Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Uwch-gynhyrchydd Cynnwys Digidol (Cymraeg)
Uwch-gynhyrchydd Cynnwys Digidol (Cymraeg)
Trosolwg:
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith parhaus o wella presenoldeb digidol y Brifysgol yn y Gymraeg.
Disgrifiad:
Uwch-gynhyrchydd Cynnwys Digidol (Cymraeg)
Cyflog: £35,333 - £42,155 y flwyddyn (Gradd 6)
Rhif y Swydd: 15146BR
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith parhaus o wella presenoldeb digidol y Brifysgol yn y Gymraeg.
Gan weithio o fewn tîm Cyfathrebu Digidol uchelgeisiol a deinamig byddwch yn rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol arbenigol ar gynnwys yn y Gymraeg. Byddwch yn rheoli perthnasoedd, rhwydweithiau a chyfathrebu â darparwyr a phartneriaid strategol ar draws y brifysgol.
Bydd gennych rôl allweddol o ran rhoi gwybod am yr ystod eang o weithgarwch y mae'r Brifysgol yn rhan ohono, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwch yn gwneud penderfyniadau cytbwys ynglŷn â'r ffordd orau o gyflwyno gwybodaeth yn y Gymraeg, adnabod anghenion defnyddwyr, datblygu cynlluniau cynnwys a chreu cynnwys digidol o safon yn y Gymraeg.
Byddwch yn arwain ac yn cyflawni prosiectau yn ôl yr angen, gan ragweld a goresgyn problemau. Byddwch yn gweithio gyda'n tîm dylunio, profiad defnyddwyr a datblygu i greu'r atebion gorau yn ôl y gofynion ac yn adnabod meysydd i'w gwella.
Byddwch yn gweithio’n agos gydag Academi Iaith Gymraeg y brifysgol ac yn arwain ar ddatblygu cynnwys digidol ar ein gwefan a’n mewnrwyd i gyflawni amcanion strategaeth iaith Gymraeg y Brifysgol. Byddwch yn aelod gweithgar o Grŵp Gweithrediadau’r Gymraeg a Grŵp Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio’r Gymraeg.
Byddwch yn arwain ymrwymiad y tîm Cyfathrebu Digidol i sicrhau bod cynnwys a gyhoeddir gan ein cymuned o olygyddion digidol ar y wefan a’r fewnrwyd yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Mae'r swydd hon yn adrodd i’r Arweinydd Cynnwys Digidol. Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Sarah Duke, Arweinydd Cynnwys Digidol, drwy ebostio dukes@caerdydd.ac.uk neu ffonio 029 2087 9185.
Sylwer: Bydd deiliaid y swydd yn cydweithio â'n tîm Ymgyrchoedd sy'n gyfrifol am e-gyfathrebu, ymgyrchoedd ar-lein a'r cyfryngau cymdeithasol, ond nid yw'r swydd hon yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gweithgareddau hynny. Swydd dylunio cynnwys yn hytrach na chyfathrebu yw hon.
Mae hwn yn gontract amser llawn penagored y gallwch ddechrau ar unwaith.
Dyddiad cau: Dydd Sul, 9 Hydref 2022.
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan