Tiwtor / Asesydd Ysgolion De Ddwyrain ( hyfforddiant ar gael)

Tiwtor / Asesydd Ysgolion De Ddwyrain ( hyfforddiant ar gael)

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am berson addas i hyfforddi fel Tiwtor / Asesydd i gyflwyno hyfforddiant ac i asesu dysgwyr yn unol â’r Safonau Cenedlaethol, a gofynion y Cyrff Dyfarnu CBAC / City and Guilds i ddysgu cyrsiau Lefel 2 Craidd a Lefel 2/3 Ymarfer a Theori Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (GChDDP).  Bydd disgwyl i’r person llwyddiannus ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu.  Rydym yn chwilio am berson sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg ac sy’n frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol o’r radd uchaf. 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *

Enw'r Cyflogwr: Mudiad Meithrin
Cyflog: efo gymhwyster: MM18 i MM22 - £26,269 i £29,610 pro rata dan hyfforddiant: MM17 £25,585 pro rata
Dyddiad Cau: 22/07/2025 (8 diwrnod)
Amser Cau: 00:00:00
Enw Cyswllt: Eunice Jones, Rheolwr y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol
Ffôn: 01970 639639
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Dyletswyddau’r Swydd:

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Prif Swyddog Cam wrth Gam am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

•    Mynychu hyfforddiant i ennill cymhwyster Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol TAQA o fewn 18 mis o ddyddiad cychwyn y swydd drwy gwblhau:
o    (Uned 301) uned theori gychwynnol (cyfanswm o 16 awr) o bell drwy Zoom/Google Meet
o    unedau ymarferol dilynol drwy sesiynau 1 i 1 gyda’r asesydd TAQA yn fisol wedi’r sesiynau cyflwyno, a chasglu a chyflwyno portffolio o dystiolaeth briodol
•    Cyflwyno elfennau theori’r cwrs yn yr ysgol 
•    Cynhyrchu adnoddau dysgu ar gyfer unedau’r cwrs Lefel 2 Craidd a Lefel 2/3 Ymarfer a Theori GChDDP, gan ystyried elfennau ychwanegol fel integreiddio’r sgiliau allweddol i’r gwaith galwedigaethol.
•    Asesu gwaith disgyblion yn ôl gofynion y bwrdd dyfarnu a threfnu achrediad portffolios.  
•    Asesu yn y lleoliad wyth gwaith y flwyddyn os yn berthnasol.
•    Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol ar ôl bob  asesiad.
•    Cydweithio â chydlynydd galwedigaethol cyrsiau Gofal Plant yr ysgol i drefnu amserlenni a’r adnoddau fydd eu hangen ar gyfer yr elfennau o’r cwrs a gyflawnir yn yr ysgol
•    Cydweithio â rheolwr cwricwlwm a mentor yr ysgol i sicrhau llwyddiant y dysgwyr yn elfennau ychwanegol eu rhaglen ddysgu e.e. sgiliau allweddol
•    Gosod aseiniadau i’r myfyrwyr i’w cwblhau yn annibynnol pan nad oes tiwtor gyda hwy yn yr ysgol a’i osod ar y system electroneg, cysylltu â’r partneriaid yn ôl yr angen a delio gyda unrhyw anawsterau fel bod angen 
•    Monitro cynnydd y dysgwyr ymhob agwedd o’r cwrs
•    Gosod aseiniadau’r myfyrwyr / gwaith y dysgwyr ar y system electroneg Di-bapur (e.e. OneDrive/Valid-8), i’w dilysu os yn berthnasol.
•    Cydweithio â Cham wrth Gam i gynllunio lleoliadau profiad gwaith y dysgwyr/myfyrwyr.
•    Trefnu ymweliadau gan drafod gyda’r dysgwyr, arweinyddion y cylchoedd ac athrawon / penaethiaid ysgolion.
•    Marchnata’r cwrs yn yr ysgol gan fynychu cyfarfodydd megis cyfarfodydd rhieni a digwyddiadau gyrfa yn yr ysgol
•    Sicrhau cysylltiad cyson â holl bartneriaid y prosiect
•    Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd.
•    Mynychu cyfarfodydd safoni unwaith bob tymor.
•    Gwirio dogfennaeth Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd y dysgwyr (GDG)
•    Mynychu Seremoni Wobrwyo flynyddol.
•    Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
•    Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin  ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position.

Mwy

GWELD POPETH

Pennaeth

Cynhyrchydd

Athrawon/Tiwtoriaid Cymraeg