Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Ymchwilio a Gorfodi
Swyddog Ymchwilio a Gorfodi
Trosolwg:
Bod yn gyfrifol am gynnal ymchwiliadau statudol ar sail amheuaeth o fethiant a pharatoi adroddiadau cysylltiedig gan wneud hynny yn unol â threfn fabwysiedig y Comisiynydd....
Disgrifiad:
Swyddog Ymchwilio a Gorfodi
Contract: Tymor penodol neu secondiad am 6 mis yn gychwynnol gyda’r posibilrwydd o ymestyn gan ddibynnu ar amgylchiadau ar y pryd.
Oriau Gwaith: 22 awr yr wythnos (3 diwrnod)
Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn (pro rata)
Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun
Cyfweliadau: 26 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)
Dyletswyddau penodol
YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Â SAFONAU
- Bod yn gyfrifol am gynnal ymchwiliadau statudol ar sail amheuaeth o fethiant a pharatoi adroddiadau cysylltiedig gan wneud hynny yn unol â threfn fabwysiedig y Comisiynydd.
- Bod yn gyfrifol am wneud cynigion ynghylch argymhellion neu gamau gorfodi neu gosbau sifil priodol i’w gosod yn eu lle yn unol â gofynion deddfwriaeth iaith. Diweddaru gwybodaeth ynghylch gweithrediad unrhyw gamau neu argymhellion a osodir.
- Bod yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i’w osod yng nghofrestr camau gorfodi Comisiynydd y Gymraeg.
CYTUNDEBAU SETLO
- Bod yn gyfrifol am wneud cytundebau setlo a diweddaru gwybodaeth am eu gweithrediad lle bo hynny’n briodol.
DIFFYG CYDYMFFURFIO Â SAFONAU: CWYNION GAN BERSONAU A EFFEITHIR ARNYNT
- Bod yn gyfrifol am ymdrin â chwynion yn unol â chanllawiau a pholisïau Comisiynydd y Gymraeg gan eu datrys yn syth lle fo’r mater yn rhwydd i’w ddatrys.
- Bod yn gyfrifol am gynnal ymchwiliadau statudol ar sail tystiolaeth ddibynadwy a gwirio cwynion dilys a pharatoi adroddiadau cysylltiedig gan wneud hynny yn unol â threfn fabwysiedig y Comisiynydd.
- Bod yn gyfrifol am roi sylw i gwynion gan sicrhau bod ymatebion amserol yn cael eu hanfon at ohebwyr yn unol â chanllawiau gohebu’r Comisiynydd. Rhannu gwybodaeth allweddol er mwyn cyflawni dibenion gwaith a sicrhau mynediad i swyddogion perthnasol at wybodaeth gan warchod cyfrinachedd.
- Bod yn gyfrifol am ymwneud gydag achwynwyr a sefydliadau mewn modd cwrtais a phriodol gan eu diweddaru ar achosion yn gyson.
RHYDDID I DDEFNYDDIO’R GYMRAEG
- Ymchwilio i honiadau o ymyrraeth â rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg yn unol â gweithdrefnau a pholisi’r Comisiynydd gan lunio adroddiadau y gall y Comisiynydd ddyfarnu ar eu sail.
CYNGOR A CHYMORTH CYFREITHIOL
- Yn unol ag adrannau 8 – 10 Mesur y Gymraeg bod yn barod i ystyried ceisiadau am gymorth a chyngor cyfreithiol yn ogystal â chynorthwyo’r uwch swyddog i ystyried dwyn achosion neu ymyrryd mewn achosion cyfreithiol.
TRIBIWNLYS Y GYMRAEG
- Paratoi gwaith papur ar gyfer achosion Tribiwnlys y Gymraeg a chyfrannu at lunio datganiadau achos a darparu tystiolaeth i gwmnïau cyfreithiol fel bo angen. Rhoi barn ar ddrafftiau o ddatganiadau achos a chadw cyswllt gydag uwch swyddogion pan fo angen.
DYLETSWYDDAU CYFFREDINOL
- Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl y galw.
Wrth i waith Comisiynydd y Gymraeg ddatblygu, fe all gofynion y swydd newid. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu trafod a’u cytuno â deiliad y swydd ymlaen llaw.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Disgrifiad Swydd
Ffurflen Gais
Ffurflen Cydraddoldeb a Monitro