Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Prosiect Newid

Swyddog Prosiect Newid

Trosolwg:

Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddog Prosiect Newid, swydd sy'n ganolog wrth gyflawni ein Rhaglen Newid. Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ar draws y busnes a'n rhanddeiliaid allanol, byddwch yn cefnogi'r Tîm Newid canolog a rheolwyr prosiect i gydlynu a chyflawni gweithgareddau rheoli newid. 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Archwilio Cymru
Cyflog: £31,382 - £37,673 (band cyflog 2)
Dyddiad Cau: 01/05/2024
Amser Cau: 17:30:00
Enw Cyswllt: Tîm Adnoddau Dynol
Lleoliad: 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, Caerdydd, Cymru, CF10 4BZ
Disgrifiad:

Swyddog Prosiect Newid

Cyflog £28,224 i £34, 049 (codiad cyflog yn yr arfaeth)

35 awr yr wythnos

Helpu i roi pobl wrth galon newid

Ynglŷn â'r swydd

Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddog Prosiect Newid, swydd sy'n ganolog wrth gyflawni ein Rhaglen Newid. Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ar draws y busnes a'n rhanddeiliaid allanol, byddwch yn cefnogi'r Tîm Newid canolog a rheolwyr prosiect i gydlynu a chyflawni gweithgareddau rheoli newid. 

Mae'r swydd yn un amrywiol ac mae'n cynnwys gweinyddu a chydgysylltu cynlluniau, ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid, monitro ac adrodd, dadansoddi data a chefnogi digwyddiadau allweddol a chyfarfodydd llywodraethu.

Mae ein swyddogaeth rheoli newid yn Archwilio Cymru yn sicrhau bod pobl yn cael eu rhoi wrth wraidd newid. Byddwch yn cyfrannu'n rhagweithiol at hyn drwy gefnogi datblygiad gwasanaethau a phrosesau drwy ddarparu cymorth ac arweiniad, gan ymgorffori dull cyson o reoli newid yn Archwilio Cymru. 

Mae hon yn swydd allweddol o ran rheoli a chefnogi swyddogaeth weinyddol y tîm newid a darparu lefel uchel o wasanaeth, tra'n sicrhau bod y ddarpariaeth yn adlewyrchu gwerthoedd ac ymddygiadau HYDER Archwilio Cymru.

Pwy yw Archwilio Cymru

Archwilio Cymru yw'r corff archwilio annibynnol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae gennym sefyllfa unigryw yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, lle ein rôl ni yw:

·      Sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda drwy ein harchwiliad blynyddol o gyfrifon y sector cyhoeddus. 

·      Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl drwy ein hastudiaethau Gwerth am Arian. 

·      Ysbrydoli a grymuso'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw i wella'n barhaus drwy rannu mentrau ac arfer gorau.

Gweithio i ni

Mae Archwilio Cymru yn lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant anhygoel o gefnogol. Rydym yn frwdfrydig am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.

Rydyn ni'n hyblyg – yn gweithio'n gallach;  wrth ddarparu dewisiadau o sut, pryd a lle mae unigolion a thimau yn cyflawni eu gwaith – rydym yn ymddiried ynoch chi wrth wneud y dewis cywir i gyflawni'r dasg wrth eich cefnogi yn eich amgylchiadau unigol, boed hynny'n gyfrifoldebau gofalu neu'n rheoli anableddau.

Mae gennym delerau rhagorol – rydym wir yn poeni am ein pobl ac am ddarparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith trwy ein hwythnos waith 35 awr, a'n 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (unigryw o wyliau banc cyhoeddus), gallwch hefyd brynu,  gwerthu, a rhoi gwyliau yn y 'banc' i alluogi gwyliau estynedig. 

Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl – rydym yn eiriolwyr dros ddatblygiad personol a phroffesiynol ac yn buddsoddi yn ein pobl i gyflawni eu dyheadau gyrfa i fod y gorau y gallant Rydym yn cynnig 10 diwrnod hyfforddi y flwyddyn sy'n cael ei ategu gan ddull cyfunol o ddysgu strwythuredig ac anstrwythuredig.  Mae ein cynllun mentora a hyfforddi llwyddiannus i'n trwyddedau Dysgu LinkedIn yn rhoi cyfle i staff ddysgu ar adegau ac mewn ffyrdd sy'n addas iddynt.

Mae gennym Fuddion Rhagorol - Ochr yn ochr â'n pecyn cyflog hael, rydym yn cynnig cyfle i bob cyflogai ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy'n cael ei ystyried yn un o'r cyfraddau cyfraniadau cyflogwr gorau.  Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy. 

Rydym yn Falch o gael ein Hachredu - Rydym yn gyflogwr teuluoedd sy'n gweithio a Newid 100 balch ac rydym wedi ennill achrediad Cyflog Byw.

Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu y byddwn yn cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

Sut brofiad yw gweithio yn y Tîm Newid

Mae'r Tîm Newid yn Archwilio Cymru yn hynod gefnogol a phositif. Rydyn ni wir yn caru'r hyn rydyn ni'n ei wneud ac rydyn ni'n angerddol am gael effaith ar y sefydliad. Er bod ein Rheolwyr Newid a'n Rheolwr Rhaglen yn arwain prosiectau gwahanol, rydym yn dal i fod yn un tîm, gan gynnig mewnbwn ac arweiniad i'n gilydd. Mae rôl y Swyddog Prosiect yn cynnig y cyfle unigryw i gael mewnwelediad a chynnig cymorth hanfodol ar draws y rhaglen newid i gyflawni ein prosiectau, gan weithio gyda thimau ledled Archwilio Cymru i gyflawni canlyniadau.

Canfuwch fwy

Gallwch ganfod mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd yn y swydd ddisgrifiad. I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Ceri Hughes on 02920 320627 ar Ceri.Hughes@audit.wales . 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 01 Mai . 

Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gymryd rhan mewn asesiad meddwl beirniadol. Bydd yr holl asesiadau a chyfweliadau yn cael eu cynnal yn bersonol yn Swyddfa Caerdydd, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 13 Mai

Wrth wneud cais ar-lein cofiwch bwyso'r botwm parhau ar ôl cyflwyno'ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn fe gewch gydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth, cysylltwch â'n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwyAdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru

Sylwch, nid ydym yn gallu noddi fisas gwaith.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Fideo:

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Cyfathrebu

Rheolwr Cynllun Awel y Dyffryn

Gweinyddwr Gweithrediadau