Swyddog Systemau Gwybodaeth

Swyddog Systemau Gwybodaeth

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i sicrhau gwasanaeth cyfrifiadurol a chyfathrebu fel bo Grŵp Cynefin yn rhagori.  Byddwch yn cefnogi’r Rheolwr a’r Cydlynydd Systemau Gwybodaeth a chyd-weithio gydag aelodau eraill i gyflawni nodau ac amcanion y Tîm.  Byddwch yn cynorthwyo i ddatblygu a chynnal systemau gwybodaeth effeithiol ac effeithlon a chefnogi staff y Grŵp yn eu gwaith tra’n defnyddio’r systemau fel y gall y Grŵp roi'r gwasanaeth gorau i’w chwsmeriaid.

 

​Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *

Enw'r Cyflogwr: Grŵp Cynefin
Cyflog: £28,428 - £31,995 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 20/01/2025 (2 diwrnod)
Amser Cau: 00:00:00
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
Ffôn: 03001112122
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

1.    Cynorthwyo’r Rheolwr a’r Cydlynydd Systemau Gwybodaeth i redeg a datblygu isadeiledd cyfrifiadurol  Grŵp Cynefin.

2.    Trafod a chasglu gwybodaeth am broblemau defnyddwyr gan fod yn gwrtais ac amyneddgar a chofnodi problemau yn gywir a chlir.

3.    Defnyddio sgiliau a phrofiad technegol i ymchwilio a gwneud penderfyniadau i ddatrys problemau a all fod yn gymhleth gan ymgynghori ag aelodau eraill y Tîm neu gwmnïau allanol pan fo angen, ac anelu at gyflawni datrysiad o fewn lefelau gwasanaeth a gytunwyd.

4.    Darparu cyngor a chymorth yn gwrtais a diplomataidd i gyd-weithwyr ynglyn â materion Systemau Gwybodaeth.

5.    Gosod a chynnal a chadw cyfrifiaduron a systemau cyfathrebu Grŵp Cynefin a chadw meddalwedd yn gyfredol gan fynychu swyddfeydd ardal pan fo angen.

6.    Ymchwilio i dechnoleg newydd i ddarganfod datrysiadau arloesol i broblemau cyfrifiadurol gan gadw ymwybyddiaeth yn gyfredol yn y maes Systemau Gwybodaeth.

7.    Prisio datrysiadau i broblemau.

8.    Ymgymryd â phrosiectau a osodwyd gan y Cydlynydd neu’r Rheolwr Systemau Gwybodaeth.

9.    Archebu offer, meddalwedd a thrwyddedau sydd wedi eu hawdurdodi gan y Cydlynydd neu’r Rheolwr Systemau.

10. Hysbysu staff yn gwrtais a phrydlon am broblemau rhwydwaith neu systemau sydd yn effeithio nifer o staff.

11. Gweinyddu cyfrifon defnyddwyr yn unol â pholisi a gweithdrefnau’r Tîm Systemau Gwybodaeth. 

12. Darparu hyfforddiant syml ar systemau cyfrifiadurol a chyfathrebu Grŵp Cynefin i unigolion.   

13. Anwytho staff newydd i systemau gwybodaeth Grŵp Cynefin drwy hyfforddiant ac esbonio polisïau systemau gwybodaeth iddynt.

14. Ysgrifennu canllawiau syml i ddefnyddwyr ar ddefnydd systemau gwybodaeth Grŵp Cynefin. 

15. Cynorthwyo i gadw cofnod asedau cyfrifiadurol Grŵp Cynefin.

16. Sefydlu, datblygu a chynnal perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr i sicrhau cyfraniad integreiddiedig i amcanion Grŵp Cynefin.

17. Cymryd rhan yng nghyfarfodydd Tîm Systemau Gwybodaeth gan gyfrannu syniadau neu awgrymiadau i wella’r gwasanaeth.

18. Cyfrannu tuag at berfformiad a chyflawni nodau ac amcanion y Tîm.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Disgrifiad Swydd

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position.

Mwy

GWELD POPETH

Cydlynydd Trefnu Cyfryngau

Swyddog Gweinyddu Prosiect – Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru

Swyddog Cymraeg i Blant Arfon (Cyfnod Mamolaeth a Thymor Ysgol yn Unig)