Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Gwella Busnes
Swyddog Gwella Busnes
Trosolwg:
Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i unigolion sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai mewn awyrgylch Gymreig lle mae’r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i’r teulu.
Disgrifiad:
CYFEIRNOD SWYDD: GC506-00
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Grŵp Cynefin wrth i ni barhau ar daith drawsnewidiol tuag at ddiwylliant sy’n canolbwyntio’n ddiffuant ar y cwsmer a chanlyniadau.
Mae’r sector tai a’n cymunedau gwledig yn parhau i wynebu heriau mawr, yn arbennig datgarboneiddio a darparu mwy o dai fforddiadwy.
Rydym wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014, pan gawsom ein creu wrth i ddau Landlord Cymdeithasol Cofrestredig traddodiadol uno. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Mae ein cymunedau a nifer y cartrefi rydyn ni’n eu rheoli ar fin tyfu, rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Mae gennym uchelgeisiau mawr i adeiladu dros 350 o dai fforddiadwy newydd yn ystod y tair blynedd nesaf; 35 cartref arloesol arall i safon carbon isel / di-garbon a lleihau ein hol troed carbon o leiaf 4%.
Rydym yn ehangu ein cynnig Gofal Ychwanegol gyda dau ddatblygiad pellach, gan greu 107 cartref arall mewn dwy ardal newydd i fynd i’r afael a’r angen cynyddol, ond yn fwy na hynny byddwn yn helpu i greu lleoedd lle mae gan bobl ymdeimlad o gymuned ac yn gallu derbyn lefelau hyblyg o gefnogaeth fel y gallent barhau i fyw’n annibynnol mewn man y maent yn ei garu am gyfnod hirach.
Mae gennym uned fusnes, Gorwel, sy’n darparu gwasanaethau cefnogol ym meysydd camdriniaeth yn y cartref ac atal digartrefedd.
Mae dau is-gwmni hefyd yn weithredol o dan ambarêl Grŵp Cynefin: Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych sy’n gweithio i helpu pobl hŷn drwsio, addasu, cynnal a chadw eu cartrefi fel y gallent barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Mae Grŵp Cynefin yn sefydliad cryf yn ariannol gyda chyfleoedd cyffrous o’n blaenau, felly rydym yn chwilio am rywun i gynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad i gynnal systemau rheoli perfformiad a gwella gwasanaeth effeithiol sy’n cynnwys sicrhau cywirdeb data. Hefyd i weithio yn agos â’r Uwch Swyddog Llywodraethu gyda pob agwedd o faterion llywodraethu.
Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i unigolion sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai mewn awyrgylch Gymreig lle mae’r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i’r teulu.
Mwy na thai
Rydym eisoes yn adnabyddus am wneud mwy na rheoli a gosod tai yn unig. Rydym yn gweithredu fel Strwythur Grŵp, gydag arbenigedd ac adnoddau mewn byw’n annibynnol, addasiadau a gwasanaethau cymorth i bobl ifanc 16-24 oed, pobl hŷn a’r rhai sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn ein cymunedau yn ogystal a gwasanaethau cefnogol ar gyfer trais domestig ac atal digartrefedd. Mae ein cymunedau gwledig yn bwysig i ni ac felly hefyd yr amgylchedd, gyda phrosiect ein warden ynni gyda degawd o brofiad yn ein cymunedau.
Rydyn ni’n gwybod trwy ein prosiectau sydd wedi ennill sawl gwobr, megis Y Shed a HWB Dinbych, y gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn i unigolion a’u cymunedau ac rydyn ni’n dda am gael partneriaid i weithio gyda’i gilydd i gyflawni mwy nag y gallen ni yn unigol i adfywio cymunedau a chreu cyfleoedd.
Dyma ychydig mwy am beth ydym ni’n ei olygu pan fyddwn ni’n sôn am ‘Mwy na thai’
Cartrefi addas o safon mewn llefydd y mae pobl yn falch ohonynt
Bydd ein cartrefi yn y dyfodol yn ddiogel ac yn arloesol, yn cynnwys y dyluniadau diweddaraf lle gallwch chi weithio gartref. Byddant yn gartrefi am oes, gyda thechnoleg glyfar, yn rhatach i’w rhedeg, yn garbon isel ac yn lleoedd cysylltiedig a mannau gwyrdd hawdd eu cyrraedd lle gall ffrindiau, teuluoedd a phlant chwarae, tyfu a chyfarfod yn ddiogel.
Gwasanaethau a phrofiadau rhagorol i’n cwsmeriaid
Rydym am i bobl fod eisiau byw yn ein cartrefi, cael ein hymatebion yn iawn y tro cyntaf ac i’n cwsmeriaid ddweud bod ein gwasanaethau’n rhagorol. Ac mae’n hawdd i’n tenantiaid gysylltu a ni pryd bynnag maen nhw eisiau neu angen.
Gwella bywydau
Byddwn yn gwneud gwahaniaeth i iechyd a lles y bobl yn ein cymunedau. Bydd ein gwaith yn parhau i fynd i’r afael ag effeithiau tlodi (tlodi bwyd, tlodi digidol a thlodi tanwydd) a’u lleihau, gan ddod o hyd i atebion a chyfleoedd sy’n newid bywydau sy’n galluogi pobl i godi allan o dlodi.
Byddwn yn gweithio’n agos gyda phobl i’w galluogi i aros yn eu cartrefi yn ddiogel ac yn annibynnol cyhyd ag y bo modd, a pharhau i weithio gyda phartneriaid i gefnogi grwpiau bregus ac amrywiol o bobl, ac atal digartrefedd a chefnogi’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig.
Cynnal cymunedau
Bydd ein cymunedau’n ffynnu a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i hwyluso a chefnogi hyn. Byddwn yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol yn ein cymunedau, gan fuddsoddi mewn gwella iechyd a lles ein cymunedau wrth weithio gydag asiantaethau a grwpiau eraill i adfywio cymunedau.
Yn ogystal ag adeiladu mewn ardaloedd trefol, bydd gennym hefyd ffocws gwirioneddol ar ein cymunedau gwledig lle mae ail gartrefi yn arwain at eithrio pobl ifanc lleol trwy beri iddynt gael eu prisio allan o’r farchnad.
Twf cadarn a chynaliadwy
Byddwn yn parhau i adeiladu tai diogel, fforddiadwy o ansawdd rhagorol, gan gynnig tai ar gyfer gwahanol ddeiliadaethau sy’n diwallu angen lleol, boed yn ddemograffig, yn gymdeithasol neu’n economaidd. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn adeiladu cartrefi i safon di-garbon ac yn chwilio am gyfleoedd i ddenu grantiau ar gyfer adeiladau newydd ac ôl-osod i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol.
Byddwn yn archwilio cyfleoedd i ddefnyddio ein harbenigedd i adeiladu tai ar gyfer eu gwerthu ar y farchnad er mwyn cynhyrchu cyfleoedd i fuddsoddi mewn tai rhent mwy fforddiadwy a pharhau i geisio cyfleoedd gweithio rhanbarthol a lleol trwy weithio mewn partneriaeth sy’n ychwanegu gwerth, yn cyfateb i’n gwerthoedd ac yn helpu i adeiladu mwy o gartrefi.
CYFRIFOLDEBAU’R SWYDD:
Rheoli Perfformiad
1. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad efo’r systemau rheoli perfformiad a gwella gwasanaeth y Gymdeithas, gan gynnwys casglu, dadansoddi cywirdeb ac adolygu data ar gyfer adroddiadau rheoli perfformiad.
2. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad i gynnal gwiriadau ar hap (deep dives) i feysydd gwasanaeth penodol er mwyn sicrhau cywirdeb data
3. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad i gydlynu, casglu, dadansoddi ac adrodd ar berfformiad y Gymdeithas i gyrff allanol fel bo’r angen e.e. Uned Data Llywodraeth Cymru yn ôl yr amserlen ac o fewn canllawiau.
4. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad i fonitro perfformiad yn erbyn y safonau gwasanaeth, ynghyd â’r rhaglen flynyddol y Tenant Archwilwyr a Siopwyr Diogel
5. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad gyda’r broses gwynion ffurfiol gan gynnwys cydnabod derbyn cwynion swyddogol, cyfathrebu cyson gyda’r achwynwyr, diweddaru Active H (meddalwedd rheolaeth tai) hefo’r wybodaeth berthnasol, cadw trosolwg bod cwynion yn cael eu trin yn amserol, cynnal trefn canfod barn bodlonrwydd yr achwynydd ar ddiwedd y broses.
Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad efo’r broses ‘dysgu gwersi o gwynion’ a thracio unrhyw argymhellion gwella.
6. Cynorthwyo i gadw’r Gofrestr Risg yn gyfredol lle’n berthnasol, ynghyd â threfnu a chofnodi cyfarfodydd monitro’r gofrestr
7. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad trwy fod yn gyfrifol am dracio gweithrediad argymhellion archwilio mewnol, a chynorthwyo gyda’r ochr weinyddol o weithredu’r Cynllun Archwilio Mewnol e.e. trefnu dyddiadau archwilio mewnol, trefnu cyfarfodydd rhwng yr archwilwyr mewnol â’r swyddogion perthnasol, ayb
8. Cynorthwyo i gadw’r Cofrestr Polisi Corfforaethol yn gyfredol, sy’n cynnwys atgoffa rheolwyr pryd mae’r Polisïau i’w hadolygu.
9. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad gyda unrhyw dasgau perthnasol arall
Llywodraethu
10. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Llywodraethu i weinyddu cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli a’i Bwyllgorau, gan gynnwys drafftio agendau, dosbarthu adroddiadau, cadw cofnodion rhai cyfarfodydd a bod yn gyfrifol am dracio gweithredu penderfyniadau o gyfarfodydd.
11. Bod yn gyfrifol am sicrhau fod yr holl wybodaeth ar ‘Decision Time’ (meddalwedd llywodraethu) yn gyfredol gan gynnwys ffeilio cofnodion terfynol, cofrestrau presenoldeb a’r llyfrgell o bolisïau a dogfennau corfforaethol.
12. Bod yn gyfrifol am sicrhau fod Adroddiadau a Chofnodion holl gyfarfodydd y Bwrdd a’i Bwyllgorau yn gyfredol ar ‘Clic’ (mewnrwyd staff)
13. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Llywodraethu gyda threfniadau y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac unrhyw Gyfarfod Cyffredinol Arbennig
14. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Llywodraethu i weinyddu proses arfarniadau blynyddol Byrddau’r Grŵp a’r Pwyllgorau.
15. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Llywodraethu i weithredu Cynllun Hyfforddiant a Datblygiad Aelodau Bwrdd a bod yn gyfrifol am archebu cyrsiau hyfforddiant a chasglu adborth er mwyn gwerthuso’r hyfforddiant.
16. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Llywodraethu i sicrhau bod aelodau’r Bwrdd a’i Phwyllgorau yn cwblhau’r datganiadau blynyddol a’r ffurflenni perthnasol, megis Cytundebau Lefel Gwasanaeth, Cod Ymddygiad, Datgan Diddordeb ayb.
17. Casglu ystadegau blynyddol fel bo’r gofyn (megis proffil cydraddoldeb ac amrywiaeth aelodau Byrddau’r Grŵp) a drafftio adroddiadau clir a chryno.
18. Gweinyddu’r broses Datgan Lletygarwch a Budd (staff ac aelodau Bwrdd) a sicrhau fod y Cofrestrau perthnasol yn gyfredol.
19. Gweinyddu cyfarfodydd y Tîm Arweinyddiaeth yn absenoldeb Cynorthwy-ydd y Prif Weithredwr
20. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Llywodraethu gyda unrhyw dasgau perthnasol arall
Arall
21. Cynorthwyo’r Tîm Llywodraethu a Chydymffurfio gyda thasgau cyffredinol eraill
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Pecyn Gwybodaeth
Swyddog Gwella Busnes
Cysylltiad Swyddog Gwella Busnes