Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Gweinyddol
Swyddog Gweinyddol
Trosolwg:
Fel Swyddog Gweinyddol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu Age Cymru i wireddu ein gweledigaeth strategol a’n cenhadaeth drwy ddarparu cefnogaeth gweinyddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i drefnu cyfarfodydd gyda phartneriaid allanol ac yn cyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol a fydd yn galluogi’r Elusen i weithredu’n effeithiol.
Disgrifiad:
Categori’r Swydd: Cymorth Gweinyddol
Lleoliad: Caerdydd
Cytundeb: 35 awr yr wythnos - Cyfnod penodol tan ddiwedd mis Mawrth 2025
Dyddiad cau: 19 Tachwedd 2024
Mae Age Cymru, yr elusen genedlaethol sy’n cefnogi pobl hŷn yng Nghymru, yn chwilio am swyddog gweinyddol i ymuno â thîm llwyddiannus. Dyma gyfle gwych i chi ddefnyddio eich sgiliau gweinyddol er mwyn sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaeth arbennig i bobl hŷn.
Fel Swyddog Gweinyddol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu Age Cymru i wireddu ein gweledigaeth strategol a’n cenhadaeth drwy ddarparu cefnogaeth gweinyddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i drefnu cyfarfodydd gyda phartneriaid allanol ac yn cyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol a fydd yn galluogi’r Elusen i weithredu’n effeithiol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu eu hamser rhwng gweithio mewn swyddfa a gweithio yn eu cartrefi, felly bydd angen iddynt deithio i’r swyddfa yng Nghaerdydd yn gyson yn ôl yr angen.
A wnewch chi anfon llythyr eglurhaol gyda’ch cais, gan egluro sut rydych chi’n ateb y meini prawf a nodwyd ym manyleb y person. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau heb lythyr eglurhaol.
Mi fydd gennych chi:
• Brofiad o weithio mewn swyddfa brysur fel swyddog gweinyddol.
• Profiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid arbennig, yn fewnol ac allanol.
• Dull cadarnhaol a hyderus wrth ryngweithio.
• Profiad o gadw cofnodion, defnyddio taenlenni a chronfeydd data, a delio gyda gwybodaeth gyfrinachol.
• Y gallu i weithio’n hyblyg ac yn rhagweithiol ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm.
• Sgiliau ysgrifenedig a llafar gwych.
• Rydych chi’n deall sut i weithio gyda phecyn Microsoft Office 365.
Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig
· Cyflog cystadleuol, 27 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau’r banc + system brynu gwyliau blynyddol
· Cynllun pensiwn arbennig, sicrwydd bywyd, cynllun arian-yn-ôl ar gyfer iechyd a Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Gwybodaeth ychwanegol:
Bydd angen bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus gar i deithio ledled Cymru. Bydd yr unigolyn yn teithio tu hwnt i Gymru ac yn gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol. Bydd trefniadau yn cael eu gwneud ymlaen llaw.
Mae Age Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydyn ni’n annog pob ymgeisydd cymwys i ymgeisio. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol/partneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau i weithio’n hyblyg.
Mae Age Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu oedolion a phlant sy’n agored i niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Rydyn ni’n disgwyl i bawb sy’n gweithio gyda ni i rannu’r ymrwymiad hwn.
Rydyn ni’n eich annog i wneud cais cyn gynted â phosib. Byddwn ni’n edrych ar y ceisiadau drwy gydol y cyfnod hysbysebu, ac mae gennym hawl i gau’r hysbyseb ar unrhyw bryd.
Ni fyddwn ni’n derbyn cyfathrebiadau gan asiantaethau recriwtio nac asiantaethau gwerthu cyfryngau. Ni fyddwn yn derbyn CV ar hap gan asiantaethau recriwtio na’r ffioedd sy’n gysylltiedig â nhw.
Ymgeisiwch:
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at hr@agecymru.org.uk
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Job description
Swyddog Gweinyddol
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Swyddog Gweinyddol
Cysylltiad Swyddog Gweinyddol