Swyddog Gweithredol Sirol

Swyddog Gweithredol Sirol

Trosolwg:

Byddwch yn darparu gwasanaethau i aelodau Undeb Amaethwyr Cymru (UAC). Bydd ganddoch brofiad a gwybodaeth ynghylch cynlluniau amaethyddol cyfredol Llywodraeth Cymru a’r datblygiadau arfaethedig yn y dyfodol.  Fe fyddwch yn gallu cwblhau'r mwyafrif o geisiadau grant ar gyfer ffermwyr sy'n aelodau o’r Undeb.  Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o ddarparu cyngor ar ffermydd ynghyd â gwybodaeth weithredol gref o'r sector amaeth.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Enw'r Cyflogwr: Undeb Amaethwyr Cymru
Cyflog: £31,650
Dyddiad Cau: 27/01/2025 (9 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Enw Cyswllt: Karen Royles
Ffôn: 01970820820
Lleoliad: 2 Llys Clwyd, Lon Parcwr, Ruthin, Rhuthun, Sir Ddinbych, Cymru, LL15 1NJ
Disgrifiad:

Ynglŷn â'r rôl:

Byddwch yn darparu gwasanaethau i aelodau Undeb Amaethwyr Cymru (UAC). Bydd ganddoch brofiad a gwybodaeth ynghylch cynlluniau amaethyddol cyfredol Llywodraeth Cymru a’r datblygiadau arfaethedig yn y dyfodol.  Fe fyddwch yn gallu cwblhau'r mwyafrif o geisiadau grant ar gyfer ffermwyr sy'n aelodau o’r Undeb.  Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o ddarparu cyngor ar ffermydd ynghyd â gwybodaeth weithredol gref o'r sector amaeth.

Byddwch hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pob cyfarfod a phwyllgor mewnol gyda’r aelodau, sef sail democrataidd yr Undeb, yn cael eu cynnal yn amserol ac yn effeithiol.  Byddwch yn gyfrifol am gyfathrebu ac egluro polisïau amaethyddol i'r aelodau yn ogystal â sicrhau bod barn yr aelodau'n cael ei chyfleu’n fewnol trwy broses adrodd yn ôl yr Undeb.

Fel Swyddog Sirol fe fyddwch yn gyfrifol am adeiladu a datblygu ein perthynas fel Undeb gyda rhyngddeiliaid lleol megis awdurdodau lleol, cynrychiolwyr etholedig a rhyngddeiliaid perthnasol eraill.

Fe'ch cefnogir gan dîm lleol o staff cynorthwyol a thîm y brif swyddfa.  Byddwch yn gweithio'n agos gyda'n tîm polisi amaethyddol yn ogystal â staff mewn 12 swyddfa sirol ledled Cymru.

Bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at strwythyr a datblygiad gwasanaethau amaeth-amgylcheddol UAC ar draws Gogledd Cymru.

Amdano chi:

Byddai gradd mewn Gwyddor Amaethyddol / Amgylcheddol neu bwnc cysylltiedig yn ddymunol.  Fe fyddai cymhwyster, neu’r awydd i weithio tuag at gymhwyster megis BASIS a / neu FACTS yn fanteisiol.  Bydd gennych hefyd ddealltwriaeth drylwyr o'r diwydiant ffermio ar lefelau cenedlaethol a'r DU.

Yn ychwanegol fe fydd angen i chi fod yn; 

· Gyfathrebwr naturiol sy'n mwynhau cyfarfod a helpu pobl

· Yn gyfrifol am hyrwyddo nodau a gwerthoedd yr Undeb

· Yn canolbwyntio ar ddenu aelodau newydd a gwasanaethu’r aelodaeth bresennol gan gyfrannu at dwf cyson i'r portffolio aelodaeth

· Hyrwyddo a gwerthu gwasanaethau eraill a ddarperir gan UAC Cyf.

· Rhoi cyngor i’r aelodau o ran rheolau a phrosesau amgylcheddol ac amaeth-amgylcheddol

· Sefydlu a chynnal rhwydweithiau lleol cryf gan ganolbwyntio ar anghenion y sector amaethyddol

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Prosiect - Dyffryn Caredig

Uwch-gyfieithydd

Prentis Cymorth Digidol