Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog y Gymraeg

Swyddog y Gymraeg

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am Swyddog y Gymraeg ymroddedig i ymuno â'n tîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn y rôl hon, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y sefydliad, gan sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg a chefnogi staff i ddarparu gwasanaethau dwyieithog.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cyflog: £30,420 hyd at £37,030
Dyddiad Cau: 27/05/2025
Amser Cau: 00:00:00
Enw Cyswllt: Abbie Heasley
Lleoliad: Gweithio gartref yn bennaf gydag un diwrnod yr wythnos yn y swyddfa
Disgrifiad:

Rydym yn chwilio am Swyddog y Gymraeg ymroddedig i ymuno â'n tîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn y rôl hon, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y sefydliad, gan sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg a chefnogi staff i ddarparu gwasanaethau dwyieithog.

Bydd hyn yn cynnwys cyfieithu dogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg a hefyd o'r Gymraeg i'r Saesneg o bryd i'w gilydd. Yn ogystal, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynorthwyo'r Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu i gyhoeddi deunydd yn y Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd y rôl hon yn cyfrannu at sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio â rheoliadau Mesur y Gymraeg (2011), a thrwy wneud hynny bydd yn sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu cynnig i gleifion yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr.

Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddarparu gwasanaeth Cymraeg cynhwysfawr, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Safonau'r Gymraeg.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda rheolwyr gwasanaethau i wella gwasanaethau a sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog yn holl fusnes y Bwrdd Iechyd.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Swydd ddisgrifiad

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Tiwtor / Asesydd Ysgolion De Ddwyrain x2 ( neu Tiwtor / Asesydd hyfforddiant x2)

Swyddog Datblygu Sesiynol Cyfranogiad

Swyddog Cyfathrebu a Marchnata Cymraeg i Bawb (Rhanbarth De-ddwyrain Cymru)