Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Uwch-gyfieithydd
Uwch-gyfieithydd
Trosolwg:
Yn y swydd hon, fe fyddwch yn rhan o dîm cyfieithu prysur, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer gan weithio ar draws y sefydliad. Bydd y swydd yn cynnwys gweithio o gartref a gweithio yn y swyddfa (un diwrnod yr wythnos ar hyn o bryd, a hynny yn ein swyddfa ym Mhlas y Parc, Caerdydd).
Disgrifiad:
Rhif y Swydd: 19541BR
Uwch-gyfieithydd
Yn y swydd hon, fe fyddwch yn rhan o dîm cyfieithu prysur, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer gan weithio ar draws y sefydliad. Bydd y swydd yn cynnwys gweithio o gartref a gweithio yn y swyddfa (un diwrnod yr wythnos ar hyn o bryd, a hynny yn ein swyddfa ym Mhlas y Parc, Caerdydd).
Bydd deiliad y swydd yn aelod brwdfrydig o’r tîm, sy’n gallu gweithio dan bwysau mewn amgylchedd proffesiynol i ddarparu cyfieithiadau o’r radd flaenaf yn brydlon. Yn ogystal â sgiliau cyfieithu rhagorol, dylai fod gennych brofiad perthnasol o ymdrin â cheisiadau cyfieithu, a phrofiad o reoli eich llwyth gwaith yn effeithiol yn unol â gofynion a therfynau amser amrywiol.
Byddai sgiliau cyfieithu ar y pryd yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.
Mae’r gwaith yn amrywiol iawn o ran maes pwnc a thema, a bydd yn adlewyrchu ystod eang o ddisgyblaethau a meysydd ymchwil yn y Brifysgol. Byddwch hefyd yn cael pob cyfle i ddatblygu’n broffesiynol yn y swydd.
Mae’r swydd hon yn un llawn amser (35 awr yr wythnos) a phenagored.
Cyflog: £33,232 - £35,880 y flwyddyn (Gradd 5). Mae gennych hawl i 37 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc.
Dyddiadd cau: 19 Ionawr 2025
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *