Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Tiwtor Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe

Tiwtor Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe

Trosolwg:

Swydd cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2026.

Dyma gyfle i Diwtor ymuno â thîm Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe (DCABA) sy’n darparu gwersi Cymraeg i oedolion yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae’r rôl yn cynnig cyfle gwych i’r rheiny sy’n frwd i gyfrannu dros ffyniant y Gymraeg o fewn rhanbarth Bae Abertawe a thu hwnt drwy ddatblygu siaradwyr newydd. Mae'r swydd hon yn gofyn am gyflwyno addysgu o ansawdd uchel ac ymrwymiad brwd i sicrhau profiad dysgu rhagorol i ddysgwyr. Ymhlith y dyletswyddau, ac mae’r manylion llawn yn yn swydd ddisgrifiad, mae:

- paratoi a chyflwyno 20 – 22 awr yr wythnos o wersi (ar-lein ac wyneb-yn-wyneb) ar draws ystod o gyrsiau a lefelau yn ôl y galw, gan asesu gwaith a medrau dysgwyr ynghyd â darparu adborth adeiladol, cyson ac amserol;
- bod ar gael i addysgu gyda’r nos (o leiaf ddwy noson yr wythnos) ac yn achlysurol ar benwythnosau yn ogystal – yn unol â gofynion cynulleidfa a natur y sector,
- gweithio’n adeiladol a chydwybodol tuag at wella ansawdd y ddarpariaeth gan ddylanwadu’n gadarnhaol ar brofiadau dysgwyr a sicrhau gwelliant mewn cyfraddau cwblhau a chyfraddau dilyniant blynyddol,
- cynorthwyo i gynnal a chefnogi rhaglen o weithgareddau ‘Cefnogi Dysgwyr’, a chynorthwyo gyda gwaith hyrwyddo’r ddarpariaeth a recriwtio i gyrsiau

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Prifysgol Abertawe
Cyflog: £34,132 i £34,132 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 11/07/2025
Amser Cau: 23:55:00
Enw Cyswllt: Iestyn Llwyd
Ffôn: 01792 602070
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Bydd disgwyl i’r Tiwtor fod yn barod i addysgu ar ystod eang o gyrsiau, ac ar draws ystod o lefelau dysgu: o ddechreuwyr i lefel hyfedr. Ymhlith arlwy DCABA mae cyrsiau i grwpiau penodol fel Croeso i Bawb, a Cymraeg yn y Cartref, ynghyd â chyrsiau pwrpasol i ateb gofynion gweithleoedd a sectorau penodol. Mae DCABA yn darparu i grwpiau amrywiol gan gynnwys pobl ifanc 16 oed a throsodd (felly bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar wiriad DBS cyfredol clir.)

Bydd disgwyl i’r Tiwtor addysgu dosbarthiadau wyneb-yn-wyneb o fewn dalgylch siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot – ac o bosib y tu hwnt hefyd. Gall peth o’r gwaith ddigwydd mewn gwersi rhithiol drwy gyfrwng fideo-gynadledda. Yn unol â natur y galw o fewn y sector, mae cyfran helaeth o’r gwersi yn digwydd fin nos, a bydd disgwyl i’r tiwtor allu gweithio ar benwythnosau hefyd yn achlysurol. 

Un o brif amcanion y sector yw i gynhyrchu mwy o siaradwyr, felly mae cyfrifoldeb hefyd i gyfrannu at raglen o ddigwyddiadau anffurfiol i ddysgwyr a chynnig cyfleoedd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i’r dosbarth. Mae disgwyl i’n tiwtoriaid gyfrannu at feithrin, datblygu a chynnal ymdeimlad o gymuned gefnogol, sy’n ganolog i lwyddiant a hyder y dysgwyr.

Bydd hefyd disgwyl i’r Tiwtor weithio’n agos ac effeithiol fel rhan o dîm ehangach, gan gyfathrebu’n rheolaidd ac amserol, a chefnogi cydweithwyr yn rhagweithiol wrth gyflawni amcanion y rhaglen a’n darpariaeth.

Er bod rhai gweithdrefnau’n benodol i’r Brifysgol, bydd eraill yn cael eu llywio ar lefel genedlaethol gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
 
Ar gyfartaledd, disgwylir i Diwtor llawn amser dreulio tua 60% o’i wythnos waith yn addysgu. Neilltuir gweddill yr amser i gyflawni gwaith fel:
·       paratoi gwersi, asesu gwaith dysgwyr a chynnig adborth,
·       cyfrannu at raglen cefnogi dysgwyr DCABA,
·       mynychu cyfarfodydd perthnasol, ac
·       ymgymryd â datblygiad proffesiynol drwy ymchwil bersonol, adfyfyrio a hyfforddiant.

Bydd disgwyl i’r Tiwtor:
1.     Addysgu rhwng 20 a 22 awr yr wythnos ar gyfartaledd, ar ystod o gyrsiau a lefelau yn ôl y galw (boed wyneb-yn-wyneb neu’n rhithiol), gan asesu gwaith a sgiliau dysgwyr a darparu adborth adeiladol, cyson ac amserol yn unol â disgwyliadau DCABA 
2.     Gynnal a chefnogi gweithgareddau fel rhan o raglen Digwyddiadau Cefnogi Dysgwyr, sy’n rhan annatod o ddarpariaeth anffurfiol DCABA.
3.     Gydweithio’n rhagweithiol â thiwtoriaid eraill, swyddogion arweiniol a staff ehangach DCABA.
1.     Ymchwilio’n barhaus i ffyrdd o wella eu perfformiad trwy ymchwil personol (e.e. ar addysgeg a chaffael iaith), myfyrio ar gynlluniau gwersi a mireinio dulliau addysgu, ac ymateb i adborth gan ddysgwyr a chydweithwyr.
2.     Ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus ac adolygu cynnydd yn unol â system Datblygiad Perfformiad Proffesiynol Prifysgol Abertawe.
3.     Cefnogi ymgyrchoedd marchnata’r rhaglen drwy amrywiol sianeli, hyrwyddo’r ddarpariaeth mewn cymunedau lleol a chynnal cysylltiadau adeiladol â rhanddeiliaid, a chyfrannu at recriwtio dysgwyr newydd
4.     Ddefnyddio adnoddau addysgu cyfredol yn fedrus ac effeithiol ac, lle bo angen, datblygu a rhannu deunyddiau addas.
5.     Gweithio’n adeiladol tuag at wella cyfraddau cwblhau a dilyniant drwy ddarparu cymorth dysgu effeithiol, gofal bugeiliol, cyngor ar lwybrau dilyniant, a chyfeirio at wasanaethau perthnasol.
6.     Gyfrannu at sicrhau ansawdd y ddarpariaeth yn unol â gweithdrefnau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Brifysgol.
7.     Hyrwyddo ac chyfrannnu at raglen Cefnogi Dysgwyr DCABA, gan fynychu digwyddiadau mewnol a chyhoeddus lle bo’n briodol.
8.     Annog a chefnogi dysgwyr i sefyll arholiadau Cymraeg i Oedolion (CBAC), gan ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth briodol.
9.     Gyfrannu’n rhagweithiol at waith trefniadol a gweithredol DCABA mewn cyfarfodydd perthnasol.
10.  Cyflawni unrhyw ddyletswyddau ychwanegol a rhesymol yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Llinell, Pennaeth DCABA neu Gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi.
11.  Ymgysylltu’n llawn â pholisïau Galluogi Perfformiad ac Iaith Gymraeg y Brifysgol.
12.  Sicrhau bod egwyddorion rheoli risg yn cael eu hymgorffori ym mhob penderfyniad, gan gydymffurfio â Pholisi Rheoli Risg y Brifysgol.
13.  Cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth GDPR mewn perthynas â diogelu data.
14.  Ymroi i gwblhau cyrsiau hyfforddiant sefydliadol yn amserol yn unol â chyfarwyddyd rheolwyr.
15.  Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle, gan feithrin perthnasoedd cadarnhaol yn unol â Chôd Ymddygiad DCABA.

Meini Prawf Hanfodol:
1.     Addysg hyd at lefel gradd neu gyfatebol.       
2.     Rhuglder yn yr iaith Gymraeg ar safon uchel.
3.     Profiad o ddysgu’r Gymraeg i Oedolion ar draws yr ystod o lefelau, a hynny i safon uchel a chan ennyn adborth cadarnhaol. 
4.     Profiad o ddysgu cyrsiau Cymraeg yn y Cartref neu Gymraeg i athrawon.
5.     Cymhwysedd i gyfoethogi profiadau addysgol drwy ddefnydd hyderus a phwrpasol o lwyfannau, adnoddau a rhaglenni TG (gan gynnwys Zoom a Microsoft Teams). 
6.     Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog.
7.     Gallu i adnabod anghenion addysgol dysgwyr a darpar-ddysgwyr y Gymraeg ac ymrwymiad i amgylchedd dysgu sy'n canolbwyntio ar anghenion y dysgwr.
8.     Gallu wedi’i brofi i reoli, trefnu a blaenoriaethu ei g/waith ei hun. 
9.     Gallu wedi’i brofi o weithio fel aelod effeithiol o dîm neu yn annibynnol.
10.  Parodrwydd i gefnogi a hyrwyddo digwyddiadau cyhoeddus ar gyfer dysgwyr neu ddarpar-ddysgwyr a chyfleoedd dysgu anffurfiol a drefnir gan yr Academi.
11.  Gallu a pharodrwydd i deithio ar draws ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, a thu hwnt os bydd gofyn ar rai achlysuron.
12.  Parodrwydd i weithio oriau hyblyg, gan gynnwys oriau gyda’r nos neu ar benwythnosau. 
13.  Parodrwydd i weithio mewn swyddfa sydd wedi'i lleoli y tu hwnt i gampws Prifysgol Abertawe, yr union leoliad yn ddibynnol ar yr ardal y penodir yr unigolyn iddi.
14.  Tystiolaeth o ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus a’r parodrwydd a’r gallu i gadw i fyny â’r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn polisïau a rheoliadau.

Meini Prawf Dymunol:
15.  Gradd ôl-raddedig.
16.  Profiad o weithio gyda chymdeithasau neu fudiadau sy’n trefnu gweithgareddau i ddysgwyr.
17.  Gallu i ymgymryd ag ymchwil perthnasol er hyrwyddo amcanion yr Academi.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Cynhyrchu

Rheolwr Dysgu a Datblygu (LDM) Cymru, Gorllewin Canolbarth Lloegr a De Orllewin Lloegr

Tiwtor / Asesydd Ysgol Bro Myrddin (Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam- Hyfforddiant ar gael)