Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Trosolwg:

Mae Prifysgol Bangor yn chwilio am addysgwr brwdfrydig a dawnus i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddysgu cyrsiau Cymraeg ar gyfer y gweithlu addysg yn siroedd y gogledd.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor
Cyflog: £37,099 - £44,263 y flwyddyn (Graddfa 7)
Dyddiad Cau: 07/05/2024
Amser Cau: 17:30:00
Lleoliad: Mae’r swydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr (Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol). Trwy fframwaith Gweithio'n Ddeinamig Prifysgol Bangor, bydd cyfle hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith.
Disgrifiad:

PRIFYSGOL BANGOR

CANOLFAN BEDWYR

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg 

Cyflog: £37,099 - £44,263 y flwyddyn (Graddfa 7)

(Cyf: BU03530)

Mae Prifysgol Bangor yn chwilio am addysgwr brwdfrydig a dawnus i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddysgu cyrsiau Cymraeg ar gyfer y gweithlu addysg yn siroedd y gogledd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm o diwtoriaid sy’n gyfrifol am ddatblygu a dysgu’r cyrsiau sabothol i athrawon a chynorthwywyr dosbarth yn y gogledd, yn cynnwys y cwrs ‘Cymraeg mewn Blwyddyn’. Nod y cyrsiau hyn o dan nawdd Llywodraeth Cymru yw datblygu sgiliau a chynyddu hyder y gweithlu addysg i ddysgu’r Gymraeg yn llwyddiannus yn ein hysgolion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd, cymhwyster dysgu ynghyd â phrofiad o ddysgu cyrsiau Cymraeg ar ystod o lefelau a chynllunio darpariaeth effeithiol.

Mae’r swydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr (Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol). Trwy fframwaith Gweithio'n Ddeinamig Prifysgol Bangor, bydd cyfle hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith.

Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i gyflawni’r rôl hon ar sail rhan-amser neu rannu swydd hyd at oriau llawn amser.

Disgwylir i’r sawl a benodir ddechrau ar y gwaith ym mis Mehefin 2024 neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny.  Mae hon yn swydd barhaol.

Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hanfodol.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Mae manylion pellach a chyfarwyddiadau ar sut i ymgeisio i’w gweld ar wefan ‘Cyfleoedd’ Prifysgol Bangor (http://jobs.bangor.ac.uk/index.php.cy).

Gallwch wneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr (01248 388054, llion.jones@bangor.ac.uk).

Sefydliad dwyieithog sy’n gweithredu Polisi Iaith cynhwysfawr ac sydd wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 7 Mai 2024

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Ymchwilydd: Heno / Prynhawn Da

Cynorthwyydd Arlwyo a Glanhau

Rheolwr Prosiect Digidol