Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Tiwtor Gweithlu Addysg (Ysgol Uwchradd Caergybi) (50% CALI)

Tiwtor Gweithlu Addysg (Ysgol Uwchradd Caergybi) (50% CALI)

Trosolwg:

Gwahoddir ceisiadau am y swydd  Tiwtor Gweithlu Addysg (Ysgol Uwchradd Caergybi) dros dro ran amser yn Adran Dysgu Cymraeg – Gogledd Orllewin.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, Prifysgol Bangor
Cyflog: £29,605 - £36,024 y flwyddyn pro rata (Graddfa 6)
Dyddiad Cau: 24/03/2025
Amser Cau: 17:30:00
Enw Cyswllt: Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr
Ffôn: 01248 382929
Lleoliad: Lleolir y rôl hon yng Nghaergybi
Disgrifiad:

PRIFYSGOL BANGOR

DYSGU CYMRAEG – GOGLEDD ORLLEWIN 

Tiwtor Gweithlu Addysg (Ysgol Uwchradd Caergybi) (50% CALI)

(Cyf: BU03739)

Cyflog: £29,605 - £36,024 y flwyddyn pro rata (Graddfa 6)

Gwahoddir ceisiadau am y swydd  Tiwtor Gweithlu Addysg (Ysgol Uwchradd Caergybi) dros dro ran amser yn Adran Dysgu Cymraeg – Gogledd Orllewin.

Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin (DCGO) ym Mhrifysgol Bangor yn un o 11 darparwr sy’n darparu cyrsiau dysgu Cymraeg ar ran Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ers 1 Awst 2016, mae wedi bod yn gyfrifol am ddysgu Cymraeg i oedolion ar draws siroedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.

Mae DCGO yn gyfrifol am ddarpariaeth ar gyfer tua 2200 o ddysgwyr unigol ar hyd a lled y tair sir, ac yn gweithredu ar gyllideb o tua £2.1M.  Mae’r tîm dysgu’n cynnwys 29 o staff amser llawn neu ffracsiynol, a thua 40 o diwtoriaid rhan amser.

Bydd y dyletswyddau’n cynnwys asesu lefelau iaith cychwynnol staff (os oes angen), tracio eu cynnydd ieithyddol a darparu gwersi Dysgu Cymraeg priodol ac addas ar gyfer unigolion, grwpiau bach a dosbarthiadau yn unol â’r galw.  Bydd yr unigolyn llwyddianus hefyd yn darparu rôl mentor iaith o fewn yr ysgol.

Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at safon Gradd safonol mewn unrhyw faes perthnasol ac efo profiad dysgu eang a phrofiad o ran cynghori a chefnogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol.  Rhaid i’r ymgeiswyr fod â sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, sgiliau rhyngbersonol arbennig a’r gallu i gydweithio yn effeithiol fel rhan o dîm ond hefyd yn annibynnol ar adegau.  Mae brwdfrydedd am y Gymraeg ac ymagwedd ragweithiol tuag at gefnogi siaradwyr newydd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted a phosib ar ôl 28 Ebrill 2025 ac mae'r swydd ar gael tan 27 Mawrth 2026.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae’r swydd hon yn amodol ar gwiriad manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Lleolir y rôl hon yng Nghaergybi.

Er hynny, os ceir anhawster i ddefnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 24 Mawrth 2025

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Ymgysylltu (Gogledd)

Pennaeth Casgliadau Unigryw

Gweinyddwr Gweithrediadau