Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Uwch Gynghorydd Materion Cyhoeddus
Uwch Gynghorydd Materion Cyhoeddus
Trosolwg:
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhan annatod o'r gwaith o sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru'n cael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy fel y gall cenedlaethau'r dyfodol gael budd ohonynt.
Os ydych chi am roi eich doniau ym maes polisi a gwleidyddiaeth ar waith a chymryd rhan mewn prosiectau cyffrous sy'n effeithio ar fywydau pawb yma yng Nghymru, hoffem glywed gennych!
Disgrifiad:
Y Cyfle
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhan annatod o'r gwaith o sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru'n cael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy fel y gall cenedlaethau'r dyfodol gael budd ohonynt.
Os ydych chi am roi eich doniau ym maes polisi a gwleidyddiaeth ar waith a chymryd rhan mewn prosiectau cyffrous sy'n effeithio ar fywydau pawb yma yng Nghymru, hoffem glywed gennych!
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyflogwr delfrydol i’r rhai sy’n chwilio am waith yng Nghymru a thu hwnt, gan ei fod yn cynnig gweithio ystwyth, gweithio hyblyg a gweithio o bell ynghyd â lwfansau gwyliau blynyddol hael, pensiwn y gwasanaeth sifil, DPP ac amrywiaeth eang o fuddion iechyd a lles.
Mae CNC yn frwdfrydig ynghylch creu gweithlu amrywiol ac mae’n mynd ati'n gadarnhaol i annog ceisiadau gan gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae CNC yn barod iawn i gynnig cyfleoedd o ansawdd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhywedd a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant, neu grefydd. Mae'n rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd eu gwerthoedd.
Mae CNC wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni’r meini prawf ar gyfer dethol.
Mae Yolk Recruitment yn gweithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru i ddod o hyd i dalent o safon uchel i’r sefydliad o bob cwr o Gymru. Ar hyn o bryd rydym yn cydweithio â CNC i recriwtio Uwch Gynghorydd Materion Cyhoeddus i fod yn rhan allweddol o’r gwaith o lywio eu hymgysylltu gwleidyddol a'u hymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae hon yn swydd barhaol.
Y Swydd
Mae hon yn swydd ddeinamig a dylanwadol, a byddwch yn defnyddio eich arbenigedd i gryfhau cysylltiadau CNC â chynulleidfaoedd gwleidyddol allweddol, uwch randdeiliaid, a chyrff y llywodraeth.
Gan gydweithio'n agos ag aelodau gweithredol ac arweiniol, byddwch yn darparu dadansoddiad gwleidyddol, sesiynau briffio a chyngor strategol o ansawdd uchel i uwch-arweinwyr, gan sicrhau bod CNC mewn sefyllfa dda i ymgysylltu'n effeithiol â llunwyr polisi. Byddwch yn monitro ac yn dehongli datblygiadau gwleidyddol yn y Senedd a Senedd y DU, gan asesu eu heffaith bosibl ar waith CNC a nodi cyfleoedd i ymgysylltu.
Bydd eich gallu i gyfathrebu materion gwleidyddol a pholisi cymhleth yn glir ac yn effeithiol yn hanfodol wrth gefnogi perthynas CNC â Llywodraeth Cymru fel ein noddwr. Byddwch yn cydlynu ymatebion i gwestiynau'r Senedd a'r Gweinidogion, yn paratoi sesiynau briffio ar gyfer pwyllgorau craffu, ac yn cydweithio â'r Prif Swyddog Gweithredol a swyddfeydd Bwrdd er mwyn sicrhau bod uwch gynrychiolwyr wedi'u paratoi'n dda ar gyfer ymgysylltu lefel uchel.
Y tu hwnt i ymgysylltu gwleidyddol uniongyrchol, byddwch yn allweddol wrth feithrin ymddiriedaeth ac eiriolaeth gydag ystod amrywiaeth eang o randdeiliaid allanol, gan gynnwys cyrff eraill y sector cyhoeddus a sefydliadau partner. Trwy feithrin perthnasoedd cryf a rhoi dulliau effeithiol ar waith o gyfleu adborth, byddwch yn helpu i sicrhau bod CNC yn parhau i ymateb i'r dirwedd wleidyddol sy'n esblygu a bod ei waith yn cael ei ddeall a'i gefnogi'n eang.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod wrth wraidd strategaeth ymgysylltu CNC, gan helpu i lywio ein dylanwad a'n heffaith ar bolisi cyhoeddus yng Nghymru.
Gofynion
Bydd yr Uwch Gynghorydd Materion Cyhoeddus llwyddiannus yn dod â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad canlynol:
Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog, gyda'r gallu i ddehongli gwybodaeth gymhleth a'i chyfleu'n effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol.
Dealltwriaeth gref o'r amgylchedd gwleidyddol yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys datganoli a phrosesau'r llywodraeth.
Profiad o ymgysylltu â swyddogion y llywodraeth, Gweinidogion a chynrychiolwyr etholedig.
Gallu profedig i adeiladu a chynnal perthynas gadarnhaol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Profiad o reoli prosiectau neu gydlynu digwyddiadau.
Buddion
Ar wahân i weithio ar brosiectau ystyrlon sy'n cael effaith gadarnhaol ar bobl Cymru, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y rôl Cynghorydd Materion Cyhoeddus Uwch hon yn cael ei wobrwyo gyda'r canlynol:
Cyflog o £41,132 i £44,988
Cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil
Amrywiaeth o batrymau gwaith
28 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynyddu bob blwyddyn hyd at 33 diwrnod)
DPP sy'n amrywio o brosesau ymarferol i gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch
Buddion teithio llesol a chynaliadwy fel Beicio i'r Gwaith a benthyciadau ar gyfer prynu tocynnau tymor
Talu ffioedd aelodaeth proffesiynol sy'n berthnasol i'ch rôl
Dyddiad Cau 30/03/2025
Yolk Recruitment yw unig bartner recriwtio Cyfoeth Naturiol Cymru ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Job Description
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Uwch Gynghorydd Materion Cyhoeddus
Cysylltiad Uwch Gynghorydd Materion Cyhoeddus