Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Tiwtor Cymraeg Gweithlu Addysg
Tiwtor Cymraeg Gweithlu Addysg
Trosolwg:
Dyma gyfle i ymuno â thîm Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe (DCABA) fel tiwtor a fydd yn hyfforddi carfannau o’r gweithlu addysg yn ardaloedd sirol Abertawe, Castell-nedd – Port Talbot a Phenybont. Mae hon yn swydd cyfnod penodedig hyd at 31 Mawrth, 2026 (yn y lle cyntaf).
Bydd deiliad y swydd yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o ymarferwyr tebyg yn gweithio dan arweiniad Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd natur y gwaith yn amrywio yn ôl natur y galw a’r gofynion ar lefel leol, ac mae’n bosib felly y bydd angen gweithio’n rhagweithiol er mwyn cyflwyno ystod o gyrsiau amrywiol ar lefelau gwahanol, gan ddiwallu anghenion iaith gweithluoedd o fewn y sectorau addysg. Bydd gofyn darparu gwersi wyneb yn wyneb yn ogystal â chynnig profiadau dysgu ar-lein.
Mae DCABA wedi’i leoli o fewn Academi Hywel Teifi – Prifysgol Abertawe, ac yn gweithredu yn bennaf o gampws Singleton, Abertawe ac o Dŷ’r Gwrhyd – Canolfan Gymraeg Pontardawe.
Mae'r swydd hon yn gofyn am gyflwyno addysgu o ansawdd uchel ac ymrwymiad brwd i sicrhau profiad dysgu rhagorol i garfannau o weithwyr yn y sector addysg. Gwelir y manylion llawn yn y Swydd Ddisgrifiad, ond ymhlith y dyletswyddau mae:
- ysbrydoli a chefnogi gweithluoedd ar draws sectorau addysg i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu cyd-destun proffesiynol,
paratoi a chyflwyno gwersi (ar-lein ac wyneb-yn-wyneb) ar draws ystod o gyrsiau a lefelau yn ôl y galw, gan asesu gwaith a medrau dysgwyr ynghyd â darparu adborth adeiladol, cyson ac amserol,
- cyd-destunoli cynnwys cyrsiau trwy gyfeirio at fethodolegau caffael iaith, gan arfogi gweithwyr ysgolion a sectorau addysg â’r wybodaeth a’r medrau i ddatblygu sgiliau Cymraeg plant a phobl ifanc.
- diwallu anghenion dysgu unigol ar draws gwahanol lefelau trwy greu a theilwra deunyddiau addysgu priodol, ynghyd â gosod tasgau iaith pwrpasol.
- bod ar gael i addysgu ar batrwm yn unol â gofynion cynulleidfa a natur y sectorau addysg.
- ysgogi dysgwyr newydd neu ddysgwyr di-hyder i ailgysylltu â’r Gymraeg a’i defnyddio’n fwy hyderus.
- gweithio’n adeiladol a chydwybodol tuag at wella ansawdd y ddarpariaeth gan ddylanwadu’n gadarnhaol ar brofiadau dysgwyr.
Disgrifiad:
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
- yn meddu ar gymhwyster addysg hyd at lefel gradd neu gyfatebol, ynghyd ag ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus,
- yn arddel sgiliau cyfathrebu rhagorol a rhuglder o’r safon uchaf yn y Gymraeg a’r Saesneg,
- yn meddu ar brofiad o ddysgu’r Gymraeg i oedolion yn llwyddiannus ar draws yr ystod o lefelau ac i safon uchel,
profiad o weithio yn y sector addysga datblygu darpariaeth neu hyfforddiant sy’n rhoi’r dysgwr wrth wraidd y broses ddysgu.
- yn ymwybodol o gyd-destun a’r math o heriau sy’n wynebu gweithwyr yn y sectorau addysg wrth ymwneud â’r Gymraeg, ac yn gallu cynnig arweiniad, cynhaliaeth ac annogaeth iddynt oresgyn yr heriau hynny,
- yn gallu gweithio’n hyblyg gan gynnwys teithio i leoliadau gwersi neu gyfarfodydd yn ôl yr angen,
- yn weithiwr cydwybodol – boed hynny’n annibynnol neu ar y cyd ag eraill,
- yn gallu defnyddio llwyfannau a meddalweddau technolegol yn hyderus at ddibenion addysgu a chyfathrebu
Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Tiwtor Cymraeg Gweithlu Addysg
Cysylltiad Tiwtor Cymraeg Gweithlu Addysg