Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Iechyd a Diogelwch
Swyddog Iechyd a Diogelwch
Trosolwg:
Swyddog Iechyd a Diogelwch
Penrhyndeudraeth, Gwynedd (Hybrid)
£32,076 - £37,336 y flwyddyn (pro rata)
Disgrifiad:
Swyddog Iechyd a Diogelwch
Penrhyndeudraeth, Gwynedd (Hybrid)
Amdanom ni
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.
Rydym nawr yn chwilio am Swyddog Iechyd a Diogelwch i ymuno â ni yn rhan amser, parhaol, gan weithio 18.5 awr yr wythnos dros dri diwrnod. Gallwn hefyd gysidro oriau llawn amser.
Y Manteision
- Cyflog o £32,076 - £37,336 y flwyddyn (pro rata)
- Pensiwn
- Lwfans Gwyliau o 24 diwrnod (pro rata)
- Dydd Gwyl Dewi i ffwrdd (1af o Fawrth)
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cynllun Cymorth Prynu Car
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
- Manteision Staff Ardderchog trwy'r Ap Llesiant 360
Y Rôl
Fel Swyddog Iechyd a Diogelwch, byddwch yn cael y dasg o gefnogi gweithgaredd IaD ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Gan weithio fel rhan o dîm o ddau Swyddog, byddwch yn darparu arweiniad, cyngor a chymorth iechyd a diogelwch ymarferol i'r Awdurdod, tra'n datblygu systemau iechyd a diogelwch i gynhyrchu a hyrwyddo diwylliant cadarnhaol sy'n cydymffurfio.
Elfen allweddol o'ch rôl fydd cefnogi Rheolwyr ar feysydd arbenigol Iechyd a Diogelwch, gan sicrhau bod rhwymedigaethau statudol yn cael eu bodloni a'n bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Byddwch yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer materion iechyd a diogelwch, yn ogystal â darparu gwybodaeth reoli i'n tîm uwch a phenaethiaid adran.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Cwblhau archwiliadau IaD
- Datblygu a darparu hyfforddiant, gan sicrhau bod strwythur hyfforddi cynhwysfawr yn ei le
- Gweithio gydag arbenigwyr iechyd a diogelwch allanol ar faterion critigol neu arbenigol
- Rheoli cofnodion iechyd a diogelwch ac adolygu a datblygu polisïau a gweithdrefnau
- Arwain a chydlynu ein Grŵp Iechyd a Diogelwch
- Cynnal asesiadau risg
Amdanoch chi
I gael eich ystyried yn Swyddog Iechyd a Diogelwch, bydd angen:
- Sgiliau cyfathrebu cryf yn y Gymraeg a'r Saesneg
- O leiaf tair blynedd o brofiad mewn rôl iechyd a diogelwch
- Profiad o ddarparu gwasanaeth cynghori iechyd a diogelwch ymarferol
- Profiad o ddatblygu polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch galwedigaethol gyfredol
- Diploma Cenedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol neu gymhwyster cyfatebol
- Trwydded yrru lawn, ddilys
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 27 Tachwedd 2023.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Swyddog IaD, Swyddog HSE, Swyddog Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd, Cynghorydd I&D, neu Gynghorydd Iechyd, Diogelwch a Lles.
Felly, os ydych chi'n barod i gefnogi ein sefydliad anhygoel fel Swyddog Iechyd a Diogelwch, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Swyddog Iechyd a Diogelwch
Cysylltiad Swyddog Iechyd a Diogelwch