Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Iaith Gymraeg

Swyddog Iaith Gymraeg

Trosolwg:

Bydd disgwyl i’r Swyddog Iaith Gymraeg cefnogi, adolygu a datblygu gweithrediad Cynllun Iaith Gymraeg RNIB ar draws y sefydliad i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pobl ddall ac â golwg rhannol yn ogystal â rhanddeiliaid yng Nghymru.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: RNIB
Cyflog: £36,155
Dyddiad Cau: 02/03/2025
Amser Cau: 17:30:00
Enw Cyswllt: RNIB
Lleoliad: Gellir gweithio o gartref gyda theithio achlysurol i'n swyddfa yng Nghaerdydd yn ôl yr angen.
Disgrifiad:

Swyddog Iaith Gymraeg

Cyflog: £36,155

Adran: Newid Cymdeithasol

Lleoliad: Cymru

Oriau:  35 awr yr wythnos. Ystyrir ceisiadau am waith rhan amser.

Cytundeb: Parhaol

Mae Tîm Newid Cymdeithasol RNIB Cymru yn gweithio i gael gwared ar y rhwystrau a wynebir gan bobl ddall ac â golwg rhannol mewn bywyd bob dydd.

Bydd disgwyl i’r Swyddog Iaith Gymraeg cefnogi, adolygu a datblygu gweithrediad Cynllun Iaith Gymraeg RNIB ar draws y sefydliad i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pobl ddall ac â golwg rhannol yn ogystal â rhanddeiliaid yng Nghymru.

Byddwch yn rhan o dîm Newid Cymdeithasol yng Nghymru, tîm uchelgeisiol, creadigol a deinamig yng Nghymru ac hefyd yn gweithio ar draws y sefydliad. Rydyn ni wedi profi llawer o lwyddiant ac yn chwilio am y person iawn i ymuno â'n tîm, gan rannu ein huchelgais i wneud byd sy'n gweithio'n well i bobl ddall ac â golwg rhannol.

Gellir gweithio o gartref gyda theithio achlysurol i'n swyddfa yng Nghaerdydd yn ôl yr angen.

Ynglŷn â'r Swydd

Byddwch yn arwain y gwaith o gyflawni Cynllun Iaith Gymraeg RNIB er mwyn sicrhau bod pob agwedd berthnasol ar ein gwaith yn cael ei darparu’n effeithiol i’n cynulleidfaoedd targed a rhanddeiliaid.

Byddwch yn gweithredu fel pwynt cyswllt canolog o fewn RNIB, gan ddarparu cyngor, gwybodaeth, ac arbenigedd ar ein hymrwymiadau iaith Gymraeg, codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ac effaith y gwaith hwn yn ogystal â chefnogi timau ar draws y sefydliad i gyflawni’r Cynllun Iaith Gymraeg.

Byddwch yn cysylltu â rhanddeiliaid allanol allweddol gan gynnwys swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod RNIB yn cymryd rhan ac yn dylanwadu ar bolisïau a chyfleoedd sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano

·      Sgiliau Cymraeg rhugl, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

·      Dealltwriaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg o fewn cyd-destun sefydliadol.

·      Profiad o feithrin perthynas â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn cyflawni Cynllun Iaith Gymraeg yn llwyddiannus.

·      Profiad o reoli prosiectau a gwerthuso eu llwyddiant.

·      Y gallu i gynhyrchu syniadau a meddwl yn greadigol ac yn rhagweithiol ac yn ymatebol i ddatrys problemau ar eich liwt eich hun.

Yr hyn yr ydym yn ei gynnig

Mae RNIB yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn lle gwych i weithio gyda diwylliant cadarnhaol, blaengar. Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion gan gynnwys 26 diwrnod o wyliau’r flwyddyn (ynghyd â gwyliau banc) sy’n codi gyda gwasanaeth, buddion ar gyfer teuluoedd, cynllun pensiwn cyfrannol gyda chyfraniad cyflogwr o hyd at 11% a phlatfform gwobrau gyda gostyngiadau i weithwyr ar gyfer dros 800 o fanwerthwyr.

 

 

 

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Fideo:

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Partner Pobl (Gweithredol)

Swyddog Ymgysylltu (Gogledd)

Swyddog Cyfathrebu