Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu (2 swydd)
Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu (2 swydd)
Trosolwg:
Gwahoddir ceisiadau am ddwy swydd tra medrus fel Swyddogion y Cyfryngau a Chyfathrebu yn cefnogi’r gwaith o hyrwyddo presenoldeb ac enw da'r Brifysgol ar y cyfryngau. Bydd yr ymgeiswyr yn fedrus wrth reoli ymgyrchoedd cyfryngol cynhwysfawr, wrth feithrin cysylltiadau ag allfeydd y cyfryngau gartref a thramor, ac wrth greu cynnwys effeithiol ar draws amrywiol lwyfannau mewnol ac allanol. Mae'r rôl hon yn gofyn am weledigaeth strategol, creadigrwydd, a dealltwriaeth fanwl o ddeinameg y cyfryngau.
Disgrifiad:
Prifysgol Bangor
Marchnata, Cyfathrebu a Recriwtio
Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu (2 swydd)
Graddfa 7: £37,099 - £44,263
(Cyf: BU03599)
Gwahoddir ceisiadau am ddwy swydd tra medrus fel Swyddogion y Cyfryngau a Chyfathrebu yn cefnogi’r gwaith o hyrwyddo presenoldeb ac enw da'r Brifysgol ar y cyfryngau. Bydd yr ymgeiswyr yn fedrus wrth reoli ymgyrchoedd cyfryngol cynhwysfawr, wrth feithrin cysylltiadau ag allfeydd y cyfryngau gartref a thramor, ac wrth greu cynnwys effeithiol ar draws amrywiol lwyfannau mewnol ac allanol. Mae'r rôl hon yn gofyn am weledigaeth strategol, creadigrwydd, a dealltwriaeth fanwl o ddeinameg y cyfryngau.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at lefel gradd mewn pwnc cysylltiedig, neu fod â phrofiad cyfatebol amlwg. Bydd gan ymgeiswyr brofiad o gynhyrchu a lleoli sylw yn y newyddion a byddant yn gallu ysgrifennu straeon sy’n 'gyfeillgar i'r cyfryngau'.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosibl.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyriwn geisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Derbyniwn geisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 18 Awst, 2024.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Tracey Roberts, Pennaeth y Cyfryngau a Chyfathrebu, e-bost: traceyroberts21@bangor.ac.uk, ffôn: 01248 388061.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu (2 swydd)
Cysylltiad Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu (2 swydd)