Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog y Gymraeg
Swyddog y Gymraeg
Trosolwg:
Arwain y ffordd o ran adolygu a diweddaru Cynllun Iaith Gymraeg a Chynllun Gweithredu'r VOA, gan sicrhau bod pob maes busnes perthnasol yn y VOA yn ymwybodol o’n hymrwymiadau yn y Cynllun.
Disgrifiad:
Swyddog y Gymraeg
Swyddog y Gymraeg yw darparu ystod o ddyletswyddau i’r safon uchaf er mwyn sicrhau bod y VOA yn cydymffurfio â’i Chynllun Iaith Gymraeg.
Prif gyfrifoldebau
Arwain y ffordd o ran adolygu a diweddaru Cynllun Iaith Gymraeg a Chynllun Gweithredu'r VOA, gan sicrhau bod pob maes busnes perthnasol yn y VOA yn ymwybodol o’n hymrwymiadau yn y Cynllun.
Cynnal a chadw rhwydwaith mewnol, gan gynnwys cadeirio Gweithgor Iaith Gymraeg yr Asiantaeth i fonitro ein cynnydd wrth fodloni ein hymrwymiadau.
Rheoli perthynas y VOA gyda Chomisiynydd y Gymraeg.
Arwain y ffordd o ran adrodd cynnydd y VOA yn erbyn ei hymrwymiadau, yn fewnol i’n Pwyllgor Gweithredol, ac yn allanol i Gomisiynydd y Gymraeg.
Mynd ati i weithio ar draws meysydd busnes a phrosiectau yn y VOA sy’n berthnasol i Gymru, gan sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hystyried o ddifrif ar bob adeg.
Dod o hyd i welliannau posibl i’r hyn y mae’r VOA yn ei gynnig o ran yr iaith, gan weithio ar y cyd â chydweithwyr i gyflawni’r atebion gorau.
Gweithio’n agos gyda thimau perthnasol i ddarparu cymorth o ran cyfieithiadau sy’n hanfodol i’r busnes a sicrhau ansawdd deunyddiau Cymraeg.
Manyleb bersonol
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn berson sy’n cymell ei hun, yn gallu bwrw iddi’n syth, ac yn gallu meithrin cysylltiadau cryf yn fewnol ac yn allanol. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol y nodweddion canlynol:
Sgiliau cyfathrebu dwyieithog cryf gan gynnwys yr hyder i gael sgyrsiau heriol gydag uwch swyddogion er mwyn symud gwaith yn ei flaen.
Gallu trefnu ei hun a’i lwyth gwaith yn effeithiol, gan ddangos natur flaengar a mynd ati’n rhagweithiol i nodi blaenoriaethau gwaith.
Gallu gweithio ar draws sefydliad mawr – gan nodi materion sy’n dod i’r amlwg a chefnogi arweinwyr polisi i bennu camau nesaf y gellir eu gweithredu.
Sgiliau effeithiol o ran meithrin perthynas sy’n ei alluogi i ddylanwadu ar eraill i fireinio eu darpariaeth a sefydlu prosesau.
Meini Prawf Hanfodol
Sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu lefel uchel yn y Gymraeg. Bydd asesiad o’r rhain yn cynnwys ymarfer ysgrifenedig yn ystod y cyfweliad.
Gallu blaenoriaethu gofynion sy’n cystadlu â’i gilydd er mwyn creu a chynnal perthynas gwaith cryf yn gyflym.
Gofynion Dymunol
Gradd yn y Gymraeg a/neu gymhwyster cyfieithu.
Profiad o gyfieithu’n broffesiynol.
Profiad o weithio mewn sefydliadau mawr o fewn swyddogaeth strategol.
Ymwybyddiaeth o Gynlluniau Iaith Gymraeg.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan