Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Prosiect (Cymunedol)
Swyddog Prosiect (Cymunedol)
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig sydd â phrofiad o reoli prosiect i gyflawni ein prosiect Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint.
Disgrifiad:
Mae Cadwyn Clwyd Cyfyngedig yn fenter gymdeithasol sy’n cynnig arweiniad a chymorth i gymunedau a mentrau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae’r Cwmni yn canolbwyntio’n benodol ar weithrediadau sy’n ysgogi cymryd rhan ar lawr gwlad, cydweithio ac arloesi i gefnogi prosiectau economaidd-gymdeithasol ar gyfer cymunedau a mentrau sy’n gweithredu’n lleol. Maen nhw’n cydweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau a mentrau bach i’w cynorthwyo i ddatblygu a rhoi prosiectau ar waith, sydd o fudd i economi leol yr ardal. Ar hyn o bryd mae’r Cwmni wrthi’n cyflawni prosiectau sydd wedi’u hariannu fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (SPF). Fel rhan o’r swydd hon, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyflawni ‘Prosiect Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint’, sydd wedi’i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn Sir y Fflint.
Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig sydd â phrofiad o reoli prosiect i gyflawni ein prosiect Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint.
Bydd y prosiect yn cefnogi canolfannau / cyfleusterau / mannau / grwpiau sydd o dan arweiniad y gymuned a / neu sy’n eiddo i’r gymuned i ddatblygu, cryfhau a gwella seilwaith a phrosiectau cymunedol. Bydd y prosiect cyffredinol, sydd ar y cyd â Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, yn cynnig cymorth cofleidiol i grwpiau cymunedol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Swyddog Prosiect (Cymunedol)
Cysylltiad Swyddog Prosiect (Cymunedol)