Swyddog Ti a Fi Teithiol x3 (De Ynys Môn a Gogledd Gwynedd/ Gogledd Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion/ Talaith y De Ddwyrain, lleoliad yn hyblyg)
Swyddog Ti a Fi Teithiol x3 (De Ynys Môn a Gogledd Gwynedd/ Gogledd Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion/ Talaith y De Ddwyrain, lleoliad yn hyblyg)
Trosolwg:
Gweler Swydd Disgrifiad
Enw'r Cyflogwr: Mudiad Meithrin
Cyflog: MM9 £19,138
Dyddiad Cau: 18/05/2022 (0 diwrnod)
Amser Cau: 00:00:00
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Ffôn:
E-bost:
Anfon e-bost
Gwefan: Ewch i'r gwefan
Lleoliad:
Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
- Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol i gynnal cylchoedd Ti a Fi.
- Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal a bennwyd – gall un neu fwy o’r rhain fod yn Gylch Ti a Fi am dro (Oherwydd cyfyngiadau Covid19 mae rhain i gyd tu allan am y tro neu yn rhithiol)
- Dangos hyblygrwydd i weithio’n rhithiol os oes angen.
- Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr.
- Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel. Cynnal Asesiadau Risg gan ddilyn canllawiau Mudiad Meithrin
- Sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi trwy gydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd.
- Ar y cyd a’r Rheolwr Talaith, Swyddogion Cefnogi, Swyddogion Cymraeg i Blant, meithrin perthynas a nifer o bartneriaethau lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gan gynnwys Mentrau Iaith, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, Dewis, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ayyb.
- Cydweithio’n agos â chynlluniau eraill y Mudiad e.e Sefydlu a Symud a Chynllun Cymraeg i Blant, er mwyn sicrhau’r rhaglen orau yn lleol.
- Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd e.e. Diwrnodau hwyl i’r teulu.
- Casglu gwybodaeth fel bo galw ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i gyllidwr / Mudiad Meithrin.
- Cydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.
- Trefnu bod Arweinydd/staff Cylchoedd Meithrin a chynrychiolydd o’r Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi er mwyn trafod manteision dwyieithrwydd a dilyniant i Addysg Gymraeg gyda’r rhieni ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
- Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog
- Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.
- Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.
- Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
- Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd
Swyddog Ti a Fi Teithiol x3 (De Ynys Môn a Gogledd Gwynedd/ Gogledd Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion/ Talaith y De Ddwyrain, lleoliad yn hyblyg)
Cysylltiad Swyddog Ti a Fi Teithiol x3 (De Ynys Môn a Gogledd Gwynedd/ Gogledd Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion/ Talaith y De Ddwyrain, lleoliad yn hyblyg)