Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Gweinyddol
Swyddog Gweinyddol
Trosolwg:
I ddarparu gwasanaeth cymorth gweinyddol i’r Aelod o’r Senedd gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal, ac i groesawu etholwyr/ymwelwyr i’r swyddfa.
‘The costs of this publication have been paid for by the Senedd Commission using public funds // Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn o Gomisiwn y Senedd gan ddefnyddio arian cyhoeddus’
Disgrifiad:
Bydd prif ddyletswyddau'r swydd yma yn cynnwys:
- Croesawu etholwyr/ymwelwyr i’r swyddfa, ateb y ffôn, cymryd negeseuon, gwneud apwyntiadau ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel sy’n briodol.
- Ymateb i negeseuon ebost ac ymholiadau tebyg yn broffesiynol gan ganolbwyntio ar y cwsmer.
- Cynorthwyo i baratoi a threfnu ymgyrchoedd penodol.
- Cynorthwyo’r Uwch Gynghorydd yn ôl y galw, gan gynnwys helpu i weinyddu’r system achosion ar-lein ac i gynnal y gwaith achos
- Cynorthwyo’r Rheolwr Ymchwil a Chyfathrebu drwy ddrafftio datganiadau ac erthyglau i’r wasg yn ôl y galw, a monitro cynnwys y papurau newydd lleol.
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o brosesu a chofnodi gwariant y Swyddfa
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal cyfleusterau’r swyddfa, gan gynnwys sicrhau trefniadau cynnal y cyfleusterau ac archebu offer/nwyddau’r swyddfa
- Mynychu cymorthfeydd yn ôl y galw, gan ddelio gydag unrhyw faterion sy’n codi
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Swydd ddisgrifiad
Ffurflen gais
Swyddog Gweinyddol
Cysylltiad Swyddog Gweinyddol