Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Llesiant HWB Dinbych

Swyddog Llesiant HWB Dinbych

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ddarparu gwasanaeth ymyrraeth argyfwng a chyfeirio unigolion at gwasanaethau yn y gymuned.  Mae'r rôl hon yn mynd i'r afael â materion brys fel tai, dyledion, ac ynysu cymdeithasol, gan gynnig cefnogaeth hygyrch a galw heibio i sicrhau cymorth amserol a hyrwyddo cymuned iachach a mwy cysylltiedig.  Byddwch yn cefnogi Rheolwr, staff a phrosiectau HWB Dinbych a chreu amgylchedd diogel a chefnogol.​

​Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Grŵp Cynefin
Cyflog: £28,428 - £30,157 y flwyddyn pro rata
Dyddiad Cau: 20/02/2025
Amser Cau: 00:00:00
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
Ffôn: 03001112122
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

1.            Annog unigolion i ddefnyddio'r adnoddau yn HWB Dinbych i hyrwyddo cysylltiadau cymunedol, gan gynnwys clybiau swyddi, cyrsiau, a gweithgareddau llesiant.

2.           Gweithio’n agos gyda unigolion i’w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u anghenion.

3.           Cyd-weithio gyda mudiadau gwirfoddol, sefydliadau statudol er mwyn creu

           partneriaethau a phrosiectau er budd llesiant y gymuned.

4.           Mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau i fod yn wybodus am wasanaethau lleol a'r holl gymorth sydd ar gael yn y ganolfan gan asiantaethau partner.

5.             Cynnal asesiadau cychwynnol i ddeall anghenion unigol pob unigolyn. Creu cynlluniau gweithredu wedi'u teilwra, darparu cymorth emosiynol, a chynnig cymorth ymarferol wrth gael mynediad at wasanaethau.

6.          Helpu unigolion gyda gwaith papur, cydlynu apwyntiadau, a darparu dilyniant i sicrhau parhad cymorth.

7.           Ehangu'r cymorth 1-2-1 i unigolion mewn argyfwng trwy gynyddu atgyfeiriadau i amrywiaeth o wasanaethau fel atal digartrefedd, mentrau bwyd, cyngor ar ddyledion, cymorth gamblo, ac adnoddau iechyd meddwl.

8.          Trefnu a  chyflwyno sesiynau gyda'r nos ar gyfer y rhai na allant fynychu yn ystod y dydd, gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith a gwella sgiliau.

9.            Cefnogi a hybu pobl ifanc i fynychu sesiynau ieuenctid yn HWB Dinbych, gan gynnwys sesiynau gyda'r nos sy'n canolbwyntio ar sgiliau bywyd hanfodol fel cyllidebu, coginio, gofal personol, a phrosesau gwneud cais am swyddi.

10.         Trefnu cyfres o ddigwyddiadau / gwibdeithiau / ymweliadau i ledaenu

          gwybodaeth am y diwygiadau lles.

11.        Bod yn wybodus am y problemau tai yr ardal gan atgyfeirio unigolion sy'n wynebu digartrefedd neu mewn perygl o fod yn ddigartref i'r tîm atal digartrefedd a chyrff fel ‘My Home Denbighshire’ a Shelter Cymru.

12.         Cynnal ymgynghoriadau gyda'r gymuned i ddeall eu hanghenion a'u blaenoriaethau.

13.         Trefnu digwyddiadau a chyrsiau sy'n ymateb i'r galw ac yn cefnogi llesiant pobl, megis gweithdai iechyd meddwl, cyrsiau sgiliau bywyd, a gweithgareddau cymdeithasol.

14.        Cadw cofnodion manwl o'r holl weithgareddau a chymorth a ddarperir i unigolion.

15.         Sicrhau bod adroddiadau'n cael eu diweddaru'n rheolaidd ac yn gywir i adlewyrchu'r cymorth a ddarperir a'r cynnydd a wneir.

16.         Sicrhau dulliau monitro a gwerthuso effeithiol er mwyn cofnodi’r deilliannau

17.         Paratoi adroddiadau cynnydd i’r arianwyr yn ôl y gofynion.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Disgrifiad Swydd

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Arolygydd (3 Swydd)

Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata

Swyddog Datblygu