/12/2022
Amser Cau: 12:00:00
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid
Disgrifiad:

Gyda bys ar byls newyddion Cymreig a'r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o'r newydd a denu dilyniant.

Bydd gennych brofiad golygyddol a dealltwriaeth o'r gyfraith yn ymwneud â'r wasg a'r cyfryngau, yn ogystal â'r gallu i adeiladu perthnasau positif gyda phobl a sefydliadau er mwyn datblygu a chynnal partneriaethau.

Gyda sgiliau ieithyddol cryf bydd gennych y gallu i sicrhau safon a chywirdeb, a'r ddawn i gynnal tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.

Bydd gennych drwyn am stori a'r gallu i fod yn greadigol gyda'r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy'n dal y llygad ac yn creu sŵn.

Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.

Manylion Eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid.

Cyflog: £35,000 y flwyddyn

Cytundeb: 12 mis

Oriau Gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn ôl patrwm sifft weithredol, sef cyfanswm o 35¾ awr yr wythnos. Eich rôl yw cynnal gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos. O ganlyniad bydd eich patrwm sifft ar draws 7 diwrnod, ac yn unol â gofynion y gwasanaeth. Mi fyddech yn cael eich hysbysu o'r patrwm shifft o flaen llaw.

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 12 Rhagfyr 2022 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Cyfathrebu a Marchnata (Cymru)

Cydlynydd Marchnata

Cynorthwy-ydd Cynllun Awel y Dyffryn