Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Trefnydd Ymgyrchu Gogledd-Ddwyrain Cymru
Trefnydd Ymgyrchu Gogledd-Ddwyrain Cymru
Trosolwg:
Mae Plaid Cymru eisiau recriwtio unigolyn brwdfrydig a threfnus i helpu i drefnu gwaith ymgyrchu’r blaid cyn etholiadau Senedd Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu arwain, ysgogi a threfnu ystod eang o wirfoddolwyr ac actifyddion lleol; cysylltu â grwpiau a sefydliadau lleol; a bydd yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn gryno ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae angen gwybodaeth am dechnegau ymgyrchu modern yn ogystal â dealltwriaeth o Blaid Cymru a'i pholisïau.
Disgrifiad:
Teitl Swydd: Trefnydd Ymgyrchu Gogledd-Ddwyrain Cymru
Lleoliad: Ardal Sir Ddinbych. Fflint a Wrecsam
Mae staff Plaid Cymru yn gweithredu patrwm cymysg o weithioSwyddfa a gweithio o bell.
Math o gontract: 0.8 FTE (4 diwrnod yr wythnos)
Hyblyg – Mae Plaid Cymru yn hapus i drafod amryw o ffyrdd o weithio hyblyg petasai deilydd y swydd yn dymuno gwneud y rol arsail rhannu swydd neu rhan amser.
Contract tymor penodol hyd at 29 Mai 2026
Rheolwr Llinell: Pennaeth Ymgyrchoedd
Cyflog: Band 3 (£25,167-£33,706)
Fel arfer gwneir pendodiadau tua gwaelod y raddfa
Oriau Gwaith
37 awr yr wythnos, gyda’r angen am weithio min-nos a phenwythnos yn achlysurol. Mae Plaid Cymru yn gweithredusystem weithio oriau hyblyg. Mae’r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn, yn ogystal a diwrnodau braint ychwanegol (pro rata).
Pwrpas y Swydd:
Mae Plaid Cymru eisiau recriwtio unigolyn brwdfrydig a threfnus i helpu i drefnu gwaith ymgyrchu’r blaid cyn etholiadau Senedd Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu arwain, ysgogi a threfnu ystod eang o wirfoddolwyr ac actifyddion lleol; cysylltu â grwpiau a sefydliadau lleol; a bydd yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn gryno ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae angen gwybodaeth am dechnegau ymgyrchu modern yn ogystal â dealltwriaeth o Blaid Cymru a'i pholisïau.
Prif gyfrifoldebau:
• Trefnu gweithgaredd ymgyrchu ac adnabod etholwyr (stondinau stryd / canfasio drws i ddrws)
• Cynnal ymgyrchoedd lleol a chynyddu ymgysylltiad
• Trefnu cofrestru pleidleiswyr a phleidleisiau post
• Gweithredu cynllun cyfathrebu digidol ar gyfer ymgyrch etholaethol a chyfryngau cymdeithasol
• Trefnu digwyddiadau lleol
• Cefnogi gweithgareddau codi arian lleol
• Sicrhau cyfathrebu effeithiol gydag aelodau a chefnogwyr
• Cynllunio ymweliadau a chyfarfodydd lleol i ymgeiswyr
Sgiliau a Phrofiad Allweddol:
Hanfodol:
• Y gallu i weithio ar eich menter eich hun ac o fewn tîm
• Hyfedredd mewn technoleg gwybodaeth, yn enwedig yn y cyfryngau cymdeithasol, a'r gallu i ddysgu sut i ddefnyddio'r mathau o feddalwedd sy'n ganolog i ymgyrchoedd gwleidyddol (er enghraifft pecyn dylunio Canva, cronfeydd data, a meddalwedd rheoli cyswllt fel Nationbuilder)
• Sgiliau cyfathrebu da e.e. i allu drafftio testun hygyrch byr ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau
• Sgiliau trefnu cryf ac amlwg
• Barn gadarn a dealltwriaeth dda o'r hyn y mae'n ei olygu i weithio fel rhan o dîm mewn amgylchedd gwleidyddol neu dan bwysau
• Y gallu i weithio gyda gwirfoddolwyr a'u hysgogi
• Profiad perthnasol o weithio dan bwysau ac o fewn terfynau amser tynn
Dymunol:
• Trwydded yrru
• Y gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg
Ceisiadau: Gyrru'r ffurflen gais wedi ei llenwi i paula.reed@plaid.cymru
Cwestiynau: owen.roberts@plaid.cymru
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Ffurflen Gais Application Form
Fideo:
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Trefnydd Ymgyrchu Gogledd-Ddwyrain Cymru
Cysylltiad Trefnydd Ymgyrchu Gogledd-Ddwyrain Cymru