Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Iaith Gymraeg 

Swyddog Iaith Gymraeg 

Trosolwg:

Mae Prifysgol De Cymru yn recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer Swyddog Iaith Gymraeg i ymuno ag Uned y Gymraeg yn Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol ym mis Ionawr 2023.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Prifysgol De Cymru
Cyflog: £18,737.00 hyd at *£21,707.00 y flwyddyn pro rata.
Dyddiad Cau: 18/12/2022
Amser Cau: 05:30:00
Lleoliad: Pontypridd
Disgrifiad:

Swyddog Iaith Gymraeg 

Prifysgol De Cymru 

Gradd a chyflog: Gradd F o £18,737.00 hyd at *£21,707.00 y flwyddyn pro rata.

* penodir ar isafswm y raddfa.

Mae hyn yn cyfateb i gyflog llawn amser o £37,474.00 i £43,414.00. 

Rhan amser 0.5CALI

Cyfnod penodol tan 31.10.23

Mae Prifysgol De Cymru yn recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer Swyddog Iaith Gymraeg i ymuno ag Uned y Gymraeg yn Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol ym mis Ionawr 2023. Fel un o'r darparwyr addysg uwch mwyaf yng Nghymru, mae'r Brifysgol yn lleoliad delfrydol i unigolion ddatblygu eu gyrfaoedd, meithrin eu talent a gwneud gwahaniaeth. Wedi'i lleoli ym Mhontypridd, ond gyda gweithio o bell yn bosibl hefyd, prif bwrpas y rôl yw monitro a sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â'i Hysbysiad Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda chydweithwyr yn ein cyfadrannau a'n hadrannau i roi arweiniad ar sut i weithredu Safonau’r Gymraeg a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau. Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, hunan-gymhellol, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n rhoi sylw i fanylion. Mae'r gallu i ddatblygu perthynas waith rhagorol gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol a chyda'n rhanddeiliaid allanol hefyd yn hollbwysig. Mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddai dealltwriaeth dda o Safonau’r Gymraeg yn fuddiol, ond nid yw'n angenrheidiol gan y bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu. Am wybodaeth ynglŷn â Hysbysiad Cydymffurfio Safonau’r Gymraeg y Brifysgol a gwybodaeth ychwanegol ewch i: https://uso.southwales.ac.uk/swyddfa-ysgrifennydd-y-brifysgol/uned-gymraeg/  

Mae hon yn rôl ran-amser (0.5CALI) ar sail cyfnod penodol tan 31/10/2023. Byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau am secondiad. Mae'r Brifysgol yn gweithredu model gweithio hybrid ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar y campws am ran o'r wythnos.

Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Sara Maynard, Pennaeth y Gymraeg Dros Dro sara.maynard@southwales.ac.uk.

Os ydych chi'n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich swydd gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu fe’ch cyflogir gan PSS Ltd ar hyn o bryd), cewch eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy'n darparu gwasanaethau i'r Brifysgol a'r Colegau. Os ydych chi'n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, byddwch chi'n parhau i gael eich cyflogi gan Brifysgol De Cymru.

Dyddiad cau'r cais 18/12/2022

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Tiwtor y Gymraeg

Cadeirydd

Prentis Chwaraeon x6