Swyddog y Gymraeg
Swyddog y Gymraeg
Trosolwg:
Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyfrinachol ar-lein, dros y ffôn, ac yn bersonol, yn rhad ac am ddim. Trwy ein rhwydwaith genedlaethol o elusennau rydym yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder i bobl i'w galluogi i symud ymlaen – pwy bynnag ydyn nhw, a beth bynnag fo'u problem.
We are re-directing you
* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *
Disgrifiad:
Cyfeirnod swydd: 002638
Cyflog: £35,630 cyflog sylfaenol y flwyddyn
Dyddiad cau: 18/05/2025
Adran: Cymru
Lleoliad: Cymysg rhwng y swyddfa a'r cartref (Lloegr a Chymru)
Math o gyflogaeth: Parhaol
Oriau yr wythnos: 36 awr a 15 munud (Yn agored i weithio'n hyblyg)
Hyd y contract: Parhaol
Ydych chi eisiau gweithio i sefydliad sy'n gwneud gwahaniaeth, bob dydd, ac i bobl o bob cefndir? Mae angen help ar y bobl sy'n troi at Gyngor ar Bopeth i oresgyn rhwystr yn eu bywydau – dyled, cael eu troi allan o'u cartrefi, trafferthion yn y gwaith, ayyb – a gallwch fod yn allweddol iddynt o ran sicrhau'r cymorth sydd ei angen arnynt yn y ffordd gyflymaf, hawsaf a mwyaf effeithiol.
Y rôl
Fel ein Swyddog y Gymraeg byddwch yn aelod annatod o dîm Cyngor ar Bopeth Cymru, yn rhan o'n cyfarwyddiaeth Partneriaethau ac Eirioli, a byddwch yn chwarae rhan allweddol yn llunio Strategaeth Gymraeg yr elusen.
Mae'r rôl yn cynnwys dylanwadu ar dimau cenedlaethol, cefnogi swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol yng Nghymru, a byddwch hefyd yn cynrychioli Cyngor ar Bopeth o fewn rhwydweithiau Cymraeg ac yn nodi cyfleoedd i gefnogi mynediad ac ymgysylltiad uwch ar gyfer cleientiaid a chydweithwyr yng Nghymru.
Agwedd allweddol o'r rôl yw cyfathrebu strategol ac ymgysylltu ag uwch arweinwyr Cyngor ar Bopeth a chyda rhanddeiliaid ar hyd a lled Cymru gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Byddwch hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg gan ddarparu'r Cynnig Cymraeg ar gyfer Cyngor ar Bopeth a hyrwyddo'r dull "Cymraeg Clir".
Gan weithio'n agos gyda Chyfarwyddwr Cymru Cyngor ar Bopeth a’r Grŵp Ymgynghorol Cymru, byddwch yn llunio ein Strategaeth Iaith Gymraeg a'r cynnig gweithredol, yn reoli gwasanaethau a chyllidebau cyfieithu, yn darparu rheolaeth linell i'r Cyfieithydd Cymraeg, ac yn sicrhau cynnwys Cymraeg o ansawdd uchel ar draws gwahanol blatfformau.
I wneud cais
I wneud cais, cyflwynwch CV dienw a llythyr eglurhaol dienw. Dylai eich llythyr eglurhaol fod yn ddim mwy na thudalen o hyd, ac amlinellwch ynddo pam y byddech chi'n addas ar gyfer y rôl.
Mae Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant o bwysigrwydd strategol o fewn y sefydliad ac yn cael ei gydnabod fel rhan annatod o bopeth a wnawn fel gwasanaeth.
Yn ganolog i'n cenhadaeth Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant mae adeiladu timau amrywiol a chynhwysol y mae pawb yn teimlo'n rhan ohonynt. Rydym yn credu bod cynhwysiant yn fater cyfiawnder cymdeithasol - egwyddor sy'n sail i'n holl waith Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant. I'r perwyl hwnnw, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl yr hoffem eu gweld yn cael eu cynrychioli'n well yn ein sefydliad a'n sector - pobl o liw, pobl LHDTC+ a phobl anabl. Byddwn yn cynnig cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n nodi eu bod yn dymuno i'w cais gael ei ystyried o dan ein Hymrwymiad Cyfweliad Anabledd Hyderus os ydynt yn bodloni ein meini prawf dethol yn eu cais. Mae rhai o'n rolau yn denu nifer uchel o geisiadau ac mewn rhai amgylchiadau lle nad yw'n ymarferol neu'n briodol, efallai y byddwn yn cyfyngu ar nifer y cyfweliadau a gynigir i ymgeiswyr anabl a rhai nad ydynt yn anabl. Byddwn yn darparu addasiadau rhesymol yn ôl yr angen. Rydym yn dilyn y model anabledd cymdeithasol.
Rydym yn gyflogwr hyblyg, felly gall y rôl hon fod yn addas i unrhyw un a fyddai'n well ganddynt drefniant hyblyg i helpu eu cydbwysedd gwaith/bywyd - mae llawer o'n cydweithwyr yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gweithio o bell. Er bod yn well gennym ddull cyfunol o weithio sy'n cyfuno gweithio mewn swyddfa leol, os oes un yn agos atoch, a'ch cartref, rydym yn agored i fod yn hyblyg o ran lleoliad. Weithiau, gall rôl olygu bod angen i chi fod wedi'ch lleoli mewn lleoliad penodol. Os yw hynny'n wir, bydd hyn yn cael ei esbonio yn yr hysbyseb neu'r disgrifiad swydd. Gellir trafod hyn yn fanylach yn ystod eich cyfweliad.
Mae'r Cyngor Cenedlaethol ar Bopeth yn gweithredu o swyddfeydd yng Nghymru a Lloegr, gyda 4 swyddfa ranbarthol wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, Llundain, Birmingham a Leeds, felly rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus fod wedi'i leoli yng Nghymru neu Loegr.
Mae ein hymrwymiad i les cydweithwyr yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith ein bod wedi derbyn y wobr Aur yn y categori Iechyd a Lles ynghŷd â'r wobr Prif Enillwyr yng ngwobrau Employee Experience Awards 2022.
Byddwch yn ymwybodol nad yw Cyngor ar Bopeth yn sefydliad noddi. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus felly fod eisoes â'r hawl i weithio yn y DU neu allu sicrhau'r hawl i weithio yn y DU yn annibynnol.
Rydym wedi derbyn y wobr elusen orau ym mynegai cyflogwyr y trydydd sector, lle cydnabuwyd bod Cyngor ar Bopeth yn sefydliad sydd nid yn unig yn blaenoriaethu'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu ond hefyd yn rhoi pwyslais ar les ei weithwyr.
Os bydd nifer uchel o geisiadau, rydym yn cadw'r hawl i gau'r broses gais yn gynnar.
Bydd y swydd wag hon yn cau i geisiadau am 23.59 ar y dyddiad cau.
I gael rhagor o wybodaeth am y sefydliad, ein gwerthoedd a'n manteision, gweler y ddolen ganlynol - Gwybodaeth, gwerthoedd a buddion
Os bydd angen help gyda'ch cais arnoch, darllenwch ein canllawiau defnyddiol ar y dudalen ganlynol - Nodiadau canllaw i ymgeiswyr
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *