Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Ymchwilio Graddedig Dan Hyfforddiant
Swyddog Ymchwilio Graddedig Dan Hyfforddiant
Trosolwg:
Ydych chi wedi graddio’n ddiweddar yn y Gyfraith, Gweinyddiaeth Gyhoeddus neu faes pwnc tebyg, neu a fyddwch chi’n cwblhau eich astudiaethau eleni? Os mai “ydw” yw eich ateb i’r cwestiynau hyn a bod gennych ddiddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a sicrhau, pan fydd gwasanaethau’n methu, bod modd troi at system gwyno annibynnol, fe allai’r swydd hon fod yn addas i chi.
Disgrifiad:
Math o Gontract: Parhaol
Patrwm gweithio: Llawn amser/Hybrid - Pen-y-bont ar Ogwr/Gartref
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog:
Blwyddyn 1 £28,290
Blwyddyn 2 £31,290
Blwyddyn 3 £34,290
Blwyddyn 4 £38,292
Blwyddyn 5 ymlaen - cynyddrannau blynyddol hyd at £49,764 y flwyddyn
Math o Swyddogaeth: Ymchwilio i Gwynion
Ydych chi wedi graddio’n ddiweddar yn y Gyfraith, Gweinyddiaeth Gyhoeddus neu faes pwnc tebyg, neu a fyddwch chi’n cwblhau eich astudiaethau eleni? Os mai “ydw” yw eich ateb i’r cwestiynau hyn a bod gennych ddiddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a sicrhau, pan fydd gwasanaethau’n methu, bod modd troi at system gwyno annibynnol, fe allai’r swydd hon fod yn addas i chi.
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i recriwtio Hyfforddai Graddedig i ymgymryd â rhaglen ddatblygu bwrpasol dros pedair blynedd sy’n arwain at fod yn Swyddog Ymchwilio.
Mae Swyddogion Ymchwilio yn ymchwilio i gwynion oddi wrth aelodau’r cyhoedd am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd diffyg o ryw fath ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Bydd yr Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion bod Cynghorwyr mewn awdurdodau lleol yng Nghymru o bosib wedi torri Cod Ymddygiad statudol eu cyngor. Fel Swyddog Ymchwilio, byddwch yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol ac yn rheoli llwyth achosion sy’n amrywio o ran cymhlethdod, ar draws nifer o feysydd, gan ddarparu profiad da i gwsmeriaid. Byddwch yn:
· Dadansoddi gwybodaeth fanwl er mwyn cyrraedd a deall craidd y gŵyn
· Canfod a chael tystiolaeth yn brydlon
· Gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, a chyflwyno’r penderfyniadau hyn mewn adroddiadau ysgrifenedig grymus
· Ymgysylltu’n effeithiol â’r achwynydd drwy gydol yr ymchwiliad
· Datrys achosion drwy ymgysylltu’n adeiladol
· Gweithio’n annibynnol a defnyddio awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau ar ran yr Ombwdsmon
Mae disgrifiad llawn a gwybodaeth ychwanegol ar gael ar y dudalen “Ymunwch â Ni” ar ein gwefan.
Am beth rydym ni’n chwilio
· Rhywun sydd wedi graddio’n ddiweddar neu a fydd yn graddio eleni yn y Gyfraith, Gweinyddiaeth Gyhoeddus neu faes pwnc tebyg
· Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac ar bapur
· Gallu a chymhelliant i gwblhau rhaglen ddatblygu dros pedair blynedd
· Rhywun sydd ag awydd i ddatblygu i fod yn Swyddog Ymchwilio
Beth yw’r manteision i chi
· Cyfle i ddatblygu sgiliau Swyddog Ymchwilio gyda swydd sicr fel Swyddog Ymchwilio ar ddiwedd y rhaglen pedair blynedd
· Rhaglen hyfforddi strwythuredig i ymestyn eich sgiliau a’ch galluoedd
· Cyfle i weithio gyda thîm gwych i wneud gwahaniaeth go iawn, gan ddarparu cyfiawnder ac arwain at welliannau
· Amrywiaeth o waith
· Cyflog cystadleuol sy’n cynyddu
· Lwfans gwyliau blynyddol o 32 o ddiwrnodau a gwyliau banc ar ben hynny
· Mae’r manteision eraill yn cynnwys; Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, cynllun oriau hyblyg, aelodaeth ratach o gampfa, cynlluniau prynu am bris gostyngol
· Cyfleusterau rhagorol ar y safle pan fyddwch yn gweithio ar y safle, a chyfarpar ar gyfer gweithio gartref
I wneud cais
Ewch i’n gwefan (www.ombudsman.cymru) i gael mynediad at y pecyn recriwtio, a nodwch mai llenwi ein cais ni yw’r unig ffordd o wneud cais am y cyfle hwn.
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a’ch Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal drwy anfon ebost at: recruitment@ombudsman.wales erbyn 5pm 16 Mehefin 20265. Cofiwch fod gennym yr hawl i gau’r cyfle hwn yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio’r rhestr fer ar gyfer y swydd.
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arferion da yn y ffordd rydym yn denu, yn recriwtio ac yn cadw staff.
Rydym yn annog pawb i ddod â nhw eu hunain yn llwyr i’r gwaith oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu gwirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y manteision a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oed, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Swyddog Ymchwilio Graddedig Dan Hyfforddiant
Cysylltiad Swyddog Ymchwilio Graddedig Dan Hyfforddiant