Tiwtor / Asesydd Ysgolion Cwm Rhymni a Gwynllyw ( neu Tiwtor / Asesydd hyfforddiant)
Tiwtor / Asesydd Ysgolion Cwm Rhymni a Gwynllyw ( neu Tiwtor / Asesydd hyfforddiant)
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am berson addas i hyfforddi fel Tiwtor / Asesydd i gyflwyno hyfforddiant ac i asesu dysgwyr yn unol â’r Safonau Cenedlaethol, a gofynion y Cyrff Dyfarnu CBAC / City and Guilds i ddysgu cyrsiau Lefel 2 Craidd a Lefel 2/3 Ymarfer a Theori Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (GChDDP). Bydd disgwyl i’r person llwyddiannus ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu. Rydym yn chwilio am berson sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg ac sy’n frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol o’r radd uchaf.
We are re-directing you
* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *
Disgrifiad:
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Prif Swyddog Cam wrth Gam am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
• Mynychu hyfforddiant i ennill cymhwyster Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol TAQA o fewn 18 mis o ddyddiad cychwyn y swydd drwy gwblhau:
o (Uned 301) uned theori gychwynnol (cyfanswm o 16 awr) o bell drwy Zoom/Google Meet
o unedau ymarferol dilynol drwy sesiynau 1 i 1 gyda’r asesydd TAQA yn fisol wedi’r sesiynau cyflwyno, a chasglu a chyflwyno portffolio o dystiolaeth briodol
• Cyflwyno elfennau theori’r cwrs yn yr ysgol
• Cynhyrchu adnoddau dysgu ar gyfer unedau’r cwrs Lefel 2 Craidd a Lefel 2/3 Ymarfer a Theori GChDDP, gan ystyried elfennau ychwanegol fel integreiddio’r sgiliau allweddol i’r gwaith galwedigaethol.
• Asesu gwaith disgyblion yn ôl gofynion y bwrdd dyfarnu a threfnu achrediad portffolios.
• Asesu yn y lleoliad wyth gwaith y flwyddyn os yn berthnasol.
• Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol ar ôl bob asesiad.
• Cydweithio â chydlynydd galwedigaethol cyrsiau Gofal Plant yr ysgol i drefnu amserlenni a’r adnoddau fydd eu hangen ar gyfer yr elfennau o’r cwrs a gyflawnir yn yr ysgol
• Cydweithio â rheolwr cwricwlwm a mentor yr ysgol i sicrhau llwyddiant y dysgwyr yn elfennau ychwanegol eu rhaglen ddysgu e.e. sgiliau allweddol
• Gosod aseiniadau i’r myfyrwyr i’w cwblhau yn annibynnol pan nad oes tiwtor gyda hwy yn yr ysgol a’i osod ar y system electroneg, cysylltu â’r partneriaid yn ôl yr angen a delio gyda unrhyw anawsterau fel bod angen
• Monitro cynnydd y dysgwyr ymhob agwedd o’r cwrs
• Gosod aseiniadau’r myfyrwyr / gwaith y dysgwyr ar y system electroneg Di-bapur (e.e. OneDrive/Valid-8), i’w dilysu os yn berthnasol.
• Cydweithio â Cham wrth Gam i gynllunio lleoliadau profiad gwaith y dysgwyr/myfyrwyr.
• Trefnu ymweliadau gan drafod gyda’r dysgwyr, arweinyddion y cylchoedd ac athrawon / penaethiaid ysgolion.
• Marchnata’r cwrs yn yr ysgol gan fynychu cyfarfodydd megis cyfarfodydd rhieni a digwyddiadau gyrfa yn yr ysgol
• Sicrhau cysylltiad cyson â holl bartneriaid y prosiect
• Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd.
• Mynychu cyfarfodydd safoni unwaith bob tymor.
• Gwirio dogfennaeth Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd y dysgwyr (GDG)
• Mynychu Seremoni Wobrwyo flynyddol.
• Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Tiwtor / Asesydd Ysgolion Cwm Rhymni a Gwynllyw ( neu Tiwtor / Asesydd hyfforddiant)
Cysylltiad Tiwtor / Asesydd Ysgolion Cwm Rhymni a Gwynllyw ( neu Tiwtor / Asesydd hyfforddiant)